Caerdydd yn penodi Sabri Lamouchi fel rheolwr newydd
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Sabri Lamouchi ennill 12 o gapiau i Ffrainc yn ystod ei yrfa fel chwaraewr
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi penodi Sabri Lamouchi fel rheolwr - y trydydd pherson i arwain y tîm y tymor hwn.
Yn ymuno â chyn-reolwr Nottingham Forest fydd cyn-amddiffynnwr yr Adar Gleision, Sol Bamba, sydd wedi'i benodi yn is-reolwr.
Cafodd Steve Morison ei ddiswyddo fel rheolwr y clwb ym mis Medi, tra bod ei olynydd Mark Hudson wedi para 118 diwrnod yn unig yn y rôl.
Bydd Dean Whitehead, Tom Ramasut a Graham Stack yn parhau'n rhan o staff hyfforddi'r clwb.

Sol Bamba, a chwaraeodd i Gaerdydd am bum mlynedd o 2016, fydd is-reolwr Lamouchi
Yr her sy'n wynebu Lamouchi, 51, fydd cadw Caerdydd yn y Bencampwriaeth, gyda'r clwb un pwynt yn unig uwchben safleoedd y cwymp ar hyn o bryd.
Fe wnaeth Lamouchi ennill 12 o gapiau i Ffrainc yn ystod ei yrfa fel chwaraewr.
Bu'n rheolwr ar dîm cenedlaethol Côte d'Ivoire, clwb El Jaish yn Qatar, a Rennes yn Ffrainc ym mlynyddoedd cynnar ei yrfa fel rheolwr.
Cafodd ei flas cyntaf o bêl-droed yn y DU fel rheolwr Nottingham Forest yn 2019, ac yn fwyaf diweddar bu'n rheoli yn Qatar eto, y tro hwn gyda Al-Duhail.