Laura Ashley: Carno yn 'trend setter' y byd ffasiwn
- Cyhoeddwyd
Mae 70 mlynedd wedi bod ers i'r dylunydd o Ferthyr Tudful, Laura Ashley, sefydlu ei chwmni ffasiwn.
Wrth i'r cwmni dyfu, fe symudodd y teulu i ganolbarth Cymru ar ddechrau'r 1960au, gan agor ffatri ym mhentref Carno.
Ar un adeg, roedd y cwmni'n cyflogi 13,000 o staff mewn 500 o siopau ar draws y byd.
Aeth y busnes i ddwylo'r gweinyddwyr ym Mawrth 2020 gyda'r safle olaf yn Y Drenewydd yn cau yn fuan wedyn.
Cyfarwyddwr y cwmni nôl ar ddechrau'r 1980au oedd Meirion Rowlands. Yn y rhaglen Hen Lwybrau Hyd yn 1981, mae'n disgrifio sut gwnaeth Bernard Ashley, tad Laura, gynnig gwaith iddo.
Dywedodd Meirion: "Ar un pnawn dydd Mercher o'n i'n sefyll y tu allan yr hen glwb yng Ngharno, y Tŷ Brith. Fe brynodd Bernard Ashley hwnnw, daeth allan i du blaen y clwb a gofyn i mi os o'n i eisiau gwaith."
Yn y clip fideo archif, cawn ychydig o hanes Meirion, a chlywed pa mor ddylanwadol oedd y cwmni yn ardal Carno i sicrhau fod lefel diweithdra'n eithriadol o isel yn y cylch.
Hefyd cawn wybod pam fod Carno yn cael ei ystyried yn "trend setter" y byd ffasiwn.