Cymuned yn ceisio achub becws hanesyddol ym Mhen Llŷn

  • Cyhoeddwyd
Gweithiwr ym Mhecws GlanrhydFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Becws Glanrhyd wedi bodoli ers bron i 100 mlynedd

Mae menter gymunedol ym Mhen Llŷn yn gobeithio achub siop fara sydd wedi bod yn y pentref ers bron i 100 mlynedd.

Gobaith Antur Aelhaearn yw prynu Becws Glanrhyd ym mhentref Llanaelhaearn, sydd ar hyn o bryd yn cyflogi chwech o bobl.

Dywedodd Llyr ap Rhisiart, cadeirydd Antur Aelhaearn, bod y newyddion y gallai'r siop fara gau ddiwedd mis Mawrth yn "bryderus a thrist".

"Pan mae rhywun yn meddwl am bentref Llanaelhaearn mae nifer fawr yn meddwl am Becws Glanrhyd a'i gynnyrch enwog," dywedodd.

"Yn wir mae'r becws yn rhan o wneuthuriad a chymeriad y pentref.

"Mae'n bwysig gwneud pob ymdrech i gadw gweithwyr mewn swyddi a'r becws yn agored. Mae'n adnodd pwysig i'r gymuned ac yn rhan o bwy ydym ni."

Gobaith yr antur, ar ôl prynu'r becws, fyddai i ddefnyddio ynni solar i leihau costau, a "datblygu gofod ar gyfer hyfforddi ac arddangos y defnydd o'r dechnoleg solar", yn ogystal â chynnal cyrsiau pobi.

'Byddin o wirfoddolwyr'

Antur Aelhaearn oedd y fenter gymunedol gyntaf ym Mhrydain, ac fe gafodd ei sefydlu ym 1974 gan y diweddar Dr Carl Clowes mewn ymateb i ddiboblogi'r gymuned leol.

Mae'r fenter yn rhan o nifer o brosiectau cymunedol eraill, gan gynnwys siop newydd a fydd yn agor ar safle hen feddygfa'r pentref, coedlan gymunedol, a gweithdy cymunedol sy'n cynnal digwyddiadau ac yn cefnogi busnesau lleol.

Mae gan yr antur hefyd gynlluniau i ddatblygu'r capel lleol yn gampfa gymunedol, a dywedodd Mr ap Rhisiart na fyddai hyn oll yn bosib heb eu "byddin o wirfoddolwyr".

Ffynhonnell y llun, Llyr ap Rhisiart
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr ap Rhisiart bod gwirfoddolwyr y fenter yn hanfodol i'w lwyddiant

Ond er ymdrechion diflino'r fenter maen nhw'n dal i weld effeithiau diboblogi ar yr ardal.

"Dros y blynyddoedd, ac yn arbennig yn yr 20 mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi colli cryn dipyn o gyfleusterau - y siop, post, tafarn, caffi ac ysgol," meddai.

"Mae'n frwydr barhaus i nofio yn erbyn y llif o ddiboblogi a chrebachu economaidd, ond mae'n frwydr sydd werth ei brwydro ac yn hanfodol os yw cymunedau Cymraeg i oroesi."

'Rhan annatod o fywyd cymunedol'

Er mwyn gallu prynu'r siop fara mae'r antur wedi gwneud cais am grant.

Yn dilyn ymweliad i'r becws dywedodd Liz Saville Roberts AS a Mabon ap Gwynfor AS: "Mae'n bleser gennym gefnogi Antur Aelhaearn gyda'u cais am arian i brynu Becws Glanrhyd, Llanaelhaearn.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Liz Saville Roberts AS a Mabon ap Gwynfor AS [chwith] yn ymweld â Becws Glanrhyd

"Mae Becws Glanrhyd wedi bod yn cynhyrchu eu bara enwog ers bron i ganrif ac mae'r busnes yn rhan annatod o fywyd cymunedol y pentref, gan gynnal chwe swydd leol.

"Dymunwn y gorau i Antur Aelhaearn yn eu hymdrechion i brynu'r becws wrth iddynt ymdrechu i sicrhau dyfodol hir dymor i'r busnes, fel y gall pobl Gwynedd a thu hwnt barhau i fwynhau'r bara lleol blasus hwn am flynyddoedd i ddod."

Pynciau cysylltiedig