Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-2 Woking
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi colli pwyntiau am y tro cyntaf yn y gynghrair ar y Cae Ras y tymor hwn, wrth i Woking gipio canlyniad cyfartal.
Fe aeth y Dreigiau ar ei hôl hi'n gynnar ar y Cae Ras, gyda chyn-ymosodwr Casnewydd, Padraig Amond, yn rhoi'r ymwelwyr ar y blaen gyda pheniad wedi chwe munud.
Ond daeth Wrecsam yn gyfartal cyn yr egwyl, diolch i gic rydd wych gan Anthony Forde.
Deng munud i mewn i'r ail hanner cafodd Ollie Palmer ei lorio yn y cwrt cosbi, ac fe rwydodd Paul Mullin y gic o'r smotyn i roi'r tîm cartref ar y blaen.
Ond rhwydodd Rhys Browne o'r smotyn hefyd funudau'n ddiweddarach i unioni'r sgôr.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam wedi colli tir ar frig Y Gynghrair Genedlaethol, a hynny ar ôl i Notts County drechu Barnet o 4-1.
Maen nhw bellach bum pwynt ar eu holau nhw, ond wedi chwarae dwy gêm yn llai.