Bachgen, 13, yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan gerbyd graeanu
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 13 oed yn yr ysbyty ar ôl cael ei daro gan gerbyd graeanu.
Dywed yr heddlu fod y bachgen - a oedd yn cerdded ar y pryd - mewn cyflwr sydd yn peryglu ei fywyd.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i ddigwyddiad ar Ffordd Ddosbarthu Parc Lansbury, Caerffili am tua 08:20 fore Iau.
Roedd parafeddygon o'r gwasanaeth ambiwlans a chriw ambiwlans awyr hefyd wedi mynd yno.
Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd mewn ambiwlans.
Dyn wedi'i arestio
Yn dilyn y digwyddiad cafodd gyrrwr y cerbyd graeanu, dyn 36 oed, ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru yn ddiofal.
Dywedodd yr heddlu ddydd Gwener ei fod bellach wedi ei ryddhau, ond bod yr ymchwiliad yn parhau.
Maen nhw hefyd wedi apelio eto am ragor o wybodaeth, ac wedi gofyn i unrhyw un allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw yrwyr gyda lluniau dashcam, i gysylltu gyda nhw.
Wrth siarad ddydd Gwener dywedodd y cynghorydd lleol, Elaine Forehead: "Mae'n ymddangos fel damwain drasig, ac mae fy meddyliau gyda'r bachgen ifanc a'i deulu.
"Mae gen i bryderon am ddiogelwch y ffordd hon ers i mi ddod yn gynghorydd, ac fe dreuliais i lawer o ddoe yn siarad gyda'r adran briffyrdd i weld pa gamau ellir eu cymryd i sicrhau fod rhywbeth fel hyn byth yn digwydd eto."