Annog rhieni di-Gymraeg i ddewis Cylchoedd Meithrin

  • Cyhoeddwyd
Demi Towel, rhiantFfynhonnell y llun, Youtube/Mudiad Meithrin

Mae cyfres o fideos Saesneg newydd wedi cael eu creu gan y Mudiad Meithrin er mwyn ceisio annog mwy o rieni di-Gymraeg i ddewis addysg Gymraeg i'w plant.

Y bwriad yw ceisio annog mwy ohonyn nhw i anfon eu plant i Gylchoedd Ti a Fi a Chylchoedd Meithrin, gyda'r gobaith y bydd hynny'n arwain at eu hanfon i ysgolion Cymraeg maes o law.

Daw hynny wrth i ffigyrau'r Cyfrifiad diweddar ddangos cwymp sylweddol yn nifer y plant yng Nghymru sy'n medru siarad yr iaith, er gwaethaf targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Dywedodd un o swyddogion y Mudiad Meithrin fod yr ymgyrch newydd yn pwysleisio'r neges "fod Cymraeg ar gael i bawb, a bod e'n bwysig bod y rhieni yn deall hwn".

Taclo'r ansicrwydd

Mae'r cyfres o fideos, sydd wedi'u cynhyrchu gan dîm Talaith y De-ddwyrain Mudiad Meithrin a'u cyhoeddi ar YouTube, dolen allanol, yn cynnwys rhieni di-Gymraeg yn esbonio pam eu bod nhw wedi anfon eu plant i gylchoedd meithrin Cymraeg.

Yn ogystal â hynny, mae 'na oedolion sydd bellach yn gweithio drwy'r Gymraeg yn esbonio pam fod addysg meithrin, cynradd ac uwchradd Cymraeg wedi eu helpu nhw i gyrraedd ble maen nhw heddiw.

Dywedodd Rhian Thomas, Swyddog Cefnogi gyda'r Mudiad Ysgolion Meithrin, fod yr "ymateb ar-lein wedi bod yn ffantastig".

"Mae'n bwysig rhoi'r neges bod Cymraeg ar gael i bawb, a bod e'n bwysig bod y rhieni yn deall hwn," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

Ffynhonnell y llun, YouTube/Mudiad Meithrin
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fideos yn Saesneg yn bennaf, gydag is-deitlau dwyieithiog, a hynny er mwyn targedu rhieni di-Gymraeg

"Mae lot o ansicrwydd yn dod o rieni, ond fi'n credu mai'r neges bwysig yw bod e ddim yn rhwystredig, a bod y daith wedyn drwy ofal plant ac addysg Gymraeg yn anelu at fod yn ddwyieithog."

Cafodd Rhian ei hun ei magu mewn cartref di-Gymraeg, ac mae'n dweud bod ei thad wedi gwneud penderfyniad tebyg i'r hyn maen nhw nawr yn annog rhieni eraill i'w wneud.

"Roedd e hefyd yn dod o gartref di-Gymraeg, ond oedd lot o'i deulu fe yn siarad Cymraeg, felly penderfynodd Dad yn ifanc iawn i anfon ei blant i addysg Gymraeg, i ni fel teulu," meddai.

Dywedodd Rhian Thomas bod mwy o rieni'n dangos diddordeb mewn anfon eu plant i ysgolion meithrin Cymraeg, gyda'r mwyafrif ddim yn siarad yr iaith eu hunain.

Ar draws y wlad roedd 77% o'r rhieni sy'n anfon eu plant i addysg meithrin Cymraeg ddim yn siarad yr iaith eu hunain, meddai, "ac yn nhalaith y de-ddwyrain mae'n cynyddu wedyn i 97%".

'Teimlo'n rhan o'r gymuned'

Mae un o'r fideos yn cynnwys dwy ddynes sy'n gyn-ddisgyblion gyda'r Mudiad Meithrin, a bellach wedi llwyddo i gael swyddi yn y Gymraeg.

"Roedd fy rheini eisiau i fi gael y cyfleoedd wnaetho nhw ddim cael wrth dyfu lan," meddai Morgan Hart, 21, sy'n gweithio yng Nghylch Meithrin Canol Dref, Pen-y-bont ar Ogwr.

"Roedden nhw eisiau i bob drws fod ar agor i fi, a dyna wnaethon nhw. Nes i ddechrau mewn Cylch Meithrin yn ddwy oed, ac os chi'n dechrau mewn Cylch Meithrin mae'n gychwyn cadarn i bopeth arall."

Ffynhonnell y llun, YouTube/Mudiad Meithrin
Disgrifiad o’r llun,

Yn y fideo mae Morgan Hart ac Evie Wilkins yn rhannu sut mae addysg Gymraeg wedi eu helpu nhw yn eu bywydau

Ychwanegodd Evie Wilkins, 20, sydd bellach yn gweithio fel cynorthwyydd yn Ysgol Gyfyn Gwynllyw, fod "neb yn fy nheulu wedi bod i ysgol Gymraeg".

"Felly penderfynon nhw anfon i Gylch Meithrin oedd yn agos i ni," meddai.

"Wnaethon ni fwynhau'n fawr - mae plant yn pigo lan ieithoedd mor hawdd, mae'n hollol ddiymdrech."

Mae Alys a Tim Carter yn rhieni sydd nawr yn anfon eu plant i Gylch Meithrin, ac yn dweud eu bod nhw'n teimlo'n "rhan o'r gymuned yn syth" er nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, YouTube/Mudiad Meithrin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alys a Tim Carter ymhlith y rhieni di-Gymraeg sy'n ymddangos yn y fideos

"Maen nhw'n cael gymaint o hwyl… pethau bach fel yr wythnos hon roedd hi'n eistedd wrth fwrdd y gegin yn cyfri' i 10 yn Gymraeg a doedd gennym ni ddim syniad ei bod hi'n medru gwneud hynny!" meddai Alys.

Ychwanegodd Tim: "Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn magu ein plant yn ddwyieithog i fynegi eu hunain yn Gymraeg ac yn Saesneg.

"Dydyn ni ddim teimlo ein bod yn cael ein gadael allan gan nad ydyn ni'n siarad Cymraeg."