Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-0 Reading

  • Cyhoeddwyd
Romaine SawyersFfynhonnell y llun, James Marsh/REX/Shutterstock

Mae Caerdydd wedi sicrhau ail fuddugoliaeth o'r bron yn Y Bencampwriaeth, yn dilyn gôl hwyr arall am yr eildro'r wythnos hon.

Roedd hi'n edrych fel y byddai'n rhaid i'r Adar Gleision setlo am bwynt mewn gêm ddi-sgôr yn erbyn Reading yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ond wrth i'r cloc daro'r 90 munud fe ergydiodd Romaine Sawyers yn isel o ymyl y cwrt cosbi, a chanfod cefn y rhwyd.

Nos Fawrth fe wnaeth dwy gôl hwyr gipio buddugoliaeth i'r Adar Gleision oddi cartref yn Birmingham - y tro cyntaf iddyn nhw ennill mewn 15 gêm.

Dyma'r tro cyntaf hefyd iddyn nhw ennill dwy gêm yn olynol ers dechrau Hydref.

Mae'r canlyniad yn codi Caerdydd i'r 20fed safle yn y tabl am y tro, bum pwynt uwchlaw safleoedd y cwymp, ond gyda gweddill y timau o'u cwmpas yn chwarae dros y penwythnos.

Pynciau cysylltiedig