Darparu £5.4m i greu amgueddfa bêl-droed i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Yr amgueddfaFfynhonnell y llun, Amgueddfa Dau Hanner
Disgrifiad o’r llun,

Bydd arian Llywodraeth Cymru yn galluogi dechrau'r gwaith o ailwampio'r adeilad yn ystod gwanwyn 2024

Mae'r cynllun i greu amgueddfa bêl-droed i Gymru gam yn nes at gael ei wireddu, ar ôl i'r fenter dderbyn buddsoddiad o dros £5.4m.

Y bwriad ydy trawsnewid amgueddfa bresennol Wrecsam yn 'Amgueddfa o Ddau Hanner', gydag un rhan yn adrodd stori'r bêl gron yng Nghymru gyfan, a'r llall yn adlewyrchu hanes y ddinas.

Yn ôl un AS lleol, mae dod â sefydliad cenedlaethol i'r rhanbarth yma yn "ddatganiad bod y gogledd-ddwyrain yn rhan bwysig o hunaniaeth Cymru".

Dywedodd rheolwr y prosiect, Jonathan Gammond, y bydd yr arian gan Lywodraeth Cymru yn eu galluogi i ddechrau'r gwaith o ailwampio'r adeilad yn ystod gwanwyn 2024.

'Am unrhyw bêl-droed sy'n cael ei chwarae yng Nghymru'

Dan y cynlluniau cynnar, bydd adeilad yr amgueddfa - a gafodd ei godi fel barics yn 1857 - yn newid yn sylweddol.

Mae bwriad i greu atriwm neu 'gwrt mawr' fel mynedfa i'r arddangosfeydd, gydag arddangosfeydd ar ddau lawr.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw ailddatblygu Amgueddfa Wrecsam i greu lle i'r amgueddfa bêl-droed

Ond ochr yn ochr â dylunio dyfodol yr adeilad, mae swyddogion yr amgueddfa eisoes yn cydweithio gyda chlybiau a chymunedau sy'n "caru pêl-droed".

"Dydy o ddim jyst am beth sy'n digwydd yn yr adeilad yma, mae o am beth sy'n digwydd ledled Cymru," meddai Mr Gammond.

Ymhlith y gweithgarwch diweddar mae prosiect ffotograffiaeth a gafodd ei gynnal yng Nghaerdydd, Abertawe, Merthyr Tudful a Chaernarfon yn ystod Cwpan y Byd.

Disgrifiad o’r llun,

Rheolwr y prosiect, Jonathan Gammond

"Bydd mwy o brosiectau fel 'na," meddai Mr Gammond.

"Mae'r amgueddfa yn Wrecsam, ond o ran y pêl-droed, mae o am unrhyw bêl-droed sy'n cael ei chwarae yng Nghymru, neu gan Gymry tu allan i Gymru.

"Mi fydd hynna i gyd yn cael sylw, a phob agwedd o'r gêm - amatur, proffesiynol, dynion, merched, pobl o wahanol genhedloedd a lleiafrifoedd - pawb sy'n caru'r gêm."

'Nifer o lwyddiannau'

Ychwanegodd y bydd gosod hanes ardal Wrecsam ochr yn ochr â hanes pêl-droed yn "gweddu" gan fod "pêl-droed yn rhan o hanes cymdeithas" yn ehangach.

Aeth Dawn Bowden, dirprwy weinidog y celfyddydau a chwaraeon, i'r amgueddfa i gyhoeddi'r cyllid newydd, sy'n rhan o gytundeb rhwng y llywodraeth a Phlaid Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dawn Bowden fod arddangos "ysbryd ac amrywiaeth cymuned bêl-droed Cymru" mewn un man yn "hanfodol"

Mae'n dilyn buddsoddiad blaenorol o £800,000 yn 2020.

"Rydym wedi gweld nifer o lwyddiannau, yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf, ym mhêl-droed dynion a merched," meddai Ms Bowden.

"Mae sicrhau bod y digwyddiadau dramatig ac emosiynol ar y llwyfan rhyngwladol, hanes a datblygiad pêl-droed clybiau yng Nghymru, ac ysbryd ac amrywiaeth cymuned bêl-droed Cymru, yn cael eu harddangos mewn un lle yn hanfodol ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol."

'Stori fawr i'w dweud'

Ond mae'r alwad am sefydliad o'r fath yn Wrecsam yn hŷn na'r llwyddiant diweddar ar y cae.

Fe ddechreuodd Llŷr Gruffydd AS ymgyrchu dros amgueddfa bêl-droed yn 2015.

"O'n i'n teimlo y base fo'n ddatganiad bod y gogledd-ddwyrain yn rhan bwysig o hunaniaeth Cymru, ac mae hwn gobeithio yn mynd i danlinellu hynny," meddai.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Dau Hanner
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad ydy trawsnewid amgueddfa bresennol Wrecsam yn 'Amgueddfa o Ddau Hanner', gydag un rhan yn adrodd stori'r bêl gron yng Nghymru gyfan, a'r llall yn adlewyrchu hanes y ddinas.

Uchelgais yr ymgyrch ar y cychwyn oedd i leoli'r amgueddfa yn y Cae Ras, ac iddi gael statws amgueddfa genedlaethol fel yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis a'r Amgueddfa Wlân ger Castellnewydd Emlyn.

"Nid dyna ydy o ar hyn o bryd, [ond] yn amlwg mae'r uchelgais dal yna i gyrraedd y pwynt yna," meddai.

Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru ar chwaraeon, Heledd Fychan, ei bod hi'n "stori sy'n haeddu cael ei hadrodd".

"Bydd sefydlu'r amgueddfa yn dangos rôl bwysig pêl-droed mewn cymunedau ar draws Cymru, yn ogystal â sut mae'r gêm wedi helpu i fagu teimlad o hunaniaeth genedlaethol, fan hyn ac ar y llwyfan rhyngwladol," meddai.

Tra bod y gwaith o sefydlu amgueddfa newydd yn digwydd yn y cefndir, mae 'na arddangosfa o grysau pêl-droed hanesyddol yn Amgueddfa Wrecsam ar hyn o bryd.

Disgrifiad o’r llun,

Tom ac Elsbeth Nicholls yn ymweld â'r amgueddfa

Un oedd yn edrych ar yr creiriau yr un pryd â Ms Bowden oedd Elsbeth Nicholls, sy'n wreiddiol o Rosllanerchrugog.

"Dyma lle 'aru pêl-droed ddechrau yng Nghymru, a dyma lle ddyle'r amgueddfa newydd fod," meddai.

"Mae 'ne bethe diddorol o gwmpas - Erddig, Froncysyllte, y [clwb] pêl-droed - ond yng nghanol Wrecsam mae siopau a phethe yn cau, felly mae angen rhywbeth i ddod â phobl i fewn."

Pynciau cysylltiedig