Costau byw: Mwy yn defnyddio gwasanaeth Bwndeli Babi

  • Cyhoeddwyd
bwndel
Disgrifiad o’r llun,

Mae elusen Plant Dewi wedi bod yn darparu bwndeli babi ers 2016

Mae mudiad sy'n darparu Bwndeli Babi - pecynnau o nwyddau babi hanfodol - i rieni newydd yn y gorllewin yn rhybuddio'i bod hi'n anodd ymateb i'r galw cynyddol am eu gwasanaeth.

Mae elusen Plant Dewi wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod nhw bellach yn helpu tua wyth teulu yr wythnos, o'i gymharu â rhai blynyddoedd yn ôl, pan oedden nhw'n delio ag wyth teulu y mis.

Yr argyfwng costau byw yw'r prif reswm am y cynnydd yn ôl y mudiad, gyda mwy o rieni mewn gwaith yn derbyn y nwyddau.

Mae'n amser chwarae ym mhentref Cwmgors, mewn sesiwn i blant a rhieni newydd wneud ffrindiau a chefnogi ei gilydd.

Yr esgid yn gwasgu

Mae Elis a'i fam, Tara Steinmann, o Frynaman, yn mwynhau dod i'r sesiynau yn wythnosol. Mae'n gyfle hefyd i gael nwyddau hanfodol i Elis, pan fo'r esgid yn gwasgu.

"Fi mor hapus yn dod yma bob wythnos. Mae'n help fowr i fi a theuluoedd eraill i gael nappies. Mae pris nhw wedi mynd lan," meddai.

"Er bod fi a fy mhartner yn gweithio, fi'n gweithio'n rhan amser nawr o achos gofal plant ond mae'n syndod cymaint o help mae wedi bod, er ein bod ni'n gweithio.

"Ma' hyd yn oed cael pethau fel cewynnau o dro i dro ac ychydig o ddillad i Elis, mae wedi helpu lot. Mae [pris] pob dim wedi mynd lan. Bob tro fi'n mynd i siopa, mae pob dim yn costio mwy ac ry'ch chi'n meddwl, 'ma dal rhaid cael yr un pethau i'ch plant bob wythnos'."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cynllun tebyg - Baby Boxes - wedi profi'n boblogaidd yn Yr Alban hefyd

Yn ôl Mari Thomas o Undeb y Mamau, sy'n darparu rhoddion i'r bwndeli, mae'r nifer o rieni mewn gwaith sy'n derbyn y bwndeli wedi cynyddu.

"Dyna 'be sy'n od, byddech chi wastad wedi meddwl 'pobl s'dim gwaith 'da nhw', [ond] na, mae'r rhein yn bobl sy'n gweithio," meddai.

"Dy'n nhw ddim yn cael digon oherwydd bod rhent eu tŷ nhw wedi mynd lan, mae nwyddau wedi mynd lan, mae bwyd wedi mynd lan. Mae'n erchyll pan chi'n meddwl amdano fe."

Yn elusen sy'n darparu i deuluoedd ledled y gorllewin, yn un o'i chanolfannau yn Cross Hands, mae Plant Dewi yn brysur.

Mae ceisio ymateb i'r galw aruthrol am fwndeli o nwyddau i fabis yn profi'n heriol.

"Llynedd rhoion ni mas dros 200 o fwndeli i gyd. Eleni, ym mis Ionawr a mis Chwefror, ni wedi rhoi 58 yn barod felly mae'r angen ar gyfer y prosiect yn cynyddu'n sylweddol ar hyn o bryd," meddai Catrin Eldred, rheolwraig yr elusen.

"Ni yn gwybod hefyd, 'ma fe'n mynd i fod yn fwy heriol wrth i'r amser fynd ymlaen, wrth i'r costau byw gadw i gynyddu. Ni'n gwybod bod mwy o deuluoedd yn mynd i fod yn dod atom ni.

"Mae'n mynd i fod yn ofid i ni achos ma' fe'n tynnu pobol [staff yr elusen] oddi wrth y gwaith eraill maen nhw'n gwneud, i wneud yn siŵr bod ni'n gallu cadw lan gyda'r ddarpariaeth yma."

Er gwaetha'r pwysau, mae Plant Dewi yn pwysleisio bod nhw'n dal i fod ar gael i helpu unrhyw un sydd mewn angen.

Ymdrech gymunedol

Mae'n ymdrech gymunedol i sicrhau bod rhoddion ar gael, yn ôl Mari Thomas o Undeb y Mamau.

"Fi'n cofio un diwrnod, rhyw fis cyn y Nadolig, 'wedodd [Plant Dewi], 'ma'r tywydd yn dechrau oeri, ydy hi'n bosib cael siwmperi?' Roedd hwnna ar ddydd Llun. Erbyn dydd Sadwrn roedd 15 siwmper wedi dod mewn.

"Ry'n ni'n ymateb mor gynted ag y gallwn ni."