'Dydi hanes Cymru byth yn ddiflas...'

  • Cyhoeddwyd
podlediad

Llinos Mai yw awdur podlediad newydd ar BBC Sounds sy'n cyflwyno cynulleidfa ifanc i hanes Cymru.

Mae chwe pennod hwyliog sy'n canolbwyntio ar gyfnodau gwahanol gyda digon o chwerthin ar hyd y ffordd.

Mae Llinos yn wyneb cyfarwydd fel actor a chomediwraig ac yn ddiweddar fel awdur sioe Anthem gan Ganolfan Mileniwm Cymru.

Ond sut mae dod â hanes yn fyw i gynulleidfa iau? Fe aeth Cymru Fyw i'w holi...

"Dwi ddim yn cofio llawer am wersi hanes yn yr ysgol, ond yr hanes dwi yn ei gofio ydy'r hyn a ddysgodd Mr Alun Ifans i mi yn yr ysgol gynradd a Mr Billy Fowler yn yr ysgol uwchradd" meddai Llinos.

"Roedd y ddau mor frwd dros y pwnc a'n cyflwyno y wybodaeth mewn ffordd fywiog, egnïol a doniol. Dwi 'di defnyddio steil tebyg iawn ar gyfer 'Hanes Mawr Cymru'.

"Mae pob pennod yn edrych ar wahanol ran o hanes Cymru: Merched Beca, yr Eisteddfod, Owain Glyndŵr, Jemima Nicholas, y diwydiant glo a'r iaith Gymraeg."

'Ffeindio'r hiwmor'

Mae Llinos yn gobeithio bydd y podlediadau yn cyfuno'r dysgu ag hiwmor, a bu'n cydweithio gyda'r hanesydd Siân Rhiannon Williams i drafod y digwyddiadau.

"Mae'r broses o ysgrifennu'r podlediad wedi bod yn un ddiddorol iawn. Gyda phob pennod byddwn i'n dechrau trwy ddarllen a dysgu cymaint ag y gallwn am bob pwnc. Bydden i wedyn yn gweithio gyda'r hanesydd Siân Rhiannon Williams i greu llinell amser a rhestr o'r pwyntiau pwysig i'w cynnwys cyn mynd ati i ffeindio'r hiwmor.

"I fod yn onest yn aml iawn doedd dim rhaid edrych yn bell iawn am hiwmor! Unwaith i mi orffen 'sgrifennu'r sgript bydden i wedyn yn anfon at Siân i'w wirio cyn cael llawer gormod o hwyl yn recordio a lleisio'r bennod. Dwi 'di defnyddio pob un llais gwirion sy 'da fi!

"Yna byddai'r cynhyrchydd Llinos Jones yn golygu ac ychwanegu'r holl effeithiau sain doniol i'r bennod."

Disgrifiad o’r llun,

Owain Glyndŵr, themau un o bodlediadau y gyfres

Mae Llinos yn dweud ei bod hi ei hun wedi dysgu llawer am Gymru wrth greu y gyfres.

"Dwi'n sgwennwr comedi felly dwi 'di dysgu llawer iawn am hanes Cymru dros y cyfnod hwn. Dwi'n gobeithio bydd rhywun yn fy ngwahodd i'w tîm cwis er mwyn i fi gallu dangos fy holl wybodaeth hanes newydd! Mae rhai o'r ffeithiau 'di synnu fi."

Iolo y cerddwr brwd

"Er enghraifft oeddech chi'n gwybod bod Iolo Morgannwg yn dwli ar gerdded? Roedd yn gwneud rhyw hanner cerdded a rhedeg - debyg i power walking. Cerddodd un tro o'i gartref yn Llancarfan, Sir Forgannwg yr holl ffordd i Lundain- druan a'i draed!

"Oeddech chi hefyd yn gwybod bod Elizabeth y Cyntaf wedi pasio deddf yn dweud bod rhaid i bob plwyf yng Nghymru gael Beibl wedi ei gyfiethu i'r Gymraeg? Neu bod Twm Carnabwth, arweinydd cynnar Merched Beca yn focsiwr lleol adnabyddus ac mewn un ffeit ger Pentregalar mi gollodd Twm lygad? Ouch!

"Mae'r podlediad yn addas ar gyfer plant saith i ddeuddeg oed. Ond hefyd os y'ch chi'n oedolyn ac yn hoffi dysgu hanes gyda dash o jôcs a lleisiau gwirion wedyn efallai bod podlediad yma i chi hefyd."

Mae'r gyfres gyfan ar gael nawr ar BBC Sounds.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig