Joe Allen: 'Roedd e jest mor, mor glyfar'
- Cyhoeddwyd
"Cwrtais, aeddfed, penderfynol, un a ffocws, ymroddedig, yn fodel rôl ardderchog o ran y ffordd mae'n chwarae'r gêm, ond hefyd y ffordd mae'n ymddwyn oddi ar y cae."
'Y Xavi Cymraeg', 'Pirlo Sir Benfro', 'Iesu Grist'…
Dyna ambell deitl a roddir i Joe Allen, sydd wedi rhoi gorau i'r gêm ryngwladol yn 32 oed, dros y blynyddoedd.
Ond fel 'Joe o Arberth' fyddai ei gyn-athro yn Ysgol y Preseli, Mike Davies, yn adnabod y canolwr ifanc wnaeth fynd o gicio pêl ar gaeau Penfro i fod yn rhan o genhedlaeth aur Cymru.
Mi fyddai well gan y pêl-droediwr ei enw cyffredin, siŵr o fod, ag yntau'n gymeriad mor ddiymhongar.
Er hynny roedd cael ei enwi yn Nhîm y Twrnament ar ddiwedd pencampwriaeth Ewro 2016, gan lenwi esgidiau Xavi a Pirlo yn nhîm gorau Ewro 2012, yn dystiolaeth ei fod yn agosach atyn nhw na fyddai fyth yn cyfaddef.
'Ma raid chi ddod i weld y crwt ma'
Mae Mike Davies yn cofio'r argraff adawodd Joe arno pan welodd o am y tro cyntaf yn Ysgol y Preseli.
"Roeddwn yn cerdded o gwmpas yr ysgol amser cinio a dyma aelod o'r chweched dosbarth yn dod ata'i a dweud 'ma raid chi ddod i weld y crwt ma, ma fe'n gwneud pethau rhyfedd - yn driblo rownd pobl ac yn gwneud sgiliau, fflics a trics a phethe," meddai Mike.
"Dyma fi'n gweld y crwtsyn bach ma a medde fi 'pwy wyt ti de?' a medde fe, 'Joe, Joe Allen'".
Mae'n cofio syfrdanu wrth wylio'r pêl-droediwr ifanc yn dangos ei ddoniau mewn twrnament rhyngwladol yn Llydaw ym mlwyddyn 7.
"Roedd e newydd arwyddo cytundeb gydag Abertawe. Roedd e yn sefyll mas yn yr oedran 'na a gyda shwt gymaint o gystadleuaeth," meddai Mike.
"Wnaeth e sgorio gôl anhygoel yn erbyn Lokomotiv Sofia - casglu'r bêl hanner ffordd, driblo rownd cwpwl o bobl ac wedyn o leiaf o ugain llath yn bwrw'r bêl i dop uchaf y rhwyd.
"Mi faeddon ni Lokomotiv Sofia - roedd hwnna yn gamp enfawr i ysgol fach Preseli i ennill yn erbyn tîm proffesiynol o Fwlgaria!
"Roedd hwnna yn golygu bod scowtiau o dros Ewrop gyfan eisiau gwybod am y crwtsyn ifanc 'ma oedd yn gwisgo'r rhif 7 gyda ni bryd hynny."
'Bydde fe byth yn colli diwrnod'
Roedd Allen yn arweinydd arbennig ac yn drefnydd gwych o oedran cynnar yn ôl Mike ac roedd ei gymeriad oddi ar y cae'r un mor gadarn a chyson a'i berfformiadau.
"Wrth iddo fe fynd yn hynach roedd e'n treulio mwy o amser lawr yn Abertawe," meddai Mike. "Yn teithio ddwywaith yr wythnos lawr i ymarfer. Wrth gwrs roedden nhw yn chwarae mewn llefydd fel Plymouth, Swindon, Tornton - pellteroedd o Arberth!
"Ond bob dydd Llun mi fydde fo bob tro yn yr ysgol. Bydde fe byth yn colli diwrnod."
Arwyddodd Joe Allen ei gytundeb proffesiynol gydag Abertawe yn 16 oed yn 2007.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach fe ddaeth ymlaen fel eilydd yn erbyn Estonia - ei gap cyntaf o 74 - o flaen torf o 4,000 yn Llanelli oedd yn cynnwys ei gyn gyd-ddisgyblion o'r Preseli.
"Roedd y wefr o weld crwt ifanc lleol yn mynd i dîm proffesiynol, yn cyrraedd y nod, yn rhywbeth arbennig nid yn unig i fi, ond i fois yr adran addysg gorfforol, i'r ysgol ac i'r ardal."
'Roedd e jest mor, mor glyfar'
Ar ôl ennill ei gap cyntaf o dan John Toshack aeth Joe Allen ymlaen i fod yn ffigwr canolog o dan Gary Speed cyn iddo fynd ati i serennu o dan Chris Coleman.
Er nad oedd yn cael lle cyson yn nhîm Lerpwl mi fyddai ei berfformiadau ar lefel rhyngwladol yn ei leoli ymhlith y goreuon o Gymru erioed.
"Roedd e'n gweld pethau dyw pobl eraill ddim yn gweld," meddai Mike. "Roedd e'n synhwyro perygl cyn iddo ddigwydd.
"Oni wastad yn meddwl - ti'n cael chwaraewyr canol cae sydd yn taclo yn galed ac ati ond beth oedd e'n gwneud yn dda oedd sgrinio a sganio - yn sgrinio'r amddiffyn fel bod y passes na o'r ymosod ddim yn mynd trwyddo ac odd e'n sganio lle oedd y pas nesa yn mynd i fynd.
"Fe fydde'r cyntaf i ddweud bod e ddim y chwaraewr cyflymaf ar y cae. Ond beth oedd e'n gwneud oedd meddwl yn chwim a synhwyro a gweld y cyfle a gweld y bas nesaf cyn iddo gyrraedd.
"Roedd e jest mor, mor, mor glyfar. Mae e i gyd yn dod o fod a chyffyrddiad cyntaf gwych a'i allu i reoli'r bêl sdim ots ar ba fath o wyneb.
"Roedd e jest yn gallu gwneud e mor, mor naturiol."
'Cwrtais, aeddfed, penderfynol'
I lawer roedd ei berfformiadau a'i ffordd o chwarae i Gymru yn adlewyrchiad o gymeriad Joe o Arberth. Y person diymhongar, di ffỳs oedd yn gludo pawb at ei gilydd drwy wneud y gwaith caled heb boeni am benawdau.
Meddai Mike: "Pan wyt ti'n dod i ddisgrifio Joe Allen fi wastad wedi disgrifio fe fel person academaidd iawn, ar ac oddi ar y cae.
"Mae'n grwt cwrtais, aeddfed, penderfynol, un a ffocws, ymroddedig, yn fodel rôl ardderchog o ran y ffordd mae'n chwarae'r gêm, ond hefyd y ffordd mae'n ymddwyn oddi ar y cae.
"Yn ei gariad at ei wlad, ei gariad at yr iaith, ei barodrwydd i wneud cyfweliadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, ei agwedd bositif - gwên ar ei wyneb."
Roedd ei berfformiad anhygoel yn erbyn Rwsia yn Ewro 2016 yn nodweddiadol ac mae'r bas i gôl Ramsey yn un sydd yn dal yn fyw yng nghof y Wal Goch.
Meddai Mike: "Cael ei enwi yn nhîm y gystadleuaeth - mae hwnna'n anhygoel pan ti'n meddwl amdano fe. Ond hefyd rhaid cofio'r gemau lle oedd angen iddo roi ei gorff ar y lein. Rhoi bloc mewn, rhyng-gipio pas, cael tacl gadarn mewn - mae shwt gymaint allet ti edrych arno fe.
"Pen arall y cae gyda Ramsey a Bale yn creu'r goliau mae'n rhaid ti wneud yn siŵr bo' ti ddim yn ildio chwaith. Fe mwy na lai oedd yn amddiffyn yr amddiffyn."
'Arwr'
Yn "arwr" i Gareth Bale, yn "ffefryn" gan Ashley Williams ac yn "bopeth a mwy byddet ti eisiau gan bartner canol cae" i Aaron Ramsey, mae sylwadau canmoliaethus cyn chwaraewyr yn crynhoi'r parch oedd gan bawb at Joe Allen a'i gyfraniad enfawr i'r tîm cenedlaethol.
"Mae wedi cyfrannu at rywbeth arbennig iawn, iawn," meddai Mike.
Bydd y "crwt bach" o Arberth, wnaeth ddychwelyd i'w grud yng nghlwb pêl-droed Abertawe yn 2022, yn gadael gwagle enfawr ar ei ôl yn nhîm Cymru sydd ar droad pennod newydd o dan Rob Page.
Meddai Mike: "Dwi'n gweld e'n benderfyniad doeth iawn ganddo fe.
"Falle bydde ni gyd wedi gobeithio gweld e yn chwarae mewn un ymgyrch arall...
"Ond chware teg iddo fe, fel mae e'n dweud... mae'n gyfle nawr i'r chwaraewyr ifanc i osod eu marc nawr fel bod cenhedlaeth newydd yn cael ei ddatblygu.
"Byddwn yn sicr yn hala neges iddo fe yn diolch am bopeth mae e wedi gwneud dros bêl-droed yng Nghymru ac am fod yn llysgennad gwych i Ysgol y Preseli, Sir Benfro ac i Gymru hefyd."
Hefyd o ddiddordeb: