Ceredigion: Cylch meithrin 'yn batrwm i eraill'

  • Cyhoeddwyd
Cylch Meithrin Bont

Gallai arferion da Cylch Meithrin Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion fod yn batrwm i eraill wedi i'r staff dderbyn canmoliaeth uchel wedi arolwg Estyn diweddar.  

Ar hyn o bryd mae astudiaeth yn cael ei wneud o'u harferion gorau.

Mae'r cylch wedi ei ddewis yn arbennig am y defnydd o ardal awyr agored i wella sgiliau plant - sy'n rhan bwysig o'r cwricwlwm newydd. 

Y gobaith yw efelychu'r hyn sy'n digwydd ym Mhontrhydfendigaid mewn cylchoedd meithrin ledled Cymru.  

Disgrifiad o’r llun,

Y staff a'r plant sy'n mynd i Gylch Meithrin Pontrhydfendigaid

Mae Gwen Davies wedi bod yn arweinydd y Cylch Meithrin ers dwy flynedd.

"Yr ardal allanol o nhw'n canmol fwyaf gyda ni fan hyn," meddai.

"O'dd gyda ni grotto Siôn Corn yn y sied bren draw fan yna gyda cherddoriaeth. O'n nhw'n torri llysiau lan a cyfri gyda Numicon ar yr un pryd.  

"O'n nhw'n canmol hefyd y gwaith papur a'r gwaith tîm. Ma' pawb yn dod ymlaen gyda'i gilydd. O'n nhw'n hoff iawn bod y plant yn annibynnol rhan fwyaf o'r amser." 

Fe lwyddodd y Cylch Meithrin i ddatblygu'r ardal allanol ar ôl cael caniatâd y neuadd i ymestyn maint yr ardal. Cafwyd hefyd grant gwerth £8,000.

"Mae cylch meithrin Bont wedi bod yn gylch eithaf llwm cyn bod ni'n cael y grantiau... ond ar hyn o bryd drwy gael yr holl grantiau gyda grant Covid pan fuon ni ar gau ry'n ni mewn sefyllfa dda iawn. 

"Mae'n gallu bod yn anodd i wybod pa arian sydd ar gael allan yna a byddai adnodd i alluogi gwahanol gylchoedd i rannu syniadau a gwybodaeth yn beth da," ychwanegodd Ms Davies. 

Nododd Estyn bod y cylch wedi llwyddo i ddatblygu'r ardal tu allan i hyrwyddo chwilfrydedd y plant a darparu cyfleoedd "hynod gyfoethog" iddynt.  

Ychwanegodd yr adroddiad eu bod yn "gwneud defnydd effeithiol a phwrpasol iawn o'r ystod eang o adnoddau yn yr ardal allanol, megis beiciau, adeiladu, ardaloedd plannu a dŵr a'r gegin fwd i ysgogi chwarae, dysgu a medrau'r holl blant".

Disgrifiad o’r llun,

Gwern, Steffan a Tomos - bois y gegin fwd!

Mae Cylchoedd Meithrin yn cael eu hystyried yn hanfodol wrth gyflwyno rhieni i addysg Gymraeg. 

Mae tua 90% o blant sy'n mynychu cylchoedd yn symud ymlaen i addysg gynradd cyfrwng Cymraeg.

'Hapus iawn yn y cylch'

Mae gan Delyth Jones fachgen bach 3 oed sy'n mynychu'r cylch.

"Ma' fe mor hapus yma - mae'n dod gatre' gyda llwyth o storïau am beth mae e wedi bod yn neud," meddai.

"Ma fe'n dweud bod ffrindiau da ofnadwy gydag e sydd yn neis achos byddan nhw'n symud lan i'r ysgol gyda'i gilydd. Ie ma fe bob tro yn hapus ac yn barod i ddod i'r cylch." 

Ychwanegodd rhiant arall Carys Hughes: "Ma' fe'n amazing ond dyw e - sai 'di bod allan 'ma ers sbel a ma' fe'n edrych yn anhygoel.  

"Yn enwedig ar ôl Covid a phethe... ma'r ystafell yn gallu bod braidd yn fach i fod ynddi drwy'r dydd.

"Ma'n lyfli bod nhw'n gallu dod mas fan hyn a gwneud unrhyw beth. Ma' rhwbeth yma i bawb."  

Pynciau cysylltiedig