Cwmni'n cefnu ar gynllun ynni llanw ger Ynys Enlli
- Cyhoeddwyd
Mae'r cwmni tu ôl i gynllun ynni llanw ger Ynys Enlli wedi penderfynu na fyddan nhw'n bwrw 'mlaen â'r prosiect.
Fe gafodd Nova Innovation £1.2m gan Lywodraeth Cymru yn 2020 i ddechrau'r gwaith o ddylunio'r prosiect, gyda'r bwriad o osod pum tyrbin 100kW ar wely'r môr rhwng Enlli a'r tir mawr.
Ond bellach mae'r cwmni'n dweud bod prinder cefnogaeth ariannol a chyfyngiadau o ran isadeiledd lleol yn golygu nad ydy'r cynllun yn "hyfyw yn economaidd".
Mae angen cryfhau'r grid trydan yn lleol fel bod modd gwireddu prosiect o'r fath a dod â "chyfleon sylweddol" i'r ardal, meddai llefarydd.
'Ffactorau penodol'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "siomedig" gyda'r penderfyniad, gan ychwanegu eu bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU "am gyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau adnewyddadwy morol hanfodol llai".
Roedd Nova Innovation wedi gobeithio gallu manteisio ar drai naturiol a llif y llanw rhwng yr ynys a Phen Llŷn, a thrawsnewid Enlli o fod yn ddibynnol ar ddisel i ddod yn "ynys ynni glas".
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Tom Hill o Ynni Morol Cymru - sy'n cynrychioli'r diwydiant ynni môr - bod "y dechnoleg wedi ei phrofi" ond bod angen cymorth i wneud y sector yn gystadleuol.
"Mae'r ffactorau penodol oedd prosiect Enlli yn eu wynebu yn rhwystrau go iawn, a dyna pam rydym ni'n ymgyrchu am fuddsoddiad yn y sector, am gymeradwyaeth amserol ac am welliannau i'r grid, fel bod Cymru yn gallu manteisio ar ei hadnoddau ynni adnewyddadwy," meddai.
Ychwanegodd bod y prosiect - er bod Nova yn cefnu arno - wedi "dod â nifer o fuddion" gan gynnwys casglu gwybodaeth a data am y safle a meithrin cysylltiadau gyda'r gymuned a phartneriaid.
"Rydym yn gobeithio y bydd yn brosiect hyfyw eto yn y dyfodol," meddai Mr Hill.
'Penderfyniad anodd'
Dywedodd Nova Innovation y bydd y prosiect yn dirwyn i ben fis nesaf.
"Oherwydd ystod o ffactorau penodol i'r safle gan gynnwys cyfyngiadau ar gefnogaeth refeniw a chyfyngiadau i'r grid a llwybrau gwifro, bydd y prosiect yn cael ei roi i'r neilltu o fis Mawrth 2023," meddai llefarydd.
"Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd, ond mae'r problemau rydym ni wedi eu canfod yn golygu nad ydy datblygu prosiect yno yn hyfyw yn economaidd.
"Pe byddai'r grid ym Mhen Llŷn yn cael ei gryfhau, byddai prosiect ynni llanw ar Swnt Enlli yn hyfyw ac yn cynnig cyfleon sylweddol am adfywiad lleol yn y dyfodol.
"Fe hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i'n partneriaid a'r rheiny sydd wedi gweithio gyda ni ar brosiect Enlli am eu diddordeb, eu cyngor a'u hadborth."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "yn siomedig gyda'r newyddion na fydd Nova bellach yn bwrw ymlaen â'u cynlluniau i gynhyrchu ynni'r llanw ym Mhen Llŷn.
Ychwanegodd: "Byddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am gyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau adnewyddadwy morol hanfodol llai, fel Enlli.
"Mae trafodaethau'n parhau gyda'r cwmni i weld sut allwn ni barhau i weithio gyda nhw ar brosiectau llanw eraill ledled Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym yn cefnogi buddsoddiad mewn ystod o dechnolegau glân ac y llynedd fe wnaethom ddarparu £20 miliwn i sicrhau prosiectau llif llanw yng Nghymru a'r Alban.
"Rydym yn gobeithio y gall Nova Innovation symud ymlaen â'r cynllun hwn yn fuan.
"Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i gefnogi ehangu parhaus technolegau adnewyddadwy, gyda llanw yn rhan ohono."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2020