Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-1 Dorking Wanderers

  • Cyhoeddwyd
Elliot Lee a Paul MullinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Elliot Lee a Paul Mullin i Wrecsam yn yr hanner cyntaf

Mae Wrecsam wedi llwyddo i gadw'r pwysau ar Notts County ar frig y Gynghrair Genedlaethol wrth drechu Dorking ar y Cae Ras ddydd Sadwrn.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 12 munud, wrth i Elliot Lee sgorio gydag ergyd wych o bellter.

Dyblwyd mantais Wrecsam ychydig funudau cyn hanner amser trwy Paul Mullin - ei 27ain gôl yn y Gynghrair Genedlaethol y tymor hwn.

Daeth trydedd gôl i'r Cymry ar ddechrau'r ail hanner gan Sam Dalby, cyn i Dorking rwydo gôl ola'r gêm gyd pheniad gan Jimmy Muitt.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn cwtogi mantais Notts County ar frig y Gynghrair Genedlaethol i ddau bwynt.

Mae Wrecsam wedi chwarae un gêm yn llai ar hyn o bryd, ond bydd hynny'n troi'n ddwy ar ôl i Notts County chwarae yn hwyrach ddydd Sadwrn.