Cofio'r brotest ar y bont
- Cyhoeddwyd
Yn 1963 fe aeth tua 70 o bobl ifanc i Aberystwyth ar gyfer yr hyn sy'n cael ei gydnabod fel protest dorfol gyntaf Cymdeithas yr Iaith.
Myfyrwyr o golegau Aberystwyth a Bangor oedd y rhan fwyaf a gymerodd ran yn y brotest, gyda'r bwriad o gryfhau statws swyddogol yr iaith Gymraeg.
Rhywun oedd yno y diwrnod hwnnw oedd yr awdur a sefydlydd gwasg Y Lolfa, Robat Gruffudd:
"Roedd hi'n fore rhewllyd o Chwefror pan ddaliodd tua 30 ohonom - o golegau'r Normal a'r Brifysgol - fws o Fangor i brotest yn Aberystwyth yn enw'r mudiad newydd annelwig, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Fel y syrthiai cawodydd ysgafn o eira ar ffenestr y bws, roedden ni'n teimlo'n fwy a mwy ansicr."
Fe ofynnodd gŵr, a aeth mlaen i fod yn un o haneswyr amlycaf Cymru, i Robat drefnu trafnidiaeth i Aberystwyth.
"Roedd John Bwlch Llan [yr hanesydd John Davies] wedi gofyn i fi drefnu'r bws a'r cyfan wyddwn i oedd y byddai 'na ryw dorcyfraith er mwyn denu gwysion Cymraeg neu ddwyieithog."
Y syniad gwreiddiol oedd meddiannu'r Swyddfa Bost yn Aberystwyth, ond fe newidiodd y cynllun fel aeth y diwrnod yn ei flaen, fel esbonia Robat Gruffudd.
"Ymgasglodd pawb gynta o flaen Swyddfa'r Post, ond er meddiannu'r adeilad a phlastro'r ffenestri â phosteri yn gofyn am statws i'r iaith, chafodd neb ŵys. Aethon ni i gyd wedyn i'r Home Caffe i ystyried y sefyllfa.
"Barn y trefnwyr oedd bod y brotest yn fethiant a chystal i bawb fynd adre a dod nôl rywbryd eto ar gyfer gweithred wahanol."
Yn ôl Robat Gruffudd doedd pawb ddim yn gytûn ynghylch y ffordd mwyaf effeithiol o weithredu yn dilyn yr ymweliad â'r Swyddfa Bost.
"Ond barn criw arall oedd bod hyn yn wastraff difrifol ar y dydd, a bod yn rhaid trio rhywbeth arall. A dyna'n syml y rhesymeg y tu ôl i feddiannu Pont Trefechan."
Mae Pont Trefechan yn mynd dros yr Afon Rheidol ac yn cario ymlaen ar y A487 i gyfeiriad Penparcau.
"Rwy'n cofio teimlo'n eitha anghysurus wrth ddilyn Gwilym Tudur ac eraill o'r Caffe i lawr i'r Bont. Dwy ddim yn siŵr am ba hyd y buon ni'n rhwystro'r traffig ond roedd yn teimlo fel tragwyddoldeb. Beth oedd gyda ni yn erbyn gwerin y dre ar eu ffordd i siopa neu beth bynnag?"
Sefyllfa potensial dreisgar
"Roedd rhai llanciau lleol hefyd yn teimlo 'run fath," meddai Robat, "a chafodd un ferch ei tharo ar lawr. Roedd yn sefyllfa beryglus a allai droi'n dreisgar - ond doedd dim sôn am yr heddlu!
"Felly roedd yn rhaid i ni gydnabod bod yr ail o'n gweithredodd y Sadwrn hwnnw yn fethiant, ac yn ôl â ni i Fangor, yn ddigalon braidd, trwy'r tywyllwch a'r eira."
Cafodd Robat Gruffudd sioc enfawr pan ddysgodd am yr ymateb i'r brotest.
"Dim ond y bore Llun wedyn y cawson ni'r sioc o weld y sylw anferthol i'r digwyddiad ar flaen y rhan fwyaf o'r papurau dyddiol, yn cario'r neges bod cenhedlaeth newydd o bobl ifainc yng Nghymru am fynnu cyfiawnder i'w hiaith."
Ond nid ar hap a damwain y daeth y cyhoeddusrwydd.
"Rwy'n deall erbyn hyn bod yna ddiolch i Tedi Millward, un o'r trefnyddion, am ofalu bod yna nifer o ffotograffwyr proffesiynol yno ymlaen llaw, oedd yn awchu am luniau ac am stori, a hynny a drodd y dydd o fethiant dwbl yn un o lwyddiant, ac o ramant hyd yn oed."
Mae 2 Chwefror, 1963, yn parhau i fod yn foment arwyddocaol yn hanes hawliau siaradwyr Cymraeg, ac mae'r bont ei hun hefyd yn parhau i gael ei ystyried yn eiconig yn hanes cyfoes Cymru.
Hefyd o ddiddordeb: