Undeb prifathrawon yn gwrthod cynnig tâl newydd

  • Cyhoeddwyd
DosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae undeb sy'n cynrychioli penaethiaid ysgolion wedi penderfynu peidio cynnal pleidlais ymysg aelodau ynglŷn â chynigion Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar weithredu diwydiannol.

Dywedodd undeb NAHT fod "diffyg manylion a thryloywder" yng nghynigion Llywodraeth Cymru i dorri ar lwyth gwaith staff.

Dyw aelodau'r undeb ddim wedi bod yn streicio, ond maen nhw wedi bod yn gweithredu mewn ffyrdd eraill, fel gwrthod gwneud rhai tasgau tu allan i oriau craidd a gwrthod cyflawni dyletswyddau staff sy'n streicio.

Mae dau o undebau sy'n cynrychioli gweithwyr ambiwlans hefyd wedi gwrthod cynnig tâl Llywodraeth Cymru, gan olygu y byddan nhw ar streic ddechrau'r wythnos nesaf.

'Dim mwy na geiriau caredig'

Daw penderfyniad yr NAHT wedi i undeb yr NEU wrthod cynnig codiad cyflog o 6.5% gan Lywodraeth Cymru, sy'n golygu y bydd ei aelodau yn mynd ymlaen gyda'u streiciau ar 2, 15 a 16 Mawrth.

Fe fydd aelodau'r NAHT yn parhau i weithredu yn yr un modd ar ôl dweud nad oes digon o eglurder i bleidleisio ar y cynigion.

Dywedodd Paul Whiteman o'r NAHT ei bod yn "galonogol" fod gweinidogion Cymru wedi gwneud cynnig gwell, ond fod aelodau angen mwy o fanylion er mwyn dod i benderfyniad.

"Mae hi'n siomedig fod Llywodraeth Cymru, hyd yma, wedi methu â chefnogi ei geiriau caredig am lwyth gwaith gyda manylion o ddiwygiadau go iawn i leihau biwrocratiaeth," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu nad oes unrhyw arian ychwanegol i'w gynnig i athrawon.

Dywedodd ei bod yn bositif fod yr NAHT wedi cydnabod fod cynnydd wedi'i wneud ar sawl mater, ac y bydd yn "gweithio ar frys" er mwyn mynd i'r afael â phryderon yr undeb.

Disgrifiad o’r llun,

Mae undebau'r GMB ac Unite wedi gwrthod cynnig Llywodraeth Cymru i weithwyr ambiwlans

Yn y cyfamser, mae undeb y GMB wedi cadarnhau eu bod nhw wedi gwrthod cynnig Llywodraeth Cymru i weithwyr iechyd.

Bydd tua 1,500 o staff y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru sy'n aelodau o'r GMB felly yn streicio ddydd Llun, 20 Chwefror.

Mae undeb Unite hefyd wedi gwrthod y cynnig yn gynharach yr wythnos hon, gan olygu y bydd aelodau'r undeb honno ar streic ddydd Llun yn ogystal.

Dyma felly fydd y streic fwyaf i effeithio ar y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru ers dechrau'r anghydfod.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru y bydd "amharu sylweddol" ar ei allu i ymateb i argyfyngau ddechrau'r wythnos o ganlyniad i'r gweithredu diwydiannol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig 3% yn ychwanegol i staff iechyd y flwyddyn nesaf, ond mae hanner hwnnw ar ffurf taliad untro.

Rhoi'r bai ar Lywodraeth y DU

"Ry'n ni'n diolch i Lywodraeth Cymru am ddechrau trafodaethau, ond os mai dyma eu cynnig olaf, mae'n rhy isel i'n haelodau ni," meddai Nathan Holman o GMB Cymru.

"Nawr yn fwy nag erioed rydym angen datrysiad ar gyfer y DU gyfan i fynd i'r afael â'r tâl isel sydd o fewn y GIG a'r gwasanaeth ambiwlans.

"Yr unig berson i gymryd cyfrifoldeb am hynny ydy Steve Barclay [ysgrifennydd iechyd Llywodraeth y DU], ac mae'n amser nawr iddo ddechrau trafod gyda ni am dâl."

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn siomedig fod y "cynnig cryf" i staff iechyd wedi cael ei wrthod.

"Dyma'r cynnig gorau y gallwn ni wneud gyda'n setliad ariannol presennol," meddai llefarydd.