Cwpan FA Lloegr: Abertawe 1-2 Bristol City
- Cyhoeddwyd
Mae Abertawe allan o Gwpan FA Lloegr ar ôl i Bristol City sgorio yn yr amser ychwanegol yn Stadiwm Liberty.
Fe fethodd yr Elyrch fanteisio ar sawl cyfle yn y gêm, gyda gôl Sam Bell yn sicrhau mae Bristol City fydd yn wynebu West Bromwich Albion yn y bedwaredd rownd.
Y tîm o Loegr sgoriodd gyntaf yn y gêm, cyn i'r eilydd Ollie Cooper sicrhau amser ychwanegol wrth sgorio gyda'i gyffyrddiad cyntaf i Abertawe.
Daeth Abertawe yn agos at sgorio eto. Ond gwastraffus oedd peniad Luke Cundle tra llwyddodd y golgeidwad i rwystro foli Ryan Manning, cyn i Bell sicrhau'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr.