Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caerdydd 30-13 Benetton

  • Cyhoeddwyd
Max Llewellyn a sicrhaodd bod yr asgellwr Owen Lane yn sgorio ei ail gais i GaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Max Llewellyn a sicrhaodd bod yr asgellwr Owen Lane yn sgorio ei ail gais i Gaerdydd

Roedd yna fuddugoliaeth i dîm Rygbi Caerdydd nos Sadwrn wedi iddyn nhw drechu Benetton o 30-13 a sicrhau pwynt bonws,

Dau gais gan Owen Lane, sgôr pellach gan James Ratti a 15 pwynt Ben Thomas a seliodd y fuddugoliaeth.

Rhyno Smith a Marco Zanon sgoriodd i'r ymwelwyr a bu'n rhaid i Tomas Albornoz adael y cae.

Mae Caerdydd bellach yn nawfed yn y tabl gyda phedair gêm yn weddill. Mae nhw'n gobeithio gorffen ymhlith yr wyth uchaf.

Pynciau cysylltiedig