Cwpan FA Lloegr: Wrecsam 3-3 Sheffield United
- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid i Wrecsam wynebu Sheffield United eto ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr wedi gêm gyfartal gyffrous ar y Cae Ras.
Llwyddodd tîm Phil Parkinson i daro'n ôl ar ôl ildio gôl gynnar i fynd ar y blaen ddwywaith cyn i'r ymwelwyr, sydd tair cynghrair yn uwch, unioni'r sgôr ym munudau ychwanegol yr ail hanner.
Dyma oedd y tro cyntaf i Wrecsam gyrraedd y rownd yma yn y gystadleuaeth ers 2000, ar ôl sicrhau eu lle trwy drechu Coventry ddechrau'r mis.
Cafodd Wrecsam y dechrau gwaethaf posib pan sgoriodd y tîm o'r Bencampwriaeth gwta funud wedi'r gic gyntaf.
Llwyddodd Oliver McBurnie i gael y blaen ar yr amddiffyn a phenio croesiad Tommy Doyle i'r rhwyd.
Cafodd amddiffynnwr Wrecsam, Jordan Tunnicliffe anaf tua'r un pryd a bu'n rhaid i Max Cleworth ddod i'r maes yn ei le bum munud i mewn i'r gêm.
Ychydig wedi hynny, roedd ei gyd-chwaraewr yng nghanol yr amddiffyn, Aaron Hayden i'w weld yn cael trafferth gyda'i goes ac fe gafodd yntau hefyd ei eilyddio, gyda'r chwaraewr canol cae James Jones yn llenwi'r bwlch.
Er hynny, fe lwyddodd Wrecsam i gadw eu pennau a sicrhau mwy a mwy o feddiant.
Roedd yna sawl cyfle i'w prif sgoriwr, Paul Mullin - ac un apêl aflwyddiannus am gic o'r smotyn pan aeth i'r llawr wrth gicio'r bêl heibio'r golwr, Adam Davies - ond roedd Sheffield United yn edrych yn fygythiol ar brydiau hefyd.
Oherwydd yr anafiadau ar ddechrau'r gêm roedd yna saith munud ychwanegol o chwarae, ac fe ddaeth yr hanner cyntaf i ben gydag ergyd yn syth i'r wal wedi i Wrecsam sicrhau cic rydd.
Roedd yna ddechrau cyffrous i'r ail hanner a phwysau mawr ar golwr ac amddiffyn Sheffield United wedi i'r bêl fynd yn ôl ac ymlaen ar draws y cwrt cosbi ac yna dros yr ystlys am dafliad i'r tîm cartref.
O'r tafliad hwnnw, gan Ben Tozer, fe lwyddodd Thomas O'Connor i'w gyfeirio at James Jones a rwydodd i unioni'r sgôr wedi 49 o funudau.
Sgoriodd O'Connor ei hun ar yr awr i roi Wrecsam ar y blaen - syrthiodd y bêl i'w lwybr wedi i gic gornel daro'r amddiffynnwr Billy Sharp.
Bedair munud barodd y fantais cyn i amddiffyn Wrecsam fethu sawl cyfle i glirio'r bêl o'u cwrt chwech ac fe rwydodd Oliver Norwood i wneud hi'n 2-2.
Wedi 71 o funudau cafodd Wrecsam fantais wahanol ac annisgwyl pan gafodd ymosodwr Sheffield United, Daniel Jebbison, gerdyn coch am ddigwyddiad oddi ar y bêl yn ymwneud â Tozer.
Daeth Ollie Palmer yn agos at sgorio pan darodd y bêl y trawst, cyn i Paul Mullin - gyda llai na phum munud ar y cloc - ddechrau a darfod y symudiad a arweiniodd at drydedd gôl Wrecsam.
Mullin yw'r chwaraewr cyntaf nad sydd yn y prif gynghrair ers tymor 1984-85 i sgorio ymhob rownd o'r gystadleuaeth hyd at y rownd yma.
Roedd y dorf yn gorfoleddu ond roedd yna nerfusrwydd hefyd wedi i'r dyfarnwr ychwanegu saith munud o chwarae.
Cynyddodd yr ymwelwyr y pwysau ac roedd yna anghrediniaeth ymysg y cefnogwyr cartref pan lwyddodd John Egan i ganfod gofod yng nghanol amddiffynwyr Wrecsam i daro gic gornel Tommy Doyle i'r rhwyd.
3-3 oedd y sgôr terfynol felly ar ddiwedd gêm arall ar y Cae Ras a fydd yn aros yn y cof am sbel.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2023