Joe Allen ddim yn chwarae yng ngêm gyntaf Cymru

  • Cyhoeddwyd
Joe AllenFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Joe Allen helpu Cymru i gyrraedd Pencampwriaeth Cwpan y Byd yn Qatar - bydd y tîm yn chwarae am y tro cyntaf ers 1958

Fydd y chwaraewr canol cae, Joe Allen, ddim yn chwarae yng ngêm agoriadol Cymru yn erbyn yr UDA ym Mhencampwriaeth Cwpan y Byd ddydd Llun oherwydd anaf i linyn y gar.

Roedd yna amheuon am ffitrwydd Allen, sy'n chwarae i Abertawe, gan nad yw wedi chwarae ers 17 Medi.

"Fe ddywedon ni yn y dechrau y byddwn ni'n rhoi pob cyfle iddo chwarae yn y gêm gyntaf," meddai rheolwr Cymru, Robert Page.

"Fe fydden ni wedi gallu ei wthio fe ond petai rhywbeth yn digwydd iddo fe fyddai'n bendant allan o'r twrnamaint."

Bydd Cymru yn wynebu Iran ddydd Gwener ac yn chwarae eu gêm olaf yng Ngrŵp A yn erbyn Lloegr ar 29 Tachwedd.

Roedd Allen, 32, a fu'n chwarae i Gymru yn nwy bencampwriaeth yr Euros wedi gobeithio y byddai'n ddigon ffit i chwarae yn y gêm nos Lun.

Bydd cic gyntaf y gêm am 1900 ein hamser ni.