Aberhosan: Seilo grawn wedi dymchwel ar fferm ble bu farw dyn

  • Cyhoeddwyd
Aberhosan

Mae'r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i farwolaeth dyn ar ôl damwain ar fferm ger Machynlleth ddydd Gwener.

Bu farw'r ffermwr Iwan Evans - a chafodd ei fab, Dafydd, ei anafu'n ddifrifol - yn y digwyddiad ar fferm Cleiriau Isaf yn Nyffryn Dulas ger Aberhosan.

Mae'r gwasanaeth tân ac achub bellach wedi cadarnhau eu bod wedi eu galw yno ar ôl i seilo grawn ddymchwel.

Cafodd pump o griwiau gwahanol eu galw i'r fferm am tua 17:00, ynghyd â'r gwasanaeth ambiwlans a'r heddlu.

Mae Dafydd Evans, sy'n 42 oed, yn cael triniaeth yn Ysbyty Stoke gydag anafiadau difrifol.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys nad ydyn nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus.

Disgrifiad,

Cynghorydd Elwyn Vaughan: 'Y newyddion yn dristwch i'r gymuned amaethyddol'

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cadarnhau eu bod wedi ymweld â fferm yn yr ardal ddydd Sadwrn a bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r hyn ddigwyddodd.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod eu meddyliau gyda'r teulu - sydd yn derbyn cefnogaeth arbenigol.

Ddydd Sul, dywedodd Aled Griffiths, asiant o Undeb NFU Cymru ac sydd hefyd yn aelod o Gôr Meibion Machynlleth, fod yr "ardal gyfan mewn sioc".

"Mae'n sefyllfa drist ond mae'n dangos pa mor beryg ydy'r diwydiant amaeth - dangos bod damweiniau fel hyn yn medru digwydd."

Ychwanegodd y cynghorydd sir, Elwyn Vaughan, fod y digwyddiad yn "fraw i'r gymuned amaethyddol gyfan".

Pynciau cysylltiedig