Gwasanaeth ambiwlans 'dan bwysau' er gohirio streic un undeb

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Richard Harries, Parafeddyg: 'Ddim yn hapus â'r cynnig sydd wedi'i roi i ni'

Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru wedi rhybuddio am "bwysau sylweddol" dros y ddeuddydd nesaf, er bod un undeb wedi gohirio eu streic.

Bydd aelodau undeb Unite yn parhau â'u streic ddydd Llun a ddydd Mawrth, er bod undeb y GMB a'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi gohirio eu gweithredu i ystyried y cynnig.

Yn y cyfamser, mae Unite wedi cyhoeddi deuddydd ychwanegol o streiciau ar gyfer canol mis Chwefror, ar ben y dyddiadau oedd eisoes wedi eu trefnu.

Dywedodd eu cyfarwyddwr fod aelodau'n teimlo fod cynnig Llywodraeth Cymru'n "annerbyniol".

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth eu bod yn "siomedig" am y dyddiadau ychwanegol ac mai penderfyniad yr undebau fydd derbyn "pa bynnag becyn y gallwn ei gyrraedd" wrth barhau â thrafodaethau.

Fore Sul, fe ddywedodd arweinydd Unite, Sharon Graham ei bod yn cwrdd â'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn ystod y dydd yn y gobaith i geisio "datrys yr anghydfod" dros dâl ac amodau.

Bellach, mae dyddiadau ar gyfer rhagor o weithredu wedi eu clustnodi ar 21 a 22 Chwefror. Mae hyn ar ben y rhai oedd eisoes wedi eu trefnu ar gyfer 20 Chwefror a 6 a 20 Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Gweithwyr undeb Unite yw'r unig rai i barhau â'u streic ddydd Llun

Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans y byddai streic Unite yn cael "effaith sylweddol ar ein gwasanaeth".

"Fe ddylai aelodau'r cyhoedd barhau i'n cefnogi trwy ffonio pan fo achos brys yn unig," rhybuddiodd.

Mae disgwyl i 20 o swyddogion milwrol helpu'r gwasanaeth drwy yrru ambiwlansys.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kevin Gamlin fod aelod o'r cyhoedd wedi gweiddi ar bicedwyr yn Llanelli

Ar y llinell biced yn Llanelli dywedodd un parafeddyg fod ymateb y mwyafrif o'r cyhoedd yn gadarnhaol, ond fod rhywun wedi gweiddi arnynt hefyd.

"Roedden ni ar y llinell biced ac roedd pobl yn dangos eu cefnogaeth, pan wnaeth dyn mewn fan ddechrau gweiddi arnom ni," meddai Kevin Gamlin.

"Roedd yn dweud na ddylen ni fod yn picedu, ac y dylai fod lan i'r trafodaethau. Roedd yn eitha' bygythiol.

"Dydyn ni ddim yma oherwydd tâl. Ry'n ni yma i gleifion gael gwell profiad. A bod yn deg ry'n ni wedi cael dipyn go lew o gefnogaeth hefyd."

'Balch o'r ymateb cychwynnol'

Ddydd Gwener, fe ddaeth i'r amlwg fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig 3% o godiad cyflog ar ben swm o £1,400 sydd eisoes wedi ei addo.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y trafodaethau'n parhau.

"Ry'n ni'n yn falch o'r ymateb cychwynnol i'r cynnig cyflog uwch a wnaed i undebau llafur iechyd, ac rydym yn parhau i gysylltu â nhw ynghylch sawl o ymrwymiad arall, sydd ddim yn ymwneud â chyflogau, i wella llesiant staff.

"Ry'n ni'n diolch eto i'r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y trafodaethau am eu hymgysylltiad cadarnhaol a'u hewyllys da."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Eluned Morgan y bydd y trafodaethau gydag undeb Unite bellach yn "drafodaeth wahanol iawn"

Yn siarad gyda BBC Cymru ddydd Llun, dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan na fydd Unite bellach yn rhan o'r trafodaethau i wella amodau i'w staff, trwy fod yr unig undeb o bump i beidio gohirio eu streic.

Ychwanegodd y bydd trafodaethau yn "parhau gyda'r undebau yna sydd wedi stopio'r action am y tro", ond y bydd y trafodaethau gydag Unite bellach yn "drafodaeth wahanol iawn".

"Yn amlwg fe fyddwn ni'n dal i drafod gyda nhw, ond mae honno'n drafodaeth wahanol iawn, iawn," meddai.

"Maen nhw'n meddwl bod mwy o arian gyda ni. Beth ni wedi gwneud ydy agor ein llyfrau ni a dangos yr arian sydd gyda ni.

"Maen nhw angen deall na fydd y trafodaethau'n arwain at fwy o arian."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd aelodau undeb GMB - sy'n cynrychioli rhai gweithwyr ambiwlans - yn streicio ddydd Llun bellach

Wrth siarad ar raglen Politics Wales BBC Cymru ddydd Sul dywedodd Gweinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans, y bydd dewisiadau Llywodraeth Cymru'n "anoddach" yn y dyfodol wedi iddyn nhw ddod o hyd i gyllid ychwanegol er mwyn cynnig mwy o arian i staff y GIG.

Fe esboniodd fwriad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio £125m o'u cronfeydd wrth gefn - yr uchafswm sy'n cael ei ganiatáu - a byddai GIG Cymru'n gorfod arbed £64m bob blwyddyn i ariannu'r codiad cyflog uwch.

Dywedodd Sharon Graham o undeb Unite wrth BBC Cymru nad ydy uwch-gynrychiolwyr yr undeb yn barod i dderbyn y cynnig ar hyn o bryd.

"Yr oll ry'n ni'n ystyried, a bod yn onest, yw sut mae'r arian hyn yn cael ei rannu," meddai.

"Maen nhw'n sôn am 4% [y cynnig gwreiddiol] a'r 3% ychwanegol ac ry'n ni'n sôn am sut mae'r 3% yna ar gael oherwydd ar hyn o bryd mae lot ohono'n daliad untro.

"Ry'n ni bron yno dw i'n teimlo. Ry'n ni mewn lle gwahanol yng Nghymru nag yn Lloegr."

Pwysau'n parhau ar fyrddau iechyd

Yn y cyfamser, er bod nyrsys, bydwragedd a ffisiotherapyddion wedi gohirio eu gweithredu, mae byrddau iechyd wedi rhybuddio na fydd eu gwasanaethau'n dychwelyd i'w sefyllfaoedd arferol yn syth.

Mewn negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol, mae'r byrddau wedi gofyn i bobl ond fynychu apwyntiadau os oes rhywun wedi cysylltu â nhw, gan na fyddai trefniadau'n gallu cael eu gwneud ar fyr rybudd.

Tu hwnt i Gymru, mae'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr yn wynebu'r wythnos fwyaf o streicio hyd yma, gyda nyrsys a gweithwyr ambiwlans yn parhau i weithredu mewn sawl rhan o'r wlad.