Cynllun i greu perllan gymunedol yng Nghwm Penmachno

  • Cyhoeddwyd
Wil Bigwood
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r berllan i'r gymuned, ac mi fyddan nhw'n defnyddio'r ffrwythau i wneud beth bynnag fyddan nhw ffansi ei wneud," medd Wil Bigwood

Mae gwaith yn dechrau ar blannu perllan gymunedol ar Fferm y Foel yng Nghwm Penmachno sy'n berchen i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Y nod yw y bydd y berllan yn lle i bobl leol gael mynd i gerdded ac ymlacio, a bydd unigolion lleol yn gofalu amdani.

Mae Cwm Penmachno yn hen bentref chwarelyddol, llai na 10 milltir o Fetws-y-coed.

Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol eisoes wedi bod yn plannu metrau o wrychoedd ar y fferm, a pherllan yw'r cynllun nesaf sydd ar y gweill.

Ardal i 'ymlacio a mwynhau'

Mae tir wedi cael ei glustnodi ar gyfer y prosiect ac mae llwybrau wedi'u creu.

Y gobaith ydy plannu 35 o goed yno, er budd cymuned a natur yr ardal, gan gynnwys coed afalau Enlli, Cox Cymreig, damsyns ac eirin Abergwyngregyn yn ogystal â choed eirin Dinbych.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith o greu llwybrau eisoes wedi'i gwblhau ar y safle

Dywedodd rheolwr Fferm y Foel, Wil Bigwood: "Mi fydd hwn yn rhywle i bobl gael dod i ymlacio a mwynhau yr awyr agored, a hefyd i gyfrannu mewn datblygu'r berllan 'ma a'i chynnal a'i chadw hi hefyd.

"Mae'r berllan i'r gymuned, ac mi fyddan nhw'n defnyddio'r ffrwythau i wneud beth bynnag fyddan nhw ffansi ei wneud - seidr, jam, jeli - beth bynnag ma' nhw isio. Bydd lot yn mwynhau hynny."

Bydd gwaith yn mynd ymlaen yng Nghwm Penmachno ddydd Mawrth, ac mae croeso i bobl fynd yno i ddysgu am blannu a garddio.