Rhyddhau dyn ar fechnïaeth yn dilyn marwolaeth perfformiwr drag
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 50 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth perfformiwr drag yng Nghaerdydd wedi'i ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd Darren Moore ei ganfod yn farw yn Windsor Place yng nghanol y ddinas am tua 19:35 nos Sul, ar ôl cael ei weld ddiwethaf yn oriau mân y bore hwnnw.
Roedd Mr Moore, 39 o Gasnewydd, yn perfformio dan yr enw CC Quinn a gynt fel Crystal Coutoure.
Mae'r dyn gafodd ei arestio ddydd Mercher bellach wedi'i ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Dywed Heddlu'r De fod teulu Mr Moore wedi cael gwybod.
Ymchwiliad yn parhau
Mae archwiliad post mortem eisoes wedi digwydd, ond dywedodd Heddlu'r De y bydd profion pellach yn cael eu gwneud i ddod o hyd i achos ei farwolaeth.
Maen nhw'n apelio ar unrhyw un welodd Mr Moore yng nghanol dinas Caerdydd yn oriau mân fore Sul i roi gwybod iddyn nhw.
Cafodd Mr Moore ei weld ddiwethaf am tua 05:00 wedi'i wisgo mewn drag, colur llawn ar ei wyneb a gwisg werdd lachar, wig melyn, a sodlau a bag diamante.
"Dyw ymchwiliadau cychwynnol heb gadarnhau unrhyw achos amlwg o farwolaeth, ond mae ymchwiliadau trylwyr yn parhau i ddigwydd i achos ac amgylchiadau marwolaeth Mr Moore," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Paul Raikes.
"Hoffem ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth wych i'r ymchwiliad hyd yma, sydd wedi bod o help mawr.
"Hoffwn ofyn eto i bobl beidio dyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol beth sydd wedi digwydd, a gadael i ymchwiliad yr heddlu ddilyn ei gwrs."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2023