Clare Drakeford: Gwraig y Prif Weinidog wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Mark a Clare DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark a Clare Drakeford

Mae Clare Drakeford, gwraig y Prif Weinidog Mark Drakeford, wedi marw.

Yn ystod y cyfnod clo datgelodd Mr Drakeford ei fod wedi symud allan o'i gartref ac i mewn i adeilad yn ei ardd i gadw ei deulu'n ddiogel, gan ddweud bod ei wraig a'i fam yn "fregus".

Ddydd Sadwrn cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y newyddion gyda "thristwch mawr".

Dywedodd llefarydd: "Mae meddyliau pawb yn Llywodraeth Cymru gyda'r teulu ar hyn o bryd a gofynnwn i'w preifatrwydd gael ei barchu."

Teyrngedau

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, ei fod wedi ei "dristhau" o glywed am ei marwolaeth.

"Mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda Mark Drakeford a'i deulu ar yr amser eithriadol o anodd hwn," meddai.

"Ar yr achlysuron y gwnes i gwrdd â Clare, roedd hi bob amser yn ddynes hyfryd, yn gynnes ac yn garedig iawn."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Prif Weinidog a'r wraig fynychu gwasanaeth er cof am y Frenhines yng Nghadeirlan Llandaf y llynedd

Ar ran y Prif Weinidog y DU dywedodd llefarydd Downing Street fod Rishi Sunak wedi mynegi ei gydymdeimlad â Mr Drakeford yn breifat.

Mewn datganiad dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer: "Ar ran y Blaid Lafur gyfan, rwy'n anfon ein cydymdeimlad dwysaf at Mark a'r teulu i gyd.

"Rwy'n gwybod pa mor agos oedden nhw fel cwpl, ac ni allaf ond dychmygu'r ymdeimlad o golled y mae Mark a'r teulu cyfan yn ei deimlo.

"Y maent oll yn ein meddyliau a'n gweddïau."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Adam Price 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏳️‍🌈

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Adam Price 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏳️‍🌈

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon: "Mae fy meddyliau gyda Mark a'i deulu ar yr adeg ofnadwy o drist yma".

Pan gyfarfu hi â Mrs Drakeford, dywedodd ei fod yn "amlwg pa mor gryf roedd y cwlwm rhyngddi hi a Mark".

"Ni allaf ond dychmygu dyfnder y galar y mae'n ei deimlo. Rwy'n anfon cariad a chryfder ato," meddai.

'Anfonwn ein cariad'

Dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones: "Fel Senedd, rydyn ni'n drist iawn o glywed am farwolaeth Clare Drakeford.

"Mae Mark a'i deulu yn ein calonnau ni oll fel aelodau'r Senedd ac anfonwn iddynt ein cydymdeimlad, ein cariad a'n cefnogaeth."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds: "Rwy'n estyn ein cydymdeimlad dwysaf i Mark, ei deulu a'i ffrindiau."

Ychwanegodd bod ei meddyliau gyda Mr Drakeford ar yr "amser anodd iawn yma".

Cynigiodd is-lywydd Sinn Fein, Michelle O'Neill, ei chydymdeimlad gan ddweud: "Mae fy meddyliau a'm gweddïau gydag ef a'i deulu wrth iddyn nhw alaru eu colled a dod i delerau â'u galar."