Colli gwasanaeth bws Blaenau Ffestiniog 'yn ergyd'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Llai o fysiau'n gur pen i bobl ym Mlaenau Ffestiniog

Cafwyd cyfarfod cyhoeddus ym Mlaenau Ffestiniog nos Fawrth yn sgil pryderon bod gwasanaeth bws y T19 wedi dod i ben.

Roedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan gwmni Llew Jones o Lanrwst.

Fe gyhoeddodd y cwmni fis diwethaf y bydden nhw'n dod â'r gwasanaeth i ben ar 11 Chwefror.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn siomedig, ond bod partneriaid yn ceisio cynnal cysylltiadau i gymunedau.

'Ddim yn gyfleus'

Fe gafodd y cyfarfod ei drefnu gan y cynghorydd lleol, Elfed Wyn ab Elwyn, sy'n dweud bod colli'r cysylltiad rhwng Blaenau a Llandudno yn "ergyd fawr".

"Mae'n effeithio ar pawb - ar deithwyr ac ar blant ysgol," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cyfarfod ei drefnu gan y cynghorydd lleol, Elfed Wyn ab Elwyn

"Mae 'na reilffordd ond dyw hi ddim mor ddibynadwy.

"Yn y blynyddoedd diwetha' mae wedi cau am wythnosau ar y tro - yn ystod llifogydd.

"Mae cost y trên yn uwch na bws a dyw'r amserlen ddim yn gyfleus i bawb."

'Dim dewis arall'

Mewn datganiad fe ddywedodd cwmni Llew Jones eu bod nhw wedi ceisio cynnal gwasanaeth y T19 ac wedi gofyn am gymorth.

"Er gwaethaf ein hymdrechion i ddod o hyd i ddatrysiad fyddai wedi sicrhau parhad gwasanaeth bws y T19, rydym wedi methu cael cymorth gan Gyngor Conwy, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.

"Mae'n edifar gennym nad oes gennym ddewis ond cadarnhau bod y gwasanaeth T19 yn cysylltu Blaenau Ffestiniog a Llandudno yn dod i ben ar 11 Chwefror.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth y gwasanaeth rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno i ben ganol mis Chwefror

"Rydym wedi buddsoddi llawer i ddatblygu'r T19 i gefnogi pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

"Er budd y cyhoedd, mae cwmni Llew Jones wedi creu nifer o wasanaethau bychain lleol ar hyd llwybr y T19.

"Yn anffodus, ni fydd y rhain cystal â'r hyn gafodd ei gynnig yn wreiddiol i ddatrys y sefyllfa."

Sicrhau trafnidiaeth gyhoeddus

Dywedodd Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru: "Rydym yn siomedig bod y darparwr wedi dod â'r gwasanaeth T19 i ben.

"Rydym wedi rhoi £48m o gyllid brys i i'r diwydiant bysiau eleni i gynnal gwasanaethau yng Nghymru.

"Mae Trafnidiaeth Cymru nawr yn gweithio gyda Chyngor Conwy i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu cynnal mewn cymunedau gwledig ar hyd llwybr y T19 ac mae hyn yn cynnwys rhagor o welliannau i gynllun fflecsi Dyffryn Conwy.

"Byddwn yn parhau i weithio i sicrhau bod teithwyr yn cael gwybod am newidiadau."

'Mater i'r cwmni'

Dywedodd Cyngor Conwy eu bod nhw hefyd yn siomedig gyda'r penderfyniad.

"Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn rhoi cymhorthdal i'r gwasanaeth hwn ac felly nid oes arian wedi'i dynnu'n ôl - mae'n wasanaeth masnachol y mae'r gweithredwr wedi dweud nad yw bellach yn hyfyw iddynt ei gynnal," meddai llefarydd.

"Fel gyda pob gwasanaeth bws masnachol, mae unrhyw benderfyniadau o'r fath yn fater i gwmnïau preifat.

"Mae gan y cyngor gyfrifoldeb dros ddysgwyr, ac rydym wedi cysylltu â myfyrwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth T19 i roi gwybod iddynt am y trefniadau newydd rydym wedi'u gwneud er mwyn iddynt allu cyrraedd yr ysgol neu'r coleg."