Miwsig AI - hwb creadigol neu rhywbeth i'w ofni?

  • Cyhoeddwyd
Tara Bethan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tara Bethan fod y syniad bod cyfrifiaduron "yn siarad dros pobol yn fy ofni i"

Ar ôl diwrnod llawn o ddathlu Dydd Miwsig Cymru ddydd Gwener, mae dadl yn codi yn y byd cerddorol dros ddefnydd robotiaid wrth greu cerddoriaeth newydd.

Wrth edrych tua'r dyfodol, faint o rôl fydd cyfrifiaduron a deallusrwydd artiffisial (artificial intelligence, neu AI) yn chwarae yn y broses o gyfansoddi caneuon yn y dyfodol?

Mae rhaglenni cyfrifiadurol fel ChatGPT eisoes wedi cyffroi a chythruddo am ei allu anhygoel i greu cynnwys fel pe bai person go iawn wedi'i greu - o erthyglau newyddion i eiriau caneuon neu farddoniaeth newydd.

Mae'n fater sy'n hollti barn. Mewn gig Dydd Miwsig Cymru i blant ysgol, fe ddywedodd Tara Bethan, sy'n perfformio dan yr enw Tara Bandito, wrth Newyddion S4C ei fod yn codi ofn arni.

Disgrifiad o’r llun,

Tara Bandito yn perfformio ar Ddydd Miwsig Cymru 2023

"Y rheswm 'nes i ddechrau 'sgwennu a'r rheswm dwi dal yn 'sgwennu fy ngeiriau ydy fel catharsis, fel person, fel dynol ryw, i allu dadlwytho materion fy nghalon ar bapur er lles fy hun," meddai wrth Newyddion S4C.

"Wedyn wna'i adio cerddoriaeth a throi e mewn i gân, 'falle dipio fo mewn glitter, be bynnag.

"Felly i fi'n bersonol, mae'r syniad bod cyfrifiaduron neu tech yn mynd i fod yn siarad dros bobl yn fy ofni i."

Mae Dylan Morgan, sy'n chwarae mewn sawl band ac yn perfformio cerddoriaeth ei hun dan yr enw DD Darillo, yn hoff o arbrofi gyda systemau cyfrifiadurol i greu celf ar gloriau ei senglau ac i greu sŵn gwahanol yn ei gerddoriaeth.

Mae'n meddwl y gallai mwy o artistiaid ddefnyddio'r dechnoleg newydd i wthio eu creadigrwydd.

"Dwi wedi defnyddio AI ar gyfer creu artwork i fy mand i, trwy roi'r geiriau yn yr AI ac edrych ar beth sy'n dod mas," meddai.

"Wedyn creu mwy o'r gwaith celf a chreu ryw feedback loop [yn ei gerddoriaeth] i weld beth sy'n dod mas, a fi'n hapus iawn.

"Fi'n credu mae'n iach i gofleidio technoleg newydd, yn enwedig pan gall y dechnoleg newydd hwn herio'ch creadigrwydd eich hun."

Ffynhonnell y llun, SOPA Images

Mae ChatGPT fel rhyw fath o gynorthwyydd personol, sy'n defnyddio bas data eang iawn i roi atebion ofnadwy o fanwl a chywir.

A gyda'r gallu i greu geiriau caneuon newydd a chyfansoddi cerddoriaeth, mae angen cymryd gofal wrth ddefnyddio'r teclyn, yn ôl un cyfansoddwr a pherfformiwr.

"Dwi'n meddwl mai'r cwestiwn fan hyn ydy, ydy o'n llên-ladrata ar scale newydd?" meddai Elidyr Glyn, prif leisydd Bwncath.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwestiynau'n codi, medd Elidyr Glyn, ynghylch pwy sydd wedi creu cerddoriaeth mewn gwirionedd

"Mae pob AI yn dibynnu ar yr bas data sydd y tu ôl iddo fo ac felly go iawn, gwaith pawb ydy o mewn ffordd.

"Mae o dal, dwi'n meddwl, yn gwestiwn o 'ai'r AI sydd wedi'i greu o?'. Dwi ddim yn meddwl bod ni'n gallu dweud hynna os ydy o'n dibynnu ar waith pobl.

"Mae isio rhyw fath o reoli pwy sy'n cael defnyddio gwaith AI fel gwaith ei hunain."

Mae'r PRS, y corff sy'n cynrychioli hawliau artistiaid y byd cerddorol, yn gweithio i asesu'r heriau a'r cyfleoedd y mae deallusrwydd artiffisial yn eu cynnig.

Eu prif nod, yn ôl y corff, yw sicrhau bod aelodau PRS yn parhau i gael eu talu am eu gwaith, a'u bod yn cadw rheolaeth ar le mae eu cerddoriaeth yn cael ei defnyddio.

Pynciau cysylltiedig