Corwen: Codi arian i brynu gwesty Owain Glyndŵr
- Cyhoeddwyd
Cafodd ymgyrch i achub gwesty hanesyddol yn Sir Ddinbych ei chychwyn gydag ymweliad gan un o arwyr Cymru o'r canol oesoedd ddydd Mercher.
Mae gwesty Owain Glyndŵr wedi bod yng nghanol Corwen ers canrifoedd a bellach mae ymgyrchwyr lleol yn gobeithio codi £500,000 i'w redeg fel menter gymunedol.
Ar Ddydd Gŵyl Dewi, fe wnaeth dyn farchogaeth i ganol y dref mewn arfwisg o'r canol oesoedd wedi ei gorchuddio ag arfbais Glyndŵr i agor arwethiant ar gyfer cyfranddaliadau.
Owain Glyndŵr oedd y Cymro diwethaf i arddel y teitl Tywysog Cymru ac fe arweiniodd wrthryfel yn erbyn rheolaeth Brenin Lloegr ar ddechrau'r 1400au.
Roedd ei deulu'n hannu o Lyndyfrdwy, ac roedd ganddo fanordy yno, rhyw bum milltir o Gorwen.
Siawns am 'ddyfodol disglair'
Mae Partneriaerth Corwen yn gobeithio gwerthu 2,500 o gyfranddaliadau gwerth £200 i brynu ac atgyweirio'r adeilad sy'n dwyn ei enw yng nghanol y dref.
Y bwriad yw prynu'r adeilad cofrestredig Gradd 2 am £310,000 ac yna gwario £200,000 ar ei atgyweirio.
Mae Dylan Jones wedi ei fagu yng Nghorwen ac yn aelod o'r bartneriaeth leol. Mae'n gobeithio y bydd prynu'r gwesty'n hwb i'r dref.
"Mae o'n mynd i fod yn westy a bar, ond 'den ni hefyd isio iddo fo fod yn ganolbwynt i'r gymuned," meddai.
"Dwi wedi gweld y dirywio yng Nghorwen ei hun, y ffordd mae pethau wedi mynd i lawr dros y blynyddoedd a dwi'n meddwl fod y gymuned yn prynu yr Owain Glyndŵr yn siawns da iawn i'r gymuned newid pethau i gael dyfodol disglair."
'Digonedd o hanes'
Mae'r gwesty yn un o wyth tafarn oedd yn cael eu defnyddio gan deithwyr y Goets Fawr rhwng Llundain ac Iwerddon ganrifoedd yn ôl.
Mae wedi cael ei redeg am y chwarter canrif diwethaf gan ŵr busnes lleol, Ifor Siôn.
Mae cyfres o ddigwyddiadau wedi eu trefnu yn y gwesty yr wythnos hon i ddenu pobl i mewn ac i'w hannog i brynu cyfranddaliadau.
"Mae 'na ddigonedd o hanes. Mae darn cefn y building yn eithaf medieval."Mae 'na hanes bod un o'r eisteddfodau cyntaf wedi bod yma yn 1789."So mae 'na ddiigonedd o hanes a dyna pam dwi'n meddwl bod o'n bwysig i'r genedl fod rhywbeth fel hyn yn digwydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2019