Y Bencampwriaeth: Abertawe 2-1 Blackpool

  • Cyhoeddwyd
Ben Cabango a Jerry YatesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ben Cabango a Jerry Yates yn cystadlu am y bêl

Mae Blackpool yn parhau ar waelod y tabl yn dilyn buddugoliaeth i Abertawe yn ne Cymru nos Fercher.

Rhoddodd Matty Sorinola yr Elyrch ar y blaen yn haeddiannol wedi 21 munud cyn i Charlie Patino gael ei anfon o'r maes yn dilyn ail gerdyn melyn.

Daeth newydd gwell i Blackpool pan unionwyd y sgôr diolch i Sonny Carey wedi 70 munud.

Ond roedd gôl i'w rwyd ei hun gan Callum Connolly yn ddigon i roi'r triphwynt i'r tîm cartref.

Bydd hon, y fuddugoliaeth gyntaf mewn pedair gêm gynghrair - a dim ond y drydedd yn 15 diwethaf Abertawe - yn hwb mawr i Russell Martin a'i chwaraewyr yn dilyn cyfnod anodd i'r clwb.

Golyga'r canlyniad fod Abertawe yn dringo i'r 12fed safle - ond bum pwynt o'r safleoedd gemau ail gyfle.