Podlediad Dewr: Cyfres newydd, gwersi newydd
- Cyhoeddwyd

Ar 25 Tachwedd, bydd Tara Bethan yn ei hôl gyda chyfres newydd o'r podlediad Dewr ar BBC Sounds.
Bu'r gyfres gyntaf, lle sgwrsiodd Tara gyda phobl fel Elin Fflur, Ameer Davies-Rana a Catrin Finch, yn llwyddiant ysgubol.
Yn ogystal ag ennyn llwyth o wrandawyr ffyddlon, enillodd y podlediad wobr Podlediad Cymraeg y Flwyddyn yn y British Podcast Awards gyda chlod mawr gan y beirniaid; "roedd y cyflwynydd yn cyfweld yn fedrus â'i gwesteion am straeon heriol a oedd yn aml yn bersonol ac anodd. Gadawodd hi i'r sgyrsiau lifo'n naturiol ac yn organig - gan wybod pryd i ymyrryd a rhannu a phryd i fod yn dawel; sgil brin."

Llinos, y cynhyrchydd, a Tara gyda Fearne Cotton yn y British Podcast Awards
Dros y misoedd diwethaf, mae Tara Bethan wedi ail-gydio yn ei meicroffon i holi wyth unigolyn diddorol a dewr ar gyfer ail gyfres Dewr. Mewn sgyrsiau ddaeth â chwerthin a dagrau, dywedodd Tara mai dyma rai o'r prif bethau sydd wedi aros yn ei chof o recordio'r gyfres newydd.
Cyfres newydd, gwersi newydd
"Mae 'leni wedi bod yn siwrne. Mae wedi bod yn fraint cael bod mor agored a phersonol efo'r gwesteion. Ac mae hefyd wedi bod yn addysg.
"Y tri pheth sy'n aros yn y cof i fi ydy, yn gyntaf, y menopause. 'Sa hynny'n gallu digwydd i fi heddiw 'ma, a do'n i'm yn gwybod dim byd amdano fo. Felly diolch, Ffion Gwallt!" Y menopause yw un o'r amryw bynciau drafododd Tara gyda Ffion Dafis, un o westeion yr ail gyfres.

Yn ail, yn dilyn sgwrs gyda'r actores Erin Richards dywedodd Tara "bod o mor bwysig i ni beidio roi hard-time i ni'n hunain. Mae eisiau i ni lecio'n hunain. Dw i rili wedi trio cadw hwnna efo fi ers y sgwrs efo Erin Richards."

"Y trydydd peth ydy, pa mor bwysig ydy hi weithiau i jest stopio. Mae iechyd meddwl wastad yn gorfod dod yn gyntaf.
"Ar ganol recordio'r ail gyfres 'ma mi oedd rhaid i Dewr jest stopio achos aeth bob dim dipyn bach yn ormod. A 'dach chi'n gwybod be'? Mi wnaeth y byd dal i droi."
Rhai o westeion eraill y gyfres newydd yw Yws Gwynedd, Beti George ac Elis James.
Tanysgrifiwch i Dewr drwy glicio yma.
Hefyd o ddiddordeb