Cau ffatri 2 Sisters: Rhybudd y gallai Môn fynd yn angof

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

2 Sisters: 730 o swyddi mewn ffatri yn Llangefni yn y fantol

Mae pryder y gallai Ynys Môn "gael ei anghofio amdano o fewn darlun Prydain", wedi i ffatri 2 Sisters gyhoeddi eu bwriad i gau'r safle.

Daeth cyhoeddiad fore Mercher y gallai'r 730 sy'n gweithio yn y ffatri dofednod yn Llangefni golli eu gwaith.

Yn ôl economegydd a gŵr busnes lleol roedd yr "ysgrifen ar y mur" oherwydd diffyg buddsoddiad yn y safle.

Dywedodd y cwmni, sy'n gweithredu'r safle ers 2013, eu bod wedi buddsoddi £5m yno dros y blynyddoedd.

Yn ôl yr Aelod o'r Senedd ar gyfer yr ynys, mae 2 Sisters wedi crybwyll y byddai angen tua £30m o fuddsoddiad er mwyn cadw'r ffatri ar agor.

Disgrifiad,

Dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford ei fod wedi cwrdd â phrif weithredwr cwmni 2 Sisters fore Iau

Bu sawl ergyd economaidd i Fôn dros y blynyddoedd diwethaf.

Fe ddaeth cynhyrchu i ben ar safle Alwminiwm Môn 14 blynedd yn ôl, ac y llynedd aeth cwmni ynni Orthios i ddwylo'r gweinyddwyr gan arwain at swyddi'n cael eu colli yn gwbl annisgwyl.

Er gobeithion rhai am orsaf niwclear ddadleuol newydd, fe gefnodd Hitachi ar gynllun Wylfa Newydd.

Mae'n golygu nad ydy o wedi digwydd, hyd yma o leiaf - oedd yn rhyddhad i'r rhai sy'n gwrthwynebu'n chwyrn.

Dydd Mawrth fe ddywedodd cwmnïau niwclear eraill sydd â diddordeb i godi atomfa fod angen mwy o eglurder gan Lywodraeth y DU i fedru bwrw 'mlaen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Edward Thomas Jones yn poeni y gallai Ynys Môn fynd yn angof

Yn ôl yr economegydd Edward Thomas Jones o Brifysgol Bangor, "mae 'na risg bydd Sir Fôn yn cael ei anghofio amdano o fewn darlun Prydain".

"Yn barod 'dan ni'n gwybod bod llai o draffig yn mynd ar draws yr ynys oherwydd does 'na'm gymaint o lorïau yn mynd rhwng Caergybi a Dulyn," meddai.

"Mae'n hollol bwysig bod cynrychiolwyr yn siarad stori dda am Sir Fôn ac yn gwneud yn siŵr bod busnesau yn gwybod beth sydd gynnon ni i gynnig iddynt."

'Diffyg buddsoddiad'

Ychwanegodd fod cwmnïau tebyg wedi cyflwyno technoleg robotig i'r gadwyn gynhyrchu, ond doedd dim datblygiadau o'r fath yn Llangefni.

"Be 'dan ni'n gweld heddiw ydy'r diffyg buddsoddiad 'na gan y cwmni," meddai.

"Dwi'n meddwl am ladd-dai dwi wedi eu gweld yn Nenmarc, lle maen nhw wedi bod yn buddsoddi yn helaeth mewn robots i wneud lot o'r gwaith.

"Tydw i ddim wedi gweld yr un peth yn digwydd yn Llangefni."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod y cwmni wedi awgrymu y byddai angen £30m er mwyn adnewyddu'r safle

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd ar gyfer Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth fod swm o ddegau o filiynau o bunnoedd wedi cael ei grybwyll gan y cwmni er mwyn gwneud y gwaith fyddai angen er mwyn diogelu'r swyddi.

"Os ydy rhywun yn edrych arno fel cwestiwn o 'faint o arian fyddai angen er mwyn prynu penderfyniad gan y cwmni i newid eu meddwl?' mae'r cwmni wedi ei gwneud hi'n glir i fi y byddai hwnnw'n swm mawr iawn, iawn o arian," meddai ar Dros Frecwast.

Ychwanegodd fod £30m yn "swm maen nhw wedi'i grybwyll ar gyfer gwneud gwaith cynnal a chadw".

"Mae rhywun yn gofyn, beth pe bai'r gwaith cynnal a chadw wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd i gadw'r lle 'ma mewn cyflwr gwell?"

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid i lywodraethau Cymru a'r DU "fod o ddifrif am ddatblygu'r economi mewn ardaloedd gwledig" meddai Llinos Medi

Mae arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi, yn galw am ailfeddwl rhaglenni datblygu economaidd er mwyn rhoi mwy o rym yn lleol, yn hytrach na chenedlaethol.

"Dydy strategaeth datblygu'r economi yn amlwg ddim yn gweithio, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel hyn," meddai ar Dros Frecwast fore Iau.

"'Da ni gyd yn ymwybodol fod tynnu grym o lywodraeth leol wedi bod yn digwydd. Mae datblygu'r economi wedi mynd yn gynlluniau rhanbarthol a chenedlaethol, felly s'gena ni ddim llawer o opsiynau fel awdurdodau lleol bellach.

"'Da ni'n cynnal gwasanaethau statudol, ac mae datblygu'r economi wedi mynd yn rhywbeth cenedlaethol.

"Mae'n rhaid rŵan i'r llywodraeth - yng Nghaerdydd a San Steffan - fod o ddifrif am ddatblygu'r economi mewn ardaloedd gwledig.

"Dwi isio bod yn rhan o wlad lle mae pawb yn gyfartal. Dim hynny sy'n digwydd ar hyn o bryd."

Dim trafod gyda'r cyngor na'r llywodraeth

Ychwanegodd pe bai'r cwmni "o ddifrif" am achub y swyddi y bydden nhw wedi trafod y mater gyda'r cyngor a'r llywodraeth, ond na ddigwyddodd hynny.

Ond dywedodd Ms Medi y bydd hi'n "bachu ar bob cyfle" yn ystod y cyfnod ymgynghori er mwyn ceisio diogelu'r safle a'r swyddi.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Huw Watkins ei bod yn "anochel" y byddai'r ffatri yn dioddef heb fwy o fuddsoddiad

Mae Huw Watkins, cyfarwyddwr cwmni arloesedd BIC Innovation, â swyddfa yng nghanolfan M-Sparc tua thair milltir o Langefni.

"Os nad ydych chi'n fodlon buddsoddi mewn prosesau, mewn technoleg, mewn gwella effeithlonrwydd, mae'r ysgrifen ar y mur," meddai.

"Mae'n anochel wedyn bod unrhyw ffatri gweithgynhyrchu - bwyd neu unrhyw beth arall - yn mynd i ddioddef yn y byd cystadleuol sydd ohoni."

Disgrifiad o’r llun,

"Does 'na ddim un cyflogwr sy'n mynd i allu cyflogi 700 o bobl dros nos," meddai Dafydd Gruffydd o Fenter Môn

Er yr ergydion, mae Menter Môn yn datblygu sawl cynllun mawr eu hunain, gan gynnwys hwb hydrogen a phrosiect ynni llanw Morlais.

Ond mae'r rhain yn cymryd amser i'w gwireddu, ac yn annhebygol o fod o fudd i'r 730 o bobl a allai fod yn chwilio am swyddi yn y tymor byr.

"Does 'na ddim un ateb," meddai Dafydd Gruffydd, rheolwr gyfarwyddwr Menter Môn.

"Mae angen cefnogi'r bobl yma yn y tymor byr a'r tymor canolig. Fyddan ni'n rhan o weithlu sy'n ymateb i hwn, ac yn cynnig cymorth i gychwyn busnes, er enghraifft.

"Yn y tymor canolig, 'dan ni angen cefnogi mwy o fusnesau yn yr ardal i gyflogi mwy o bobl, ond does 'na ddim un cyflogwr sy'n mynd i allu cyflogi 700 o bobl dros nos."

Colled o £95.5m

Ochr yn ochr â dweud eu bod wedi buddsoddi £5m dros ddegawd yn y safle yn Llangefni, digrifiodd 2 Sisters y ffatri fel un "hen" sydd ddim yn "effeithlon" bellach.

"Mae'r gost o gynhyrchu yma yn uwch, a byddai gofyn am fuddsoddiad sylweddol i gyrraedd yr un safonau â'n ffatrïoedd eraill," meddai datganiad.

"Fe all ein cynnyrch gael ei greu'n fwy effeithlon mewn rhan arall o'n hystâd."

Yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021, fe waeth y cwmni golled o £95.5m.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AS lleol, Virgina Crosbie, wedi dweud fod cau'r ffatri yn "newyddion trychinebus"

Dydd Mercher, dywedodd yr AS Ceidwadol dros Ynys Môn, Virgina Crosbie, y byddai'n trafod dyfodol 2 Sisters gyda'r canghellor, a'i bod yn cefnogi sefydlu grŵp gorchwyl yn lleol.

Ar lawr Tŷ'r Cyffredin, dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak, fod gan "yr Adran Gwaith a Phensiynau weithdrefnau ar waith i gefnogi cymunedau pan fydd sefyllfaoedd fel hyn yn codi" ac y byddan nhw'n "darparu swyddi da sy'n talu'n dda".

Pynciau cysylltiedig