Dros hanner staff ambiwlans Cymru ar streic ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae staff y gwasanaeth ambiwlans o ddau undeb llafur yn streicio ddydd Llun wrth i'r anghydfod cyflogau barhau.
Dyma'r tro cyntaf i GMB ac Unite gynnal streic ar yr un diwrnod yng Nghymru.
Mae disgwyl y bydd dros hanner o staff y gwasanaeth ambiwlans yn streicio - tua 2,000 o'r gweithlu.
Dywedodd prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens, wrth raglen Radio Wales Breakfast ddydd Llun eu bod yn rhagweld y bydd dros hanner y gweithlu yn gweithredu'n ddiwydiannol.
Mae'r gwasanaeth eisoes wedi dweud y bydd "amharu sylweddol" ar eu gallu i ymateb i argyfyngau o ganlyniad i'r gweithredu diwydiannol.
Ond maen nhw'n pwysleisio y byddan nhw'n ateb galwadau brys.
Daw hyn ar ôl i'r ddau undeb wrthod cynnig tâl Llywodraeth Cymru i weithwyr iechyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig 3% yn ychwanegol i staff iechyd y flwyddyn nesaf, ond mae hanner hwnnw ar ffurf taliad untro.
Mae hynny ar ben yr argymhellion gan y corff sy'n adolygu taliadau, sydd eisoes wedi cael eu gweithredu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn siomedig fod y "cynnig cryf" wedi cael ei wrthod.
'Rhy isel'
Yn ôl GMB, wnaeth 67% o'u haelodau wrthod y cynnig, tra dywedodd Unite bod 92% o'u haelodau nhw hefyd wedi gwrthod.
"Ry'n ni'n diolch i Lywodraeth Cymru am ddechrau trafodaethau, ond os mai dyma eu cynnig olaf, mae'n rhy isel i'n haelodau ni," meddai Nathan Holman o GMB Cymru.
"Nawr yn fwy nag erioed rydym angen datrysiad ar gyfer y DU gyfan i fynd i'r afael â'r tâl isel sydd o fewn y GIG a'r gwasanaeth ambiwlans.
"Yr unig berson i gymryd cyfrifoldeb am hynny ydy Steve Barclay [ysgrifennydd iechyd Llywodraeth y DU], ac mae'n amser nawr iddo ddechrau trafod gyda ni am dâl."
Mae aelodau gwasanaeth ambiwlans undeb Unite yn parhau i streicio ddydd Mawrth a dydd Mercher hefyd.
Yn ôl Swyddog Rhanbarthol Unite Cymru, Richard Munn: "Mae ein haelodau wedi dweud wrthym nad yw'r cynnig cyflog yn ddigon da a bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy os yw'r anghydfod hwn am gael ei ddatrys.
"Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru wella eu cynnig er mwyn osgoi streiciau pellach."
Un o'r gweithwyr ar y linell biced yng ngorsaf Parc Tawe, Abertawe oedd Nicola Williams, sy'n gweithio i'r gwasanaeth ambiwlans ers 18 mlynedd.
"Yn yr amser hynny ry'n ni wedi gweld toriadau cyflog mewn termau real," dywedodd, gan grybwyll trafferthion recriwtio a phenodi staff yn ogystal.
"Dydy'r job ddim yr hyn mae pobl yn ei feddwl mwyach. Mae'r gwasanaeth 999 wastad wedi bod ar gyfer argyfyngau life and limb, nid dim ond ar ddyddiau streic ond trwy'r adeg. Dylai pobl fod yn ei defnyddio'n ddoeth bob diwrnod.
"Ni allwn ddelio gyda nifer y galwadau diangen ry'n ni'n eu derbyn yn ddyddiol. Mae oedi wedi bod yn yr ysbytai ers sbel. Dyw e ddim jyst yn broblem adeg y gaeaf, ond drwy'r flwyddyn. Mae pobl yn mawr achos dydyn nhw methu cael ambiwlans."
'Fedar hyn ddim cario ymlaen'
Roedd staff ar streic ym Mae Colwyn hefyd yn pwysleisio eu bod yn gweithredu'n rhannol oherwydd y cyfnodau hir y mae'n rhaid iddyn nhw aros tu allan i ysbytai cyn i gleifion gael eu derbyn tu mewn.
"Rydan ni'n siomi'r cyhoedd bob diwrnod achos yr oedi yn yr ysbytai," meddai'r parafeddyg Manon Williams, sy'n gweithio i'r gwasanaeth ers 1995.
"Fedar hyn ddim cario ymlaen. Dydi o ddim yn deg i'r cyhoedd nac i'r staff. Mae'r pwysau'n ormod.
"Mae'n ddigalon. Chafodd yr ambiwlansys mo'u creu i bobol orwedd ar stretcher am gyfnoda' hir. Maen nhw yna i gludo pobol.
"Mae'r cleifion sy'n sownd yn ein hambiwlansys angen mynd i'r tŷ bach, mae angen eu symud yn rheolaidd rhag ca'l pressure sores.
"A tra bod hynny'n digwydd, mae yna bobol yn y gymuned sydd wedi bod ar y llawr ers oria' maith yn aros am ambiwlans."
'Mae eich calon yn suddo'
Ymunodd Joanne Jones â'r linell biced wedi shifft 12 awr a dwyawr o gwsg. Mae'n bosib gorfod gweithio shifftiau 14 awr weithiau "a heb frêc achos does dim un ffordd o fynd yn ôl i orsaf neu gael rhywun i'n rhyddhau".
Dywedodd: "Yn syml, dydan ni ddim yn gallu gwneud ein job.
Pan ddechreuodd ei shifft nos Sul am 19:00, dywedodd bod yna "18 ambiwlans tu allan i Ysbyty Glan Clwyd" a bod "llawer ohonyn nhw wedi bod yna trw'r dydd".
Dywedodd: "Mae eich calon yn suddo achos 'dach chi'n gw'bod fyddach chi yna'n eistedd trwy eich shifft.
"Mae yna alwad coch ar eich radio, ond gallwch chi ddim ymateb iddo.'Dach chi'n gw'bod bod rhywun, o bosib, yn cael cardiac arrest ond gallwch chi wneud dim i'w helpu.
"Pan 'dan ni'n mynd i dai pobol, 'dan ni wastad yn gorfod ymddiheuro am yr oedi."
Cyngor i'r cyhoedd
Nos Sul dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod yn deall y bydd gan bobl bryderon yn ystod y gweithredu diwydiannol.
Ond fe bwysleisiodd: "Yn ystod y streiciau fe fydd y gwasanaethau brys yn parhau i fod ar gael ac ry'n yn gweithio gydag undebau, staff a'r system iechyd yn ehangach er mwyn sicrhau ein bod yn gallu parhau i gynnal gwasanaethau hanfodol.
"Yn anorfod bydd y gweithredu yn effeithio ar wasanaethau iechyd ac ry'n yn gofyn i bawb ddefnyddio ein gwasanaethau yn gall yn ystod yr amser anodd hwn.
"Cofiwch gynllunio o flaen llaw gan sicrhau cael eich moddion presgripsiwn, edrychwch ar ôl eich hun, eich cymdogion a'r teulu a ffoniwch 999 (neu 111) pan bod angen gwirioneddol i wneud hynny."
Yn ôl y prif weithredwr Jason Killens bydd "tua 20" o aelodau staff milwrol yn rhoi cefnogaeth i'r gwasanaeth ambiwlans yn ystod y dydd.
Awgrymodd bod "modd symud ymlaen" o ran materion sy'n rhan o'r anghydfod nad sy'n ymwneud â thâl, gan annog Llywodraeth Cymru a'r undebau i "barhau â'r trafodaethau i gael cyfaddawd".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn siomedig fod "cynnig cryf" wedi cael ei wrthod.
"Dyma'r cynnig gorau y gallwn ni wneud gyda'n setliad ariannol presennol," meddai llefarydd.
Ychwanegodd fod y llywodraeth yn gweithio "i sicrhau bod gofal achub bywyd a chynnal bywyd yn cael ei ddarparu", a bod diogelwch cleifion yn cael ei gynnal.
'Pobl wedi cael digon'
Yn ôl aelod o bwyllgor cyffredinol TUC Cymru, mae'r gefnogaeth i'r streiciau'n dal yn gryf.
"Dwi'n credu bod pobol wedi dihuno nawr i anghyfartaledd," dywedodd Sian Gale ar raglen Dros Frecwast, gan dynnu sylw at flynyddoedd o doriadau ac elw'r cwmnïau ynni yng nghanol yr argyfwng costau byw.
"Mae tâl [gweithwyr y sector cyhoeddus] wedi bod yn bell tu ôl i dâl y sector preifat dros y deng mlynedd dwetha, yn enw llymder o ran San Steffan, ond nhw sydd 'di talu'r pris a 'ma' nhw wedi cael digon."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2023