Gallai ysgolion gau ar ddiwrnodau streic, medd gweinidog
- Cyhoeddwyd
Fe allai rhai ysgolion yng Nghymru orfod cau o ganlyniad i streiciau gan athrawon, medd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Mae disgwyl i aelodau Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) Cymru streicio ar 1 Chwefror - y diwrnod cyntaf o bedwar diwrnod o weithredu.
Wrth siarad ar raglen Politics Wales dywedodd Jeremy Miles nad oedd hi'n glir faint yn union o ysgolion y byddai'r streic yn effeithio arnyn nhw, ond bod penaethiaid yn ceisio paratoi darpariaeth amgen ar sail y nifer o athrawon sy'n aelodau o'r undeb.
Mae cynghorau eisiau rhoi "wythnos o rybudd i rieni am effaith y streiciau", meddai.
Dyw hi dal ddim yn glir a fydd rhai plant yn cael eu dysgu ar-lein yn ystod diwrnodau streic.
Fe gafodd athrawon gynnig codiad cyflog o 5% y llynedd ond mae undeb yr NEU eisiau 12%.
Dywed ysgrifennydd Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, David Evans, bod undebau wedi cael cynnig taliad untro ddydd Iau ond nad oedd y "cynnig o bell ffordd yn ddigon da".
Fore Sul dywedodd Mr Miles bod trafodaethau gydag undebau yn parhau am bwysau gwaith a chyflog ond nad oedd y ddwy ochr "hyd yma wedi dod i bwynt lle mae modd datrys y materion hynny".
"Beth sydd wedi bod yn digwydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf yw bod undebau wedi bod yn dweud wrth ysgolion faint o aelodau sydd ganddynt ac mae penaethiaid nawr yn paratoi yn sgil hynny," meddai.
"Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau yn dymuno rhoi wythnos o rybudd i rieni am yr hyn y gall effaith y streic fod ar ysgolion."
Dim ailagor canolfannau pandemig
Wrth gael ei holi a fydd hi'n debygol bod rhai ysgolion yn cau atebodd Mr Miles: "Ie, fe fydd hyn yn digwydd.
"Dyw hi ddim yn glir faint o ysgolion yn union fydd yn cau ond mae penaethiaid yn ystyried hynny ar hyn o bryd.
"Yn amlwg mae 'na gyfyngiadau o ran be all penaethiaid ofyn i athrawon eraill wneud yn lle athrawon sy'n streicio."
Yn ystod y pandemig cafodd canolfannau arbennig eu sefydlu ar gyfer plant gweithwyr allweddol tra bod ysgolion ar gau ond dywedodd Mr Miles bod y rheolau a alluogodd hynny "yn benodol i'r coronafeirws".
"Fe fyddwn ni gyd yn pryderu am rieni sy'n gorfod cymryd amser bant i edrych ar ôl eu plant ac yn colli cyflog eu hunain oherwydd hynny," meddai.
"Does yr un ohonom am weld ysgolion yn cau - a dyna pam y gwnawn ni bopeth posib i ddod o hyd i ddatrysiad."
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi mynnu fodd bynnag bod angen i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am y streiciau yn hytrach na "beio unrhyw un ond am eu hunain".
"Mae'r streiciau yma yng Nghymru a'r tarfu sy'n wynebu disgyblion yn ganlyniad uniongyrchol i gamreoli Llafur, ffaith dyw gweinidogion Llafur jyst ddim yn cydnabod," meddai Laura Anne Jones AS, llefarydd y blaid ar addysg.
"Peidiwch anghofio bod disgyblion Cymru, dan Llafur, wedi cael £1,000 yn llai wedi'i wario arnynt o'i gymharu gyda disgyblion yn Lloegr.
"Mae disgyblion yng Nghymru wedi gweld digon o darfu yn barod yn ystod y pandemig, a nawr rydyn ni'n gweld canlyniadau hynny."
'Dim newid heb drafodaethau pellach'
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price eu bod yn "sefyll gyda'r rheiny sy'n streicio yng Nghymru", gan annog Llywodraeth Cymru i "ddangos arweiniad" i ddatrys y broblem.
"Gyda thrafodaethau wedi dod i stop mae'n bryd i'r Prif Weinidog ei hun ymyrryd yn bersonol, ac arwain trafodaethau rownd y bwrdd gydag undebau ar gyflogau," meddai.
"Mae angen cynnig cytundeb newydd a thecach i weithwyr sector gyhoeddus sy'n taclo annhegwch sylfaenol proses y cyrff adolygu cyflogau, allai fod yn sail i ddod â'r anghydfod yma i ben.
"Heb gymryd camau, bydd y sefyllfa'n aros fel y mae."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2023