'Cynnydd gamblo niweidiol yn effeithio ar gymunedau Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Peiriant gambloFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy na thraean o bobl sy'n gamblo'n niweidiol yn dioddef anhwylder iechyd meddwl

"Efo'r wasgfa sydd ar safonau byw, mae pobl yn mynd i chwilio am ryw ffordd hawdd o ddatrys eu problemau nhw, ac mae gamblo nawr yn demtasiwn."

Dyna farn Wynford Ellis Owen, ymgynghorydd sy'n delio â phobl sy'n gaeth i gamblo.

Yn ôl y Prif Swyddog Meddygol, Frank Atherton gall "gamblo niweidiol gael effaith andwyol ar fywydau pobl".

Dywed adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod gamblo niweidiol yn fater iechyd cyhoeddus brys.

'Gwybodaeth yn arf pwysig iawn'

Wrth siarad â Cymru Fyw am lefelau gamblo yng Nghymru, dywedodd Wynford Ellis Owen: "Does dim amheuaeth bod 'na gynnydd a hynny'n amlwg.

"Mae'n broblem sylweddol iawn yn ein cymdeithas ni rŵan."

Disgrifiad o’r llun,

Wynford Ellis Owen yn agor Y Stafell Fyw yn swyddogol yn 2011

Roedd Mr Owen yn un o'r rhai a oedd yn gyfrifol am sefydlu Stafell Fyw Caerdydd - elusen sy'n helpu unigolion sy'n gaeth i gamblo, alcohol neu gyffuriau.

"Mae ymddygiad caethiwus sy'n ymwneud â gamblo fel arfer yn digwydd mewn anwybodaeth.

"Dydy dioddefwyr ddim yn sylweddoli beth sy'n digwydd iddyn nhw a beth yw'r canlyniadau ac felly mae rhoi sylw i addysg, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar yn rhan bwysig iawn o ddelio â'r broblem," meddai.

Addysg gynnar yw un o brif argymhellion yr adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywed yr adroddiad bod angen addysg mewn ysgolion, ond bod addysg i rieni a gweithwyr proffesiynol rheng flaen hefyd yn allweddol.

"Mae cael y wybodaeth yn arf pwysig iawn," ategodd Mr Owen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gall gamblo unigolyn effeithio ar eu teulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach

Yn ôl Annie Ashman, Cofrestrydd Arbenigol Iechyd Cyhoeddus gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r dystiolaeth yn dangos y gall gamblo gael effaith ddinistriol ar iechyd a llesiant unigolion a'r gymuned ehangach, gyda phobl yn profi "dyledion, colli swyddi ac iselder".

Mae'r adroddiad yn nodi:

  • bod bron chwech o bob 10 o'r rhai sy'n gaeth i gamblo ag anhwylder camddefnyddio sylweddau;

  • y bydd tua thraean yn profi trais domestig;

  • bydd gan fwy na thraean anhwylder iechyd meddwl.

Fe wnaeth yr adroddiad hefyd nodi bod "cyswllt cynyddol rhwng gamblo a hapchwarae (chwarae gemau ar-lein) gan ddweud bod angen cydnabod a gweithredu ar y wybodaeth hon.

Effaith ar deuluoedd

Mae'r adroddiad, fel Mr Owen, yn tynnu sylw at effeithiau costau byw cynyddol gan ddweud bod angen "mynd i'r afael â'r baich ariannol ac emosiynol ychwanegol y mae niwed sy'n gysylltiedig â gamblo yn ei roi ar rai" wrth i fwy o bobl yn y DU fyw mewn tlodi.

Fe ddywedodd Mr Owen hefyd bod cryn deimlad o "euogrwydd a chywilydd" o gwmpas gamblo a bod "aelodau'r teulu hefyd yn cael eu tynnu mewn iddo fo".

"Mae teuluoedd yn aml yn ceisio helpu aelodau o'r teulu sy'n gamblo trwy rwystro'r anwylyn hwnnw rhag gorfod delio gydag anafiadau sy'n deillio o'i ymddygiad."

Ond mae'n rhybuddio y gall hyn achosi i'r ymddygiad barhau a bod angen i unigolion sy'n dioddef o gamblo niweidiol gael cyfle i wynebu'r effeithiau mae'r arferiad yn ei gael ar eu bywydau.

"Mae dioddefaint yn rhan o adferiad. Pan maen nhw wedi dioddef digon yn aml iawn mae pobl yn newid eu ffyrdd."

Mae'r adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn nodi bod teulu a ffrindiau yn gallu profi niwed yn sgil gamblo rhywun arall ac mae'n argymell bod "angen sicrhau gwasanaethau priodol i'w cynorthwyo, a lleihau'r niwed y maent yn ei brofi".