O ble daw rhai o eiriau bob dydd y Gymraeg?
- Cyhoeddwyd
Wyddoch chi bod modd olrhain nifer o eiriau Cymraeg syml i hen ieithoedd Ewropeaidd? Mae pob gair wedi esblygu o un o'r ieithoedd hyn ar hyd y blynyddoedd, ac mae hyn o ddiddordeb mawr i'r ieithydd a cheidwad y grŵp 'Iaith' ar Facebook, Guto Rhys. Dyma fo yn ein tywys drwy hanes pum gair hynod gyffredin.
Edrychwch o'ch cwmpas. Beth welwch chi? Byddwn i'n amau eich bod yn gweld o leiaf rhai o'r canlynol… golau, drws, llawr, to, ffenestr a bwrdd/bord. Ond tybed faint ohonoch sy'n gwybod o ble daw'r geiriau hyn? Efallai byddech yn synnu. Mae cryn dipyn o hanes y Gymraeg ynddynt.
Golau
Mae'n debyg eich bod oll yn gyfarwydd â go- fel yn 'go dda' a 'go lew'. Mae hwn yn gyffredin iawn yn yr iaith, mewn geiriau fel 'gofyn' a 'goddef', ac mae hefyd i'w weld yn Govan yn Glasgow, ond stori arall yw honno.
Yr ail elfen yw 'lleu' ac mae hon i'w gweld yn 'lleuad' a 'lleufer'. Daw'r rhain o'r ffurf Gelteg *lugu-, a ffurf arall oedd yn perthyn oedd *luk- 'llachar'. Rhoddodd hwn amlwg, golwg a llygad ac mae i'w weld mewn enwau afonydd fel Llugwy. Mae'n bosibl bod yr enw Lleu yn perthyn yma hefyd, ac os felly mae i'w weld (mae'n debyg) yn Dinas Dinlleu. O droi'r elfennau hyn o chwith cawn Lleuddin (Caer Lleu), a hwn sydd wrth wraidd Lyon yn Ffrainc, Lothian yn yr Alban (Gododdin) a Leyden yn yr Iseldiroedd. Rhoddodd *lug-rā ein gair lloer.
Beth am ieithoedd eraill sy'n perthyn i'r Gymraeg? Yn Saesneg mae gennym light, ac mewn geiriau Saesneg sy'n dod o'r Lladin mae gennym lunar, a lunatic (meddyliwch am lloerig a moonstruck), a hefyd y geiriau translucent, ac illustrate. O'r iaith Roeg cawsom lynx a leukaemia.
Drws
Ni ddigwydd y gair hwn yn y Gernyweg na'r Llydaweg ond mae i'w gael yn yr Wyddeleg fel doras. Yn wreiddiol cyfeirio at y bwlch a wnai, tra mae'r gair am y peth ei hun yw dôr, ac yn wir i chi yr un gair yw hwn â door yn Saesneg. Coeliwch neu beidio ond y gair Lladin cytras yw forum sef y lle tu allan (i'r drws) i gynnal cyfarfodydd.
Gall drws olygu bwlch hefyd fel yn Drws-y-coed a Drws Ardudwy ac mae'n bosibl bod dau enw lle yn Yr Hen Ogledd, yn Cumbria, yn cadw'r ystyr hon. Dyna mae'n debyg yw Truss Gap (drws drws!) a Trussmadoor.
Llawr
Rydych eisoes yn gwybod am y gair Saesneg cytras! Floor yw. Sut mae hyn yn bosibl? Wel petaem yn mynd yn ôl ryw bum mil o flynyddoedd i'r iaith Proto-Indo-Ewropeg rywle tua'r Wcráin mae'n debyg, byddech yn clywed rhywbeth fel *plār-. Un o nodweddion y Gelteg yw iddi golli'r sain 'p', ac felly cawsom *lār-, sydd yn swnio'r un fath â'r gair Gwyddeleg modern lár. Datblygodd hwn yn rheolaidd yn y Gymraeg llawr.
Mewn Germaneg, mamiaith yr Almaeneg a'r Saesneg, digwyddodd rheol Grimm (i.e. y brodyr gasglodd straeon fel Eira Wen) sef ein treiglad llaes ni. Felly cafwyd *flār- ac yna *flōr- a floor.
To
Mae arbenigwyr yn ailffurfio'r gair Celteg fel *tog- sy'n golygu 'gorchudd'. Daw hwn yn ei dro o hen air Proto-Indo-Ewropeg *(s)teg-. Weithiau gall geiriau yn yr hen iaith hon ddechrau gydag s- ond weithiau nid yw yno, ond wyddon ni ddim pam. Dyma sy'n cyfri am melt a smelt yn y Saesneg. Heb yr s y gair Lladin sy'n cyfateb yw toga. Yn Saesneg y gair cytras yw thatch.
Cofiwch inni weld bod rhyw dreiglad llaes mewn ieithoedd Germaneg (t > th). Beth am y gair Groeg? Meddyliwch am fwystfil o'r cynfyd sydd â rhywbeth tebyg i deils ar ei gefn…. stego-saurus!
Ffenest
Dyna ddigon am y Gelteg am y tro. Am ganrifoedd lawer bu rhannau o Brydain yn rhan o Ymerodraeth Rhufain. Yr oedd hyn cyn i iaith Germaneg neu Saesneg gyrraedd yr ynys hon. Mae rhyw fil o eiriau Lladin yn y Gymraeg ond mae dylanwadau mawr eraill.
Mae'n siŵr eich bod eisoes yn gwybod bod geiriau fel pont yn dod o'r Lladin. Mwy rhyfedd yw bod y geiriau braich a coes hefyd yn tarddu o'r iaith honno. Un o'r geiriau gweddol amlwg eraill yw ffenestr sy'n dod o'r Lladin fenestra. Mae'n weddol amlwg bod hwn yn cyfateb i fenêtre yn y Ffrangeg, ond beth am y to bach yma? Wel, yn ystod yr oesoedd canol collodd y Ffrancod y sain s mewn llawer o eiriau, ond byddent yn ei hysgrifennu uwchben y llafariad, sef fenestre. Ond roedd y llafariad bellach yn hir, wedi ymestyn i gymryd lle yr s a gollwyd, felly daethpwyd i ddefnyddio'r s hon, a oedd erbyn hynny yn edrych fel ê i nodi bod llafariad yn hir… ac o hwn y cawsom ein to bach yn y Gymraeg.
Bwrdd / Bord
O Saesneg Canol board y daw hwn. Pethau digon prin oedd byrddau yn yr oesoedd canol i raddau helaeth, oherwydd prinder lle mewn tai. Byddai pobl yn gosod ystyllod ar draws dau drestl, a dyna sut y daeth board yn Gymraeg i olygu bwrdd.
Yn y Gogledd Cymreigiwyd bord yn bwrdd, ond sylwch ar y gwahaniaeth rhwng y ford ac y bwrdd. Pam bod y cyntaf yn fenywaidd a'r ail yn wrywaidd? Oherwydd bod i 'o' ac 'w' naws wahanol fel ag yn crwn a cron, a trwm a trom.
Dr Guto Rhys yw awdur y gyfrol Amrywiaith, sydd yn trafod tafodieithoedd y Gymraeg.
Hefyd o ddiddordeb: