Gweithwyr ambiwlans i streicio am ddau ddiwrnod arall
- Cyhoeddwyd
Bydd gweithwyr ambiwlans yn streicio am ddau ddiwrnod arall fis nesaf, gydag undeb yn rhybuddio bod "dim diwedd yn y golwg" i'r anghydfod.
Daw'r streicio ychwanegol yng Nghymru - ar 6 a 10 Mawrth - wrth i aelodau Unite fod ar streic am dridiau'r wythnos hon.
Dywedodd Richard Munn o Unite fod angen i Lywodraeth Cymru "gydnabod cryfder teimladau ein haelodau".
Dywedodd y llywodraeth yn flaenorol ei bod yn "siomedig" bod cynnig cyflog o 3% ar gyfer 2022-23 wedi'i wrthod.
Roedd hyn ar ben y 4.5% ar gyfartaledd a dalwyd i weithwyr iechyd yr hydref diwethaf.
'Mater o frys'
Dywedodd Mr Munn, swyddog rhanbarthol Unite Cymru, fod aelodau "yn flin ac yn benderfynol o gael bargen sy'n atal rhagor o erydiad cyflog".
"Ar hyn o bryd does dim diwedd yn y golwg i'r anghydfod hwn, oni bai bod modd dod i gytundeb," meddai.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham, fod angen datrys yr anghydfod "fel mater o frys".
"Tan y bydd hynny'n digwydd bydd y streiciau'n parhau a bydd Unite yn parhau i gefnogi ei aelodau Ambiwlans Cymru i'r eithaf," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn aros am farn cydweithwyr undeb llafur iechyd eraill sy'n parhau i drafod ein cynnig diwygiedig o well tâl ac amodau gwaith.
"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2023