'Siom' bod dim categori Cymraeg i wobrau podlediadau

  • Cyhoeddwyd
Mari Elen Jones gyda'i gwobrFfynhonnell y llun, Mari Elen Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Mari Elen Jones wobr yn 2022 am ei phodlediad Gwrachod Heddiw

Mae un o gyn-enillwyr gwobr podlediad Cymraeg yn "siomedig" na fydd y categori yn parhau i fod yn rhan o wobrau podlediadau Prydeinig.

Eleni, yn dilyn ailstrwythuro, fydd 'na ddim categori ar gyfer podlediadau Cymraeg yn y British Podcast Awards.

Bu'r categori yn bodoli am dair blynedd, gan gydnabod talentau Cymraeg fel Elis James, Tara Bethan a Mari Elen Jones.

Dywedodd Ms Jones, a enillodd y wobr llynedd gyda'i phodlediad Gwrachod Heddiw, ei bod hi'n siomedig "bod neb arall yn mynd i gael y profiad a ges i".

Mae'r British Podcast Awards wedi cael cais i ymateb.

'Statws i'r Gymraeg'

Mewn sgwrs gyda BBC Cymru Fyw dywedodd Ms Jones: "Mae wedi fy nghorddi i, odd o'n golygu gymaint. Odd o'n rhoi statws i'r Gymraeg.

"Mae'n neis pan ma' gwobrau am be' sy'n dod allan o Brydain, bod nhw'n cydnabod bod 'na ddwy iaith, a bod Cymraeg yn iaith swyddogol.

"Odd o'n cŵl bod 'na rhywbeth bach mwy amgen am y gwobrau podlediadau, bod nhw'n dathlu pob math."

Dywedodd ei bod yn "andros o falch" ei bod wedi ennill y wobr. a'i bod yn siomedig na fydd eraill yn cael yr un profiad.

"Mae'n rhywbeth nes i weithio'n galed amdano, a dwi'n falch cael cydnabyddiaeth am be' dwi di 'neud mewn peth mor fawr."

Ffynhonnell y llun, Mari Elen Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mari Elen Jones yn ennill y categori podlediadau Cymraeg y llynedd

Mae Ms Jones yn poeni y gallai'r diffyg cydnabyddiaeth gael effaith niweidiol ar greadigrwydd Cymraeg.

"Ella neith o gael effaith ar bobl sydd eisiau creu. I fi odd o'dd e'n un o'r pethe 'naeth fy sbarduno," meddai.

"Ti'n gallu gweithio tuag at rywbeth, 'naeth o orfodi fi i greu podlediad o safon."

Ond mae hefyd yn dweud y gallai'r newid sbarduno talentau Cymraeg i fod yn annibynnol o wobrau Prydeinig.

"Ella fod o'n mynd i roi tân i ni fel cenedl, fel bod ni ddim yn ddibynnol ar y gwobrau Prydeinig," ychwanegodd.

"Ella neith hyn ysbrydoli gwobrau ein hunain, fel bod ni ddim yn gorfod gwasgu mewn i un categori."

'Llwyfan i bodlediadau Cymraeg'

Dywedodd Mari Elen Jones y byddai'n braf cael gwahanol gategorïau i bodlediadau Cymreig, fel sy'n bodoli i rai Saesneg.

"Mae 'na wahanol genres, gwahanol drafodaethau," meddai.

Ychwanegodd Ms Jones nad oes fawr o obaith gan bodlediadau Cymreig wrth gystadlu yn erbyn y rhai Saesneg mewn categorïau eraill.

"Os na ti'n siarad Cymraeg ti'm yn dallt be' di'r sgwrs," meddai. "'Swn i'n cystadlu yn erbyn podlediadau ffeminist eraill, hyd yn oed os oes un person Cymraeg ar y panel, ti'n gorfod dibynnu ar be' mae'r un person yna'n deud.

"Ma' cynulleidfaoedd y rhai Saesneg yn enfawr, a 'dan ni'n cael sgyrsiau gwahanol achos ma' diwylliant gwahanol."

Ffynhonnell y llun, Dewr
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'Dewr', podlediad Tara Bethan, hefyd yn un o enillwyr y wobr yn y gorffennol

Mae eraill hefyd wedi lleisio'u siom am y penderfyniad.

Dywedodd Nia Davies, un o gyflwynwyr Nawr yw'r Awr, gafodd ei enwebu am y wobr, ei bod hi'n "siom enfawr" i glywed na fydd categori i bodlediadau drwy gyfrwng y Gymraeg eleni.

"Mae'n teimlo fel cam mawr yn ôl ac mae'n anodd deall y penderfyniad," meddai.

Un a ymgyrchodd i greu'r categori yw Aled Jones, sy'n rhedeg Y Pod, dolen allanol.

Dywedodd Mr Jones fod y categori yn "llwyfan neis, yn llwyfan i bodlediadau Cymraeg gyrraedd cynulleidfa ehangach".

"Mae'n braf gweld enillwyr Cymraeg fel Mari Elen Jones yn sefyll lan i dderbyn y wobr o flaen cynulleidfa yn Llundain," ychwanegodd.

"Sut ni fod rhoi podlediadau Cymraeg mewn i wobrau nawr, i wobrau Prydeinig?"

Nid yw’r post yma ar Facebook yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
I osgoi neges facebook gan Y Pod - Podlediadau Cymraeg

Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
Diwedd neges facebook gan Y Pod - Podlediadau Cymraeg

Pynciau cysylltiedig