Y Gynghrair Genedlaethol: Maidenhead 2-2 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Paul MullinFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Er sgorio ddwywaith roedd yn rhaid i Paul Mullin fodloni ar bwynt

Rhaid i Wrecsam fodloni ar bwynt yn dilyn gôl funud olaf ar noson rwystredig i gefnogwyr y Dreigiau.

Roedd yn gychwyn perffaith i dîm Phil Parkinson wedi i Paul Mullin agor y sgorio wedi 28 munud.

Brwydrodd Maidenhead yn ôl i unioni'r sgôr wedi 58 munud gydag ergyd Reece Smith o 25 llath yn darganfod gefn y rhwyd.

Aeth Wrecsam yn ôl ar y blaen diolch i beniad arall gan Mullin brin ddau funud wedyn.

Ond manteisiodd yr eilydd, Shawn McCoulsky, ar gamgymeriad gan Mark Howard wrth i'r chwiban olaf agosau wrth sicrhau pwynt haeddiannol i'w dîm

Mae'r Dreigiau yn parhau ar frig y tabl o un pwynt ac wedi chwarae un gêm yn llai na Notts County yn yr ail safle, ond teimlad o rwystredigaeth fydd gan gefnogwyr y Dreigiau heno.