Cynnig newidiadau mawr i wasanaethau bysiau Cymru

  • Cyhoeddwyd
BwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos yn agor ddydd Iau ar y cynlluniau

Mae cynlluniau mawr i newid yn llwyr sut mae gwasanaethau bws yn gweithredu ledled Cymru wedi cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru.

Byddai'n rhaid i gwmnïau preifat wneud cais i redeg gwasanaethau - gan ailwampio'r system breifat a sefydlwyd yn yr 1980au.

Dywedodd gweinidogion mai'r nod yw helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a "rhoi pobl cyn elw".

Byddai'n gwrthdroi dadreoleiddio gwasanaethau bysiau'r 1980au ac yn anelu at gael un rhwydwaith yng Nghymru gyfan yn y pen draw.

Ymatebodd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ei fod yn "hen bryd" i Lywodraeth Cymru wella gwasanaethau bws.

Hyd at yr 1980au roedd llawer o rwydwaith bysiau Prydain yn cael ei redeg gan gwmnïau cyhoeddus â monopolïau lleol, nes i wasanaethau y tu allan i Lundain gael eu hagor i gystadleuaeth gan lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher.

Ers hynny, mae llawer o'r llwybrau llai proffidiol wedi colli eu gwasanaethau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y nod yn y pen draw yw cael un rhwydwaith Cymreig gydag angen am un tocyn yn unig

O dan y gyfraith newydd ynghyd â strategaeth fysiau newydd, y ddau i'w cyhoeddi yn ddiweddarach ddydd Iau, byddai cwmnïau'n gwneud cais am yr hawl i redeg gwasanaethau penodol a gellid gofyn iddynt redeg bysiau ar lwybrau llai proffidiol yn gyfnewid am hynny.

Ar hyn o bryd mae cynghorau'n darparu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau sy'n llai deniadol yn fasnachol.

Dywedodd gweinidogion y bydden nhw'n gweithio gyda chynghorau, y diwydiant bysiau a theithwyr ar yr hyn y maen nhw'n ei alw'n "fodel masnachfreinio" gyda'r nod yn y pen draw o gael un rhwydwaith Cymreig gydag angen am un tocyn yn unig.

'Gormod o flynyddoedd'

Disgrifiad o’r llun,

Bydd bysiau â "rhan hanfodol yn y gwaith o gysylltu ein cymunedau" wedi'r pandemig, medd Lee Waters

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am drafnidiaeth: "Ers gormod o flynyddoedd rydyn ni wedi creu diwylliant lle rydyn ni'n dibynnu ar geir sydd wedi caniatáu rhyddid a hyblygrwydd unigol yr ydyn ni i gyd yn eu gwerthfawrogi, ond mae hefyd wedi arwain at anghydraddoldebau ac iddyn nhw wreiddiau dwfn a niwed i'r amgylchedd.

"Wrth inni geisio adfer o'r pandemig a chymryd camau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, bydd bysiau'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gysylltu ein cymunedau a chynnig dewis arall cynaliadwy i bobl yn lle defnyddio ceir preifat.

"Rydyn ni wedi gweld dirywiad graddol yn y diwydiant bysiau yng Nghymru dros y blynyddoedd ac, o ganlyniad, rydyn ni wedi etifeddu diwydiant sydd wedi torri y mae angen buddsoddi ynddo yn fawr iawn.

"Ond, rwy'n hyderus y bydd y cynlluniau rydyn ni wedi'u cyhoeddi heddiw yn helpu i baratoi'r ffordd at adferiad iach.

"Ein bwriad yw rhoi pobl o flaen elw a darparu rhwydwaith bysiau ar gyfer teithwyr sydd wedi'i gynllunio'n dda, yn hawdd ei ddeall ac wedi'i gysylltu sy'n sicrhau bod gwneud y peth iawn yn hawdd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd y Ceidwadwr Natasha Asghar AS: "Mae'n hen bryd i weinidogion Llafur gymryd bysiau o ddifrif. Gyda bron i chwarter y bobl yng Nghymru heb gar neu fan, mae'n hanfodol bod cymunedau gwledig yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus hyfyw.

"Rhaid i gynigion a osodir gan y llywodraeth Lafur ddarparu ffordd gost-effeithiol o gefnogi'r diwydiant bysiau yng Nghymru a mynd i'r afael â'r dirywiad mewn gwasanaethau.

"Ni allaf ond gobeithio y bydd agwedd Llafur at drin bysiau yn well na'u hymdriniaeth o drenau."

Dywedodd Delyth Jewell AS, llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth: "Mae gwasanaethau bysiau yng Nghymru wedi bod yn is-safonol ers gormod o amser ac mae'n hen bryd cyhoeddi papur diwygio.

"I ormod o bobl, mewn gormod o rannau o Gymru, nid yw bysiau'n ddull trafnidiaeth hyfyw ar hyn o bryd ac mae angen i hyn newid.

"Mae bysiau'n hanfodol ar gyfer taith Cymru i sero net ac am y rheswm hwn mae'n rhaid trawsnewid y gwasanaeth i un sy'n addas ar gyfer y dyfodol: yn gwbl hygyrch, gan ddefnyddio fflyd sy'n gwbl drydanol neu o leiaf allyriadau isel, ac i'r gwasanaethau bod yn gysylltiedig â mathau eraill o drafnidiaeth megis trenau, llwybrau beicio a llwybrau troed."

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Jane Dodds nad yw record gweinidogion Llafur ar gefnogi gwasanaethau bws "yn wych, gyda nifer y teithiau ar fysiau yng Nghymru wedi gostwng 22% rhwng 2009 a 2019".

"Serch hynny, rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd gwasanaethau bws yn wyrddach ac yn fwy effeithlon a byddwn yn parhau i ymgyrchu i sicrhau bod rhai o dan 25 oed yng Nghymru yn cael mynediad i deithio am ddim ar fysiau mewn ymdrech i hybu symudedd cymdeithasol a chynyddu hyfywedd rhai llwybrau," meddai.

'£130m yn fwy na'r arfer y llynedd gan Lywodraeth Cymru'

Cynigiwyd cynlluniau i newid rheoleiddio bysiau yng Nghymru yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru ddwy flynedd yn ôl ond cawsant eu gohirio pan darodd y pandemig.

Mewn ymateb i gwestiynau'r pwyllgor sy'n craffu ar waith y Prif Weinidog, dywedodd Mark Drakeford bod gwasanaethau bws wedi bod angen lefel "eithriadol" o gymhorthdal i'w cadw i fynd yn ystod y pandemig.

Dywedodd wrth ASau bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £130m yn fwy ar wasanaethau bws y llynedd na'r arfer.

Roedd yna ostyngiad sylweddol yn niferoedd tocynnau yn ystod y cyfnodau clo, ac mae'r niferoedd presennol yn dal yn is na chyn y pandemig.