DEC Cymru yn apelio am gymorth wedi daeargryn
- Cyhoeddwyd
Mae DEC (Pwyllgor Argyfyngau Brys) Cymru wedi lansio apêl swyddogol am roddion ar gyfer cymorth i Dwrci a Syria wedi daeargryn wnaeth ddifrodi'r ardal ddechrau'r wythnos.
Mae'r daeargryn wedi lladd dros 15,000 o bobl ac anafu llawer mwy, ac mae disgwyl i'r niferoedd godi.
"Mae graddfa'r drychineb yn enfawr," dywedodd Siân Stephen, Rheolwr Cysylltiadau Allanol DEC, ar Dros Frecwast.
"Ein blaenoriaethau mawr ni ar hyn o bryd wrth gwrs ydy yr ymdrechion achub a chwilio, gofal meddygol i'r bobl sydd angen hynny a lloches."
Yn rhan o'r pwyllgor argyfyngau mae 15 elusen ddyngarol - yn eu plith y Groes Goch, Cymorth Cristnogol ac Achub y Plant.
Teulu a ffrindiau o dan y rwbel
Mae teulu Emir Cecen, barista o Gasnewydd, yn byw yn Nhwrci ac maen nhw yn ddigartref oherwydd y daeargryn.
"Glywais i am y daeargryn gyntaf fore Llun pan ddihunais i tua wyth o'r gloch. Fe ges i 20, 30 galwad ffôn wrth ffrindiau a theulu draw fan na," dywedodd.
"Roeddwn i'n methu cael gafael ar fy rhieni tan naw, deg awr yn hwyrach.
"Mae fy nheulu allan ar y stryd. Mae fy mam yn cysgu mewn ysgol, gyda fy ewythr, fy modryb a fy nain.
"Mae bron 80% o fy nhref enedigol wedi'i ddinistrio ac mae yna dal llawer o bobl o dan y rwbel."
Wrth siarad ar BBC Radio Wales ychwanegodd Mr Cecen fod mam un o'i ffrindiau yng Nghasnewydd yn dal i fod o dan y rwbel.
"Mae e wedi methu cysylltu gyda hi ac mae wedi bod mor hir nawr."
Tywydd rhewllyd a pherygl afiechydon
Gyda miloedd o bobl, fel teulu Mr Cecen, heb gartref mae elusennau yn poeni am ddiogelwch y rhai sydd wedi dianc, yn ogystal â'r bobl sydd dal o dan y rwbel.
"Mae'r amodau tywydd rhewllyd yn cymhlethu pethau'n arw a rhai pobl yn arbennig o fregus, yr henoed, y plant, pobl sydd wedi anafu," dywedodd Ms Stephen.
"Mae'r rhai sydd wedi dianc mewn angen brys nawr am flancedi a dillad cynnes."
Ychwanegodd mai "un o'r prif pryderon sydd gynnon ni ar hyn o bryd ydy'r perygl o afiechydon yn ymledaenu oherwydd y dinistr i'r isadeiledd dŵr.
"Mae colera eisoes yn bresennol yn Syria ac wrth i ni golli mynediad at ddŵr glân mae hwn yn rhywbeth ma'n rhaid i ni reoli dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.
"Mae 14 o'n helusennau ni eisoes yn ymateb. Ma' nhw wedi bod yn ymateb o'r cychwyn cyntaf gan gydweithio gyda'r ymdrechion achub lleol.
"Yr angen mawr sydd arnyn nhw ydy gallu cynyddu graddfa eu hymateb nhw a dyna pam 'dan ni'n lansio'r apêl 'ma heddiw.
"Ma' angen brys i ni gynyddu faint o adnoddau sydd ganddyn nhw ac i neud hynny mor fuan â phosibl."
Ddim yn rhy hwyr i achub bywydau
"Mae'n sefyllfa dorcalonnus," dywedodd Nan Powell Davies, Cadeirydd Cymorth Cristnogol Cymru.
"Mae'n rhaid gweithio yn gyflym a'r neges ydan ni'n bendant isio i bawb glywed ydy nad ydy hi'n rhy hwyr i achub bywydau."
Dywedodd y byddai'r arian yn mynd tuag at "brynu y prif anghenion hynny, sef pecynnau sy'n cynnwys blancedi, matresi, parseli bwyd a defnydd gwresogi".
Ychwanegodd bod hefyd angen "dechrau meddwl be di'r anghenion yn y dyfodol" gan esbonio y bydd angen darpariaeth addysg, gofal iechyd meddwl a dŵr.
Mae cael cymorth i'r ardaloedd a effeithiwyd wedi profi'n anodd ar adegau am fod ffyrdd a rhwydweithiau wedi'u difrodi.
Dywedodd Ms Powell Davies: 'Y gobaith i ni fel mudiad ydy bod ni'n gweithio trwy'n partneriaid sydd eisoes yn Syria ac felly mae gynnon ni ffordd o gysylltu, ffordd o rwydweithio'n gyflymach, yn gynt ac yn fwy effeithiol.
"Da ni ddim yn rhoi fyny gobaith a 'dan ni'n ceisio gwneud pob dim o fewn ein gallu er mwyn gwneud yn siŵr bod cymorth yn cyrraedd y bobl hynny sydd mewn gwir gwir dirfawr angen."
'Ofni'r gwaetha'
Un arall sydd wedi gweld effeithiau'r daeargryn yw Sioned Wyn Duran sy'n wreiddiol o Fetws-yn-Rhos ger Abergele, ond sydd wedi bod yn byw yn Nhwrci ers blynyddoedd.
Wrth siarad gyda Dros Frecwast am y sefyllfa yn y wlad dywedodd "mae'n erchyll... mae 'na filoedd 'di colli cartrefi allan ar y strydoedd, ac odd hi'n -6 gradd neithiwr, mae'n anodd credu."
Er nad yw Ms Duran yn byw yn yr ardal a effeithiwyd gan y daeargryn, mae'n adnabod pobl sydd â theulu a ffrindiau yno.
"Mae gennai ffrind arall, mae gŵr hi 'di derbyn llun o gartre ei gefnder wedi dymchwel ond heb glywed gan y cefnder, felly sgynnon nhw ddim syniad be sy di digwydd. Maen nhw yn gobeithio am y gore, ond fel mae'r dyddie'n pasio, yn ofni rŵan am y gwaetha."
Cafodd miloedd o adeiladau, gan gynnwys ysbytai ac ysgolion, eu dymchwel gan y daeargryn ac mae gwasanaethau brys lleol yn dal i chwilio drwy'r rwbel am oroeswyr.
"Rydym yn gwybod fod arian yn brin i lawer o bobl yma yn y DU wrth i'r argyfwng costau byw barhau, ond os gallwch chi, plis cyfrannwch i gefnogi pobl sydd wedi'u dal yn y drychineb ddychrynllyd yma," ychwanegodd Ms Stephen o DEC.
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £100,000 i apêl DEC a bydd Llywodraeth y DU yn cyfrannu punt am bob punt sy'n cael ei rhoi gan y cyhoedd - hyd at £5 miliwn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2023