Eric Ramsay a Nick Davies yn ymuno â thîm rheoli Cymru

  • Cyhoeddwyd
Eric RamsayFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cymro Eric Ramsay yn cael ei ystyried yn un o hyfforddwyr ifanc gorau'r gamp ar hyn o bryd

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Rob Page wedi cyhoeddi dau aelod newydd i'w dîm rheoli wrth baratoi ar gyfer dechrau ymgyrch ragbrofol pencampwriaeth Euro 2024.

Bydd Eric Ramsay yn ymuno fel is-reolwr ac yn cyfuno'r swydd gyda'i waith fel hyfforddwr yn Manchester United dan Erik ten Hag.

Bydd Nick Davies, sy'n gweithio yn West Ham gyda David Moyes, hefyd yn ymuno â'r tîm rheoli fel pennaeth perfformiad.

Mae Ramsay yn olynu Kit Symons a adawodd ei rôl ar ddechrau'r flwyddyn.

'Gymaint o gyffro'

Mae gan Ramsay drwydded UEFA Pro a phrofiad fel hyfforddwr gyda chlybiau Abertawe, Shrewsbury Town a Chelsea cyn symud i Old Trafford.

Dywedodd "fel rhywun a dyfodd i fyny yn Llanfyllin" bod hi'n "adeg gwych" i fod yn ymuno â thîm hyfforddi Cymru.

"Mae gymaint o gyffro o gwmpas y tîm cenedlaethol a'i lwyddiant diweddar," meddai

"Â'r garfan wedi mynd trwy ychydig o newid, mae'n teimlo fel dechreuad o'r newydd."

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Penderfyniad hawdd oedd ymuno â thîm rheoli Cymru, medd Nick Davies

Mae Nick Davies wedi gweithio i nifer o glybiau yn Uwchgynghrair Lloegr, gan gynnwys Charlton Athletic, Birmingham, Norwich a West Bromwich Albion.

Cafodd Davies ei eni ym Mhort Talbot, ac roedd ei dad yn arfer rheoli clwb y dref.

"Doedd dim angen llawer o berswâd i mi gymryd y swydd," dywedodd. "Byse'n dda gen i tasa'r camp yn dechrau 'fory.

"Dwi methu aros i gwrdd â'r chwaraewyr, dod â fy arbenigedd i'r bwrdd a bod yn rhan ohono."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Wales 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Wales 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Gan groesawu'r penodiadau, dywedodd Rob Page bod Davies "â phrofiad helaeth" a bod Ramsay "gellir ddadlau, yn un o'r hyfforddwyr ifanc gorau yn y byd pêl-droed ar hyn o bryd".

"Mae'r newidiadau yma'n rhoi cyfle i ni adeiladu ar ein llwyddiant, trwy gyflwyno chwaraewyr newydd i'r garfan ar yr adegau cywir.

"Gobeithio yn y 12 mis nesa' bydd gyda ni'r don nesaf o chwaraewyr i gynrychioli Cymru ar y lefel uchaf."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Manchester United

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Manchester United

Bydd y tîm nawr yn parhau i baratoi ar gyfer dechrau'r ymgyrch i sicrhau lle ym mhencampwriaeth Euro 2024.

Mae gêm cyntaf Cymru yn erbyn Croatia yn Split nos Sadwrn 25 Mawrth, a'r ail yn erbyn Latfia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Fawrth 28 Mawrth.