O lysho i'r gym: Trawsnewidiad corffluniwr o Port
- Cyhoeddwyd
"Ti'n mynd ar ffordd dy hun, ti ddim yn gweld yr hogia oedda chdi yn arfer lysho efo achos 'dio ddim yn rwbath tisio gwneud ddim mwy."
12 mlynedd yn ôl roedd Sion Monty o Borthmadog yn treulio ei amser rhydd yn yfed gormod o gwrw a bwyta gormod o decawês.
Rŵan mae o wrthi'n paratoi i gymryd rhan mewn dwy ffeinal Brydeinig mewn cystadleuaeth corfflunio.
Dechreuodd ei daith i newid ei fywyd pan oedd yn 23 oed yn 2011.
"Nes i benderfynu newid ar ôl blwyddyn gyntaf fi yn uni - y nights out, lysho fflat out, tecawês bob nos... O'dd o yn deud arna i" .
Dechreuodd Sion, 35, fynd i ymarfer corff yn gyson cyn disgyn mewn cariad gyda'r gampfa.
"Nes i ddechrau joio'r training ac ar ôl gweld datblygiad fi yr haf yna wnaeth o ddod yn addictive rili. Yr addiction o weld dy hun yn datblygu."
'Gyd o'n i'n gwneud oedd lysho'
Mae'r corffluniwr bellach yn rhedeg campfa Musclemorph ym Mhenrhyndeudraeth, yn gwerthu ychwanegion (supplements) bwyd yn fyd eang, yn hyfforddwr ac yn dad i blentyn pump oed.
Wrth iddo fanteisio ar y rhyngrwyd ac ar Instagram o dan yr enw The Student Diet aeth ei fusnes hyfforddi o nerth o nerth yn 2013 ac ar un pwynt mi fyddai'n gweithio gyda chwaraewyr pêl-droed Americanaidd yn yr NFL a doctoriaid.
"'Sa chdi yn gofyn i bobl sydd yn nabod fi 10 blwyddyn yn ôl mi fysa nhw yn deud dwi'n hollol wahanol. Gyd o'n i'n gwneud oedd lysho - lyfio lysho.
"Swni'n lysho trw weekend, yn deffro yn bora a dechra yfed, dyna oedd bywyd fi."
Ar ôl genedigaeth ei blentyn bum mlynedd yn ôl aeth Sion yn ôl i'w hen ffyrdd a rhoi pwysau ymlaen. Postiodd fideo ar YouTube yn dangos ei ail drawsnewidiad gan ddenu miliynau o wylwyr.
"Nes i stopio ymarfer achos doeddwn i heb ddisgwyl faint o anodd oedd bod yn rhiant.
"Nes i roi loads o bwysau mlaen - tua pedwar stôn. Nes i wneud fideo 'Dad bod transformation' ar YouTube ac aeth y fideo yn viral. Mae o bron iawn efo 10 million views."
Pencampwriaeth Prydain
Bydd Sion yn cystadlu mewn dwy ffeinal Brydeinig ym mis Mehefin a Gorffennaf ac mae'r paratoadau eisoes wedi dechrau.
"Dwi newydd gychwyn prep rŵan i weithio at hwnna. Fydd hwnna yn gystadleuaeth i drio bod yn British Champion."
Nid ar chwarae bach mae corffluniwr yn paratoi at ei gystadleuaeth nesaf chwaith.
"Gen ti rai pobl sydd yn insanely strict efo deiet lle ma' nhw'n sticio i'r un bwydydd - chicken, brocoli, reis, almonds... Dwi efo approach gwahanol sef flexible dieting lle dwi'n ffocysu mwy ar faint dwi'n bwyta yn lle be'.
"Dwi'n gwneud yn siŵr dwi'n cyrraedd faint dwi angen bob dydd o ran protein, fat ac ati a ddim yn mynd dros calories fi.
"Yn y gaeaf dwi'n ymarfer am 5 bob bora am ddwy awr. A 'na'i fynd allan i gerdded yn y dydd.
"Dwi'n deffro am 4:30 bob bora yn yr haf a 'na'i fynd allan i gael fy steps i mewn."
Ni lwyddodd i gyrraedd y ffeinals yn 2014 a 2018 ond ar ôl cael blas ar lwyddiant ar ddiwedd 2022 mae'n awyddus i barhau i gystadlu.
'Teimlo pwysau'
Yn ôl Sion mae'r manteision meddyliol wedi bod yn aruthrol iddo ond mae'n cyfaddef bod pwysau mawr arno i edrych yn berffaith.
Yn ei gategori Corfflunio yntau, sef 'men's physique', mae mwy o bwyslais ar edrychiad, sydd ychydig yn wahanol i'r prif gategori corfflunio.
"Mae'r gystadleuaeth men's physique ynglŷn â symmetry, faint o lean wyt ti a hefyd dy posing di a overall look.
"Mae criteria ar bodybuilding yn wahanol - mae o fwy am dy mass di a faint o muscle sydd gen ti."
Er bod ei fusnes a'i fywyd yn amgylchynnu delwedd corff ac yn ddibynnu ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Sion yn cydnabod yr effaith mae'r syniad o'r 'ddelwedd perffaith' ar y rhyngrwyd yn gallu ei gael arno ac eraill yn feddyliol.
Dangosodd ymchwil diweddar gan y Sefydliad Iechyd Meddwl, dolen allanol fod lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn achosi poen meddwl i 40% o bobl ifanc. Yn ôl Sion mae'n rhaid mentro i fyd corfflunio am y rhesymau iawn yn unig.
"Dwi'n meddwl fod o i gyd yn dod o'r ochr social media. Pethau fel Love Island sydd yn gwneud pobl feddwl bo' nhw angen edrych y ffordd yna.
"Mae pobl yn teimlo bo' nhw'n gorfod edrych fel 'na ac mae o'n rhoi pwysau ar bobl i drio edrych fel 'na pan dydyn nhw ddim isio go iawn.
"Mae o'n anodd dod o le dwi hefyd achos dwi'n rhedag busnes fi trwy social media.
"Dwi'n teimlo pwysau ar fy hun hefyd - weithiau lle dwi yn gorfod mynd trwy bulking season 'na'i ddim postio lluniau ar social fi achos dwi yn teimlo bo' 'na ormod o pressure arna i.
"Mae 'na pressure mawr sydd yn gallu cael effaith feddyliol."
'Datblygiad meddyliol a chorfforol'
Mae Sion yn dweud na fyddai ganddo'r bywyd hapus mae'n ei fyw rŵan heblaw am y bywyd mae'r gampfa wedi rhoi iddo.
"Mae o wedi rhoi'r bywyd gen i 'wan i fi," meddai. "Mae bob dim gen i wedi dod o'r gym. Mae o'n ddatblygiad meddyliol yr un faint â mae o'n un corfforol.
"Ti'n mynd ar ffordd dy hun, ti ddim yn gweld yr hogia oedda chdi yn arfer lysho efo achos 'dio ddim yn rwbath dwisio gwneud ddim mwy.
"Ar y ffordd dwi wedi colli cylch ffrindiau oedd gennai achos doedd ganddyn nhw ddim diddordeb mewn be' o'n i'n gwneud."
Mae'r sin corfflunio yn tyfu yng ngogledd Cymru meddai Sion, a thra mae'n awyddus i weld mwy i bobl ymuno a'r byd hwnnw, mae'n dweud ni dylid gwneud hynny er mwyn plesio eraill.
"Os mae o'n rwbath ti'n joio, go for it, ond gwna siŵr ti'n gwneud o i chdi dy hun a ti'n actually joio fo hefyd.
"Paid byth â gwneud o er mwyn rhywun arall a trio ffitio mewn i rwbath ti yn meddwl ti isio, ond ddim mewn gwirionedd."
Hefyd o ddiddordeb: