Camerâu cylch cyfyng o China yn creu 'risg ar bob cornel stryd'
- Cyhoeddwyd
Bydd y defnydd o gamerâu cylch cyfyng (CCTV) o China yn cael ei atal yng Nghymru yn dilyn pryderon am ddiogelwch cenedlaethol.
Mae gan Hikvision, sy'n eiddo'n rhannol i Lywodraeth China, gytundebau gyda Llywodraeth Cymru, a heddluoedd Gogledd Cymru, Dyfed-Powys a Gwent.
Ond ynghanol pryderon diogelwch a moesegol, mae Llywodraeth Cymru a dau heddlu - Gwent a Gogledd Cymru - bellach naill ai'n newid y systemau neu'n oedi'r gwaith o brynu offer.
Daw ar ôl i'r Unol Daleithiau saethu nifer o wrthrychau amheus i lawr dros ofod awyr Gogledd America yn ystod y dyddiau diwethaf.
Dywed cwmni Hikvision ei bod hi'n anghywir i awgrymu fod y camerâu yn fygythiad i ddiogelwch cenedlaethol.
'Gwenwyno'
Yn ôl yr Athro Fraser Sampson, Comisiynydd Camerâu Cylch Cyfyng y Deyrnas Unedig, mae defnyddio camerâu o China yn creu "risg ar bob cornel stryd".
"Byddwn i'n credu mai dyma yw'r risg pennaf, yn hytrach na unrhyw falŵn yn hedfan yn uchel yn yr awyr," meddai'r Athro Sampson.
"Ry'ch chi naill ai yn ymddiried yn eich partneriaid diogelwch neu dydych chi ddim, ac mae llawer o'r dystiolaeth yn gwneud i mi beidio."
'Nôl ym mis Tachwedd fe wnaeth Llywodraeth y DU wahardd defnyddio offer o China mewn mannau "sensitif".
Penderfyniad Llywodraeth Cymru ar y pryd oedd i barhau defnyddio offer Hikvision - dewis a gafodd ei feirniadu.
"Un rhwydwaith yw e," meddai'r Athro Sampson. "Os ydych chi yn gwenwyno un rhan, mae'r cyfan yn cael ei wenwyno."
Pwy fydd yn talu am gamerâu newydd?
Mae heddluoedd Gogledd Cymru a Gwent hefyd yn cyfaddef fod ganddyn nhw gamerâu Hikvision, ond yn addo na fyddan nhw yn prynu mwy hyd nes daw "datganiad ac arweiniad clir ar y mater" gan Lywodraeth y DU.
Ond ar ôl gwario dros £1.5m ar gamerâu o China bum mlynedd yn ôl, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi penderfynu na allan nhw fforddio prynu technoleg newydd.
"Fe wnaethon ni fuddsoddi £1.5 miliwn ryw bump i chwe blynedd yn ôl," meddai Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys.
"Os oes rhaid newid y camerâu, fydd 'na gost ynghlwm â hynny.
"Felly os oes 'na nodyn yn dod o'r llywodraeth i newid y camerâu, a bod y rhain ddim yn gamerâu addas neu ddim yn gwmni addas, fe fydden ni wedyn yn gofyn y cwestiwn 'pwy fyddai'n ariannu'r ail fuddsoddiad?'
"Ydy o'n rhywbeth maen nhw'n disgwyl i ni fel mudiad ariannu, neu oes 'na ffordd iddyn nhw roi cefnogaeth i ariannu hyn drwy'r Trysorlys?"
Mae'r Aelod Seneddol Llafur dros Rhondda, Syr Chris Bryant, yn aelod o'r Pwyllgor Materion Tramor ac yn un o'r 67 o ASau trawsbleidiol sydd wedi galw am waharddiad llwyr ar dechnoleg gwyliadwriaeth o China.
Mae'n dweud nad yw'n ymddiried yn Hikvision i beidio storio data a'i ddanfon yn ôl i Beijing.
"Does gen i ddim byd yn erbyn camerâu cylch cyfyng," meddai Syr Chris. "Dwi jest ddim yn hoffi'r syniad o lywodraethau tramor yn storio gwybodaeth amdanom ni.
"Dylen ni fod yn adeiladu'r camerâu hyn yma yn y Rhondda. Pam na allwn ni wneud hynny?"
Mae Syr Chris yn mynnu nad agweddau gwrth-Chineaidd sydd tu ôl i'r ymgyrch.
"Does gen i ddim asgwrn hiliol yn fy nghorff," meddai, "ond rwy'n wyliadwrus o wladwriaeth China."
Ond mae un o newyddiadurwyr y BBC sy'n gweithio i adran glustfeinio'r gorfforaeth, ac sydd wedi sylwi ar y dirywiad yn y berthynas rhwng China a'r gorllewin dros y blynyddoedd diwethaf, yn credu fod 'na fwy o wleidydda na phryder am ddiogelwch cenedlaethol ar waith.
"Mae'n bosib fod China eisiau defnyddio technoleg i glustfeinio, ond sut fedran nhw ddefnyddio camerâu CCTV sydd yn sefyll ar y strydoedd?" meddai Martin Morgan.
"Dydyn nhw ddim digon nerthol, faswn i'n deud, i gipio signalau ffôn symudol.
"Mae 'na ffyrdd haws i wneud hyn drwy'r ffôn ei hun, felly dwi'n meddwl fod hyn yn dipyn bach o banig am ddim yn fy marn i.
"Mae 'na ryw elfen o wleidyddiaeth ac, efallai, pwy a ŵyr, dipyn bach o hiliaeth wrth-Chineaidd yn chwarae rôl.
"Nid gan yr heddlu, wrth gwrs, ond gan y bobl sydd yn beirniadu - y gwleidyddion."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn adolygu'r camerâu diogelwch sy'n rhan o'n systemau Camerâu Cylch Cyfyng yn rheolaidd fel rhan o'r gwaith cynnal a chadw.
"Mae'r broses yma wedi ein harwain i osod system Camerâu Cylch Cyfyng gwahanol.
"Rydym yn ystyried ffactorau diogelwch a moesol fel rhan o'r broses o brynu offer.
"Byddai'n rhaid i unrhyw waharddiad llwyr ar y defnydd o systemau penodol gael ei wneud gan Lywodraeth y DU."
'Cwbl dryloyw'
Dywedodd Hikvision wrth y BBC: "Mae'n bendant yn anghywir i gynrychioli Hikvision fel bygythiad i ddiogelwch cenedlaethol.
"Nid oes unrhyw sefydliad technegol nac asesiad uchel ei barch wedi dod i'r casgliad hwn.
"Mae camerâu Hikvision yn cydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau perthnasol y DU ac yn destun i ofynion diogelwch llym.
"Rydym bob amser wedi bod yn gwbl dryloyw am ein gweithrediadau yn y DU."
Yn ôl y Swyddfa Gartref mae'r defnydd o gamerâu cylch cyfyng yn hynod bwysig.
"Mae gennym ni ystod eang o fesurau i sicrhau gonestrwydd ein trefniadau," meddai llefarydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2019