Goleuadau de Cymru o Wexford, Iwerddon
- Cyhoeddwyd
Tynnwyd y llun yma o oleuadau yn y pellter ar arfordir de Cymru o fwrdd awyren 18,000 troedfedd uwchben tref Wexford yn Iwerddon.
Paul Maguire, aelod o Batrol Morwrol y Corfflu Awyr Gwyddelig, sydd wedi ei dynnu ar ôl gorffen taith yn goruchwylio dyfroedd yr Undeb Ewropeaidd o amgylch Iwerddon.
"Cafodd ei dynnu ar noson hynod o glir a llonydd ond dydi hi ddim yn anarferol gweld Cymru o'r uchder yna unwaith mae'r cymylau wedi mynd," meddai Paul.
Ar ôl iddo roi'r llun ar Facebook fe gafodd dipyn o ymateb er bod rhai pobl yn gwrthod credu mai Cymru oedd yn y pellter.
"Dwi'n credu bod lot o bobl wedi methu â deall ei fod wedi ei dynnu o tua 18000 troedfedd lle gallwch chi weld goleuadau Cymru ar noson glir.
"Ro'n i'n synnu i weld gymaint o ymateb i'r llun gan ei fod ychydig yn blurred. Mae'n anodd cael llun, yn enwedig yn y nos mewn awyren sy'n symud a chrynu ond ro'n i'n meddwl ei fod yn llun neis o oleuadau Wexford a Chymru mewn un."
Y clwstwr o oleuadau mawr ym mlaen y llun yw Wexford gyda Rosslare a'i harbwr yn y pellter cyn i oleuadau Cymru ymddangos dros y môr yn y pellter ar dop y llun.
"Yr wythnos diwetha, ro'n i'n gallu gweld mynyddoedd Cymru yn glir o tua 1000 troedfedd wrth inni hedfan heibio'r Tuskar Rock oddi ar Wexford. Ar ddiwrnod digon clir mi fedrwn ni weld Cymru o gopa Howth Head yn Nulyn," meddai Paul.
"Dwi'n credu bod gan y Cymry ar Gwyddelod lot yn gyffredin. Rydyn ni'n trysori traddodiadau, iaith a threftadaeth ein cenedl. Mae tirlun y ddwy wlad yn anhygoel. Rydyn ni'n gallu canu. Ac mae ganddon ni ddau o'r timau rygbi gorau yn y byd!"
Hefyd o ddiddordeb: