Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Zebre 24-28 Y Gweilch
- Cyhoeddwyd
Fe frwydrodd y Gweilch yn ôl i hawlio buddugoliaeth pwynt bonws yn Yr Eidal brynhawn Sul.
Ar ôl pum munud yn unig roedd tîm Toby Booth ar y blaen o 14-0, diolch i geisiau gan Harri Deaves a Tiaan Thomas-Wheeler, dim ond i ildio bedair gwaith heb ymateb.
Ond wrth i'r Gweilch wynebu wythfed colled cynghrair o'r tymor fe frwydron nhw yn ôl.
Daeth gobaith diolch i ymdrech Morgan Morris toc wedi'r awr.
Fe seliwyd y pwyntiau wrth i Reuben Morgan-Williams groesi gyda 10 munud yn weddill.
Er ymdrech hwyr y tîm cartref, llwyddodd y Gweilch i sicrhau'r fuddugoliaeth werthfawr.
Golyga'r canlyniad fod y Gweilch yn codi i 12fed yn y tabl, yn lefel ar bwyntiau gyda Chaerdydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2023