Hanes gaeafau caletaf Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae llawer ohonom yn cofio gaeafau garw 1982, 1963 - neu hyd yn oed 1947. Ond faint wyddoch chi am hanes rai o ysbeidiau gaeafol caletaf Cymru?
Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn bwrw golwg ar hanes tywydd garw yng Nghymru.
Y ffotograff cyntaf o ddyn eira
Roedd 1709 yn aeaf eithriadol o oer. Am dri mis cyfan gwelwyd tymereddau yn is na'r rhewbwynt gydag afonydd, llynnoedd a chaeau ledled Cymru wedi rhewi'n gorn. Cyn hwyred â mis Mehefin roedd straeon am deuluoedd yn ardal Llanllwni a Llanfihangel-ar-arth yn crwydro'r mynyddoedd i gasglu mawn ac yn sylweddoli bod y pyllau dŵr ar y llethrau yn dal wedi rhewi ers y gaeaf blaenorol!
Trawyd de Cymru gan storm eira sylweddol dros gyfnod y Nadolig 1853. Bu'n bwrw eira yn ddi-baid rhwng 27 Rhagfyr 1853 a 5 Ionawr 1854. Adroddwyd bod yr eira cyn uched â deuddeg troedfedd yn Llanymddyfri, Llangadog a Llandeilo.
Mae'n debyg mai yn ystod gaeaf 1853-4 y tynnwyd y ffotograff cyntaf erioed o ddyn eira ym Mhenlle'r-gaer ar gyrion Abertawe. Y ffotograffydd oedd Mary Dillwyn (1816-1906), ffotograffwraig cynharaf Cymru.
'I'r Haf Oer 1555'
Fel y gwyddom, mae'n bosib profi tywydd ansefydlog yng Nghymru trwy gydol y flwyddyn. Mae'n debyg y cafwyd haf anarferol o oer ym 1555. Tua'r flwyddyn honno fe gyfansoddodd Catrin ferch Gruffudd ap Hywel gerdd o'r enw 'I'r Haf Oer 1555.' Ynddi, mae'r bardd yn cyfeirio at wynt fel 'gwynt eira', cawodydd o law a chenllysg gan grynhoi mai 'gaeaf yn lle haf' a brofwyd y flwyddyn honno.
Yn yr un modd, cyfeirir at 1816 fel y 'flwyddyn heb haf.' Blwyddyn ynghynt, ym mis Ebrill 1815, ffrwydrodd Llosgfynydd Tambora ar ynys Sumbawa yn Indonesia gan ladd degau o filoedd o bobl. Mae rhai arbenigwyr yn honni mai dyma'r ffrwydrad folcanig mwyaf a welwyd ers dros ddeng mil o flynyddoedd ac o'i ganlyniad gollyngwyd miliynau o dunelli o lwch, lludw a sylffwr deuocsid i'r atmosffer gan achosi newid i'r hinsawdd yn fyd-eang.
Yng Nghymru gwelwyd tywydd oerach a gwlypach na'r arferol gyda rhai yn honni mai pedwar diwrnod sych a welwyd ym Meirionnydd rhwng mis Mai a mis Hydref 1816. Yn ei gerdd 'Cywydd y Cynhaeaf Gwlyb, 1816', mae Gwallter Mechain (Walter Davies, 1761-1849) yn ymhelaethu ar effaith y tywydd annymunol ar amaethyddiaeth yng Nghymru:
'Ni ffynnodd ein Gorffennaf,
Pob dyffryn a glyn yn glaf;
Yn Awst, gwlyb wair mewn ystod,
Medi heb fedi i fod.'
Gaeafau rhewllyd
Er y gall tywydd tymhestlog effeithio ar ein diwydiannau a chreu hafoc ar ein ffyrdd, i rai mae dyfodiad tywydd oerach yn destun i lawenhau. Yn ystod gaeaf caled 1895-6 cafodd trigolion Dyffryn Peris gyfle i fwynhau ychydig o chwaraeon gaeafol - a hynny ar garreg ei drws. Yn ôl gohebydd Y Faner, pan rewodd Llyn Padarn yn Llanberis roedd 'miloedd o bobl, hen ac ieuainc' yn croesi'r llyn ac yn 'ymbleseru trwy lithro ar y palmant.'
Llwyddodd Mr Closs Williams, Garreg Wen a Mr W. Lloyd Williams i groesi'r llyn gyda cheffyl a throl tra'r oedd Mr Holme a Mr Rigby yn dilyn eu cerbyd 'ar skates'! Yn naturiol, bu taith y pedwarawd yn destun siarad ar draws y fro. Cymaint oedd y cyffro'n lleol, anfonwyd y cerbyd yn ôl i ganol y llyn a '[ch]ymmerwyd darlun o'r olygfa hynod trwy y Camera.'
Yn ystod yr un cyfnod, rhewodd Llyn Tegid ger Y Bala hefyd. Yn ôl gohebydd Y Cymro roedd 'môr y Bala'n fôr o wydr' gydag 'ugeiniau yn ysglefrio ar ei wyneb.' Honnwyd ar y pryd bod y tymheredd wedi gostwng cyn ised â -28°C!
Yn nhrymder y Rhyfel Byd Cyntaf cafwyd gaeaf rhewllyd tu hwnt ym 1917. Adroddwyd ym mhapur newydd Y Genedl 'na welwyd eira mor drwchus yng nghyffiniau y Wyddfa er's chwarter canrif.' Erbyn mis Chwefror roedd 'hanner can' troedfedd o drwch' ar Garnedd Llywelyn ac roedd Rhaeadr Ewynnol ger Betws-y-coed wedi rhewi'n llwyr.
Draw yn y ffosydd yn Ffrainc bu'r tywydd oer yn annioddefol. Mewn llythyr a anfonwyd at Carneddog (Richard Griffith 1861 - 1947) gan Preifat John R. Evans - postman Beddgelert - cawn ddisgrifiad o'r amodau anodd a wynebai'r milwyr: 'Yr oedd cysgu allan o'r cwestiwn gan [ei bod hi] mor oer… yn enwedig mewn tent… dywedir na chafwyd gauaf cyn galeted ers dros ddeng mlynedd ar hugain ac yr wyf yn barod i gredu hyny... gan fawr obeithio na fydd raid treulio gauaf arall yma.' Lladdwyd John R. Evans ar 22 Hydref 1918, gwta fis cyn y cadoediad.
Gyda thalp da o'r gaeaf dal o'n blaenau, gadewch i ni obeithio na welwn ni ddeuddeg troedfedd o eira neu 'flwyddyn heb haf' yn 2023!
Hefyd o ddiddordeb: