Dros 2,000 o staff ambiwlans Cymru ar streic ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd
Llinell biced gweithwyr ambiwlans yn Abertawe ddydd Llun 20 Chwefror
Disgrifiad o’r llun,

Llinell biced gweithwyr ambiwlans yn Abertawe ben bore Llun

Bydd staff y gwasanaeth ambiwlans o ddau undeb llafur yn streicio ddydd Llun wrth i'r anghydfod cyflogau barhau.

Dyma fydd y tro cyntaf i GMB ac Unite gynnal streic ar yr un diwrnod yng Nghymru, ac mae disgwyl y bydd dros 2,000 o staff y gwasanaeth ambiwlans yn streicio.

Dywedodd prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens, wrth raglen Radio Wales Breakfast ddydd Llun eu bod yn rhagweld y bydd dros hanner y gweithlu yn gweithredu'n ddiwydiannol.

Mae'r gwasanaeth eisoes wedi dweud y bydd "amharu sylweddol" ar eu gallu i ymateb i argyfyngau o ganlyniad i'r gweithredu diwydiannol.

Ond maen nhw'n pwysleisio y byddan nhw'n ateb galwadau brys.

Daw hyn ar ôl i'r ddau undeb wrthod cynnig tâl Llywodraeth Cymru i weithwyr iechyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig 3% yn ychwanegol i staff iechyd y flwyddyn nesaf, ond mae hanner hwnnw ar ffurf taliad untro.

Mae hynny ar ben yr argymhellion gan y corff sy'n adolygu taliadau, sydd eisoes wedi cael eu gweithredu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn siomedig fod y "cynnig cryf" wedi cael ei wrthod.

'Rhy isel'

Yn ôl GMB, wnaeth 67% o'u haelodau wrthod y cynnig, tra dywedodd Unite bod 92% o'u haelodau nhw hefyd wedi gwrthod.

"Ry'n ni'n diolch i Lywodraeth Cymru am ddechrau trafodaethau, ond os mai dyma eu cynnig olaf, mae'n rhy isel i'n haelodau ni," meddai Nathan Holman o GMB Cymru.

"Nawr yn fwy nag erioed rydym angen datrysiad ar gyfer y DU gyfan i fynd i'r afael â'r tâl isel sydd o fewn y GIG a'r gwasanaeth ambiwlans.

"Yr unig berson i gymryd cyfrifoldeb am hynny ydy Steve Barclay [ysgrifennydd iechyd Llywodraeth y DU], ac mae'n amser nawr iddo ddechrau trafod gyda ni am dâl."

Ffynhonnell y llun, EPA

Mae aelodau gwasanaeth ambiwlans undeb Unite yn parhau i streicio ddydd Mawrth a dydd Mercher hefyd.

Yn ôl Swyddog Rhanbarthol Unite Cymru, Richard Munn: "Mae ein haelodau wedi dweud wrthym nad yw'r cynnig cyflog yn ddigon da a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy os yw'r anghydfod hwn am gael ei ddatrys.

"Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru wella eu cynnig er mwyn osgoi streiciau pellach."

Cyngor i'r cyhoedd

Nos Sul dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod yn deall y bydd gan bobl bryderon yn ystod y gweithredu diwydiannol.

Ond fe bwysleisiodd: "Yn ystod y streiciau fe fydd y gwasanaethau brys yn parhau i fod ar gael ac ry'n yn gweithio gydag undebau, staff a'r system iechyd yn ehangach er mwyn sicrhau ein bod yn gallu parhau i gynnal gwasanaethau hanfodol.

"Yn anorfod bydd y gweithredu yn effeithio ar wasanaethau iechyd ac ry'n yn gofyn i bawb ddefnyddio ein gwasanaethau yn gall yn ystod yr amser anodd hwn.

"Cofiwch gynllunio o flaen llaw gan sicrhau cael eich moddion presgripsiwn, edrychwch ar ôl eich hun, eich cymdogion a'r teulu a ffoniwch 999 (neu 111) pan bod angen gwirioneddol i wneud hynny."

Yn ôl y prif weithredwr Jason Killens bydd "tua 20" o aelodau staff milwrol yn rhoi cefnogaeth i'r gwasanaeth ambiwlans yn ystod y dydd.

Awgrymodd bod "modd symud ymlaen" o ran materion sy'n rhan o'r anghydfod nad sy'n ymwneud â thâl, gan annog Llywodraeth Cymru a'r undebau i "barhau â'r trafodaethau i gael cyfaddawd".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn siomedig fod "cynnig cryf" wedi cael ei wrthod.

"Dyma'r cynnig gorau y gallwn ni wneud gyda'n setliad ariannol presennol," meddai llefarydd.

Ychwanegodd fod y llywodraeth yn gweithio "i sicrhau bod gofal achub bywyd a chynnal bywyd yn cael ei ddarparu", a bod diogelwch cleifion yn cael ei gynnal.