Dyn yn cyfaddef gyrru neges sarhaus at bêl-droediwr Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed am y loes a achoswyd i gyn-chwaraewr CPD Abertawe wedi i ddyn anfon neges hiliol tuag ato ar-lein.
Cafodd y neges sarhaus ei hanfon gan Josh Phillips, 26, wedi i'r clwb gyhoeddi y byddai'r blaenwr Michael Obafemi yn symud ar fenthyg i Burnley ddiwedd Ionawr.
Mae Phillips, o Gwmbwrla yn Abertawe, wedi pledio'n euog i drosedd o anfon neges ar rwydwaith cyfathrebu cyhoeddus oedd yn hynod sarhaus, anweddus, neu fygythiol.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ddiwedd y mis.
Mewn datganiad a ddarllenwyd yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Gwener, dywedodd Michael Obafemi: "Mae'r cam-drin hiliol a gefais yn gwbl annerbyniol.
"Does dim ots beth rydw i'n ei wneud fel swydd, rydw i'n fod dynol a dydw i ddim yn haeddu'r math yma o ymddygiad."
Ychwanegodd fod y digwyddiad wedi achosi straen iddo ef a'i deulu.
'Moment gwirion' tra'n feddw
Clywodd y llys fod Phillips allan gyda ffrindiau ac wedi meddwi pan anfonodd y neges ar 28 Ionawr ar ôl clywed am drosglwyddiad Mr Obafemi.
Yn ddiweddarach fe wnaeth Phillips ddileu'r trydariad, a deuddydd yn ddiweddarach clywodd y llys gofnodion ffôn yn dangos ei fod wedi edrych ar sut i ddileu ei gyfrif.
Pan gafodd Phillips ei holi gan yr heddlu, dywedodd ei fod wedi gwneud y sylw mewn moment gwirion ar ôl bod yn yfed, a'i ddileu yn fuan wedyn, gan ddweud ei fod wedi'i siomi yn ei hun.
Cafodd Phillips fechnïaeth a chafodd y ddedfryd ei gohirio tan 31 Mawrth.
Dywedodd y Barnwr Christopher James wrth Phillips: "Mae'n amlwg eich bod wedi pledio'n euog i drosedd ddifrifol iawn."
Ychwanegodd ei fod yn gohirio'r ddedfryd er mwyn rhoi amser i'r llys baratoi adroddiad cyn dedfrydu, ac "na ddylid ei gymryd fel arwydd o unrhyw ddedfryd a fydd yn cael ei gosod".
"Mae pob opsiwn ar y bwrdd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2023