Beti a'i Phobol: Dod i adnabod Pat Datblygu

  • Cyhoeddwyd
David a Pat yn perfformioFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Pan ddechreuodd Datblygu yn y 1980au roedd y cyfryngau Cymraeg yn gyndyn i roi sylw iddyn nhw; erbyn hyn mae cyfraniad y band i ysgwyd y sîn gerddorol yn cael ei werthfawrogi

Patricia Morgan o'r band arbrofol dylanwadol Datblygu yw un o faswyr benywaidd cyntaf y sîn roc Gymraeg. Roedd hi a'r diweddar David R Edwards yn gyd-gyfansoddwyr, yn gariadon ac yna'n ffrindiau agos hyd at farwolaeth David yn 2021.

Dyma 10 peth ddysgon ni o sgwrs Pat gyda Beti George ar Radio Cymru - o'i pherthynas arbennig gyda Dave, ei gwaith fel fferyllydd a'i chariad cynnar at pync.

Roedd Pat yn casáu gwersi cerddoriaeth yn yr ysgol

Roedd Pat wrth ei bodd yn chwarae'r piano ac wedi ei magu mewn teulu cerddorol ond roedd gwersi cerddoriaeth yn fater gwahanol.

"O'n i'n casáu cerddoriaeth yn yr ysgol. O'ni ddim ishe gwybod, oedd yr athro falle ... ddim yn gallu uniaethu gyda'r plant. Oedd e'n neud i fi deimlo 'O, fi byth eisiau gwneud cerddoriaeth, rwy'n mwynhau chwarae'r piano ond sa'i mo'yn neud e fel hyn'.

"Os y'ch chi'n teimlo'r cerddoriaeth, hwnna oedd yn bwysig i fi nid dadansoddi popeth amdano fe... Nes i dropo fe cyn gynted â phosib."

Roedd ei thad yn chwarae'r gitâr ond roedd yn gyfnod trist

"Oedd e'n dysgu pobl yn y clwb ieuenctid i chwarae'r gitâr a canu caneuon pop a pethe... a cwmpodd mewn cariad ag un ohonyn nhw. Wedyn oedd rhaid iddo fe fynd, oedd e ddim eisiau bod gyda ni...

Ffynhonnell y llun, llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Pat yn ferch fach

"[Hang Down Your Head Tom Dooley] oedd y gân diwethaf wy'n cofio tad fi yn canu i fi yn bersonol. Oni'n eistedd o'i flaen e ac oedd e'n canu'r gân 'ma i fi... oedd e'n canu'r gân i fi ambwyti lladd y ferch yma, oedd e'n drist... roedd fy nhad yn drist...

"Mae hwn wedi cael argraff arno fi - bod caneuon trist yn aros gyda chi."

Roedd rhaid iddi ailddysgu Cymraeg

Doedd ail ŵr ei mam ddim yn siarad Cymraeg felly roedd y cartref yn Rhydaman yn "llawn Saesneg"; dim ond gyda'i mam-gu roedd hi'n siarad Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Pat gyda'i chwaer a'u mam. Treuliodd ei dyddiau cyntaf yn byw yn y ficerdy yn Llandybie lle roedd ei thad-cu yn ficer

"Oedd rhaid i fi fynd nôl fel dysgwr yn yr ysgol ramadeg... a [nes i] dropo hwnna hefyd a cymryd Ffrangeg.

"O'n i jyst yn meddwl, i ddod ymlaen mewn bywyd, ok mae Cymraeg yn bwysig i siarad yn y tŷ, ond achos o'n i ddim yn dda iawn am wneud e o'n i'n meddwl, wel mae rhaid i fi canolbwyntio ar be fi'n gallu neud. Yn y diwedd o'dd Cymraeg fi mor wael oedd Mam-gu yn dweud: 'Chi'n swno fel foreigner!'

"Oedd rhaid i fi neud rhywbeth amdano fe achos o'n i'n teimlo'n euog... ''sai fod i adael fynd o hwn, 'sai eisiau gadael fynd'. Oedd raid i fi wneud ymdrech wedyn i ddod nôl 'da'r Gymraeg, i'w ailddysgu mewn ffordd."

Roedd hi'n arfer bod yn aelod o ddau fand gwahanol iawn - y band merched traddodiadol Y Cymylau ac yna band pync o'r enw Slugbait

"Yr unig ffordd o'ch chi'n gallu mynd mas o'r tŷ i wneud rhywbeth heb cael rhieni yna oedd mynd i eisteddfodau so o'n ni wastad yn cystadlu yn y gân bop ac ennill arian.

"Naethon ni ennill cyfle i recordio EP. Dim ond canu a harmonies o'n i'n wneud - Linda [fy chwaer] oedd yn chwarae'r gitâr, a'i ffrind hi, Catrin. O'n i jyst yn gwneud canu pert."

Y recordiau prin (a gwerthfawr!) Cymraeg

Ffynhonnell y llun, Discogs
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Pat yn canu gyda Y Cymylau: ei chwaer Linda oedd yn ysgrifennu'r caneuon a chwarae'r gitâr

Ffurfiwyd Slugbait ar ôl iddi gyfarfod pobl oedd yn rhannu ei chariad at pync.

"Brynes i gitâr fâs i chwarae, o'n i jyst yn dwli ar sŵn gitâr fâs, oni ishe cael 'neud y sŵn 'na.

Ffynhonnell y llun, llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Pat yn nyddiau Slugbait

"Gethon ni gigs, oedd e ddim yn llwyddianus iawn... [ond] oni'n licio'r agwedd. O'n i'n mynd mas gyda drymar oedd yn licio stwff Siouxsie and the Banshees a Sex Pistols... o'n i'n cael fy addysg ganddo fe.

"O'n i eisiau clywed rhywbeth yn y Gymraeg oedd yn neud i fi eistedd lan a meddwl 'Waw, mae hwn yn amazing, mae hwn jyst y peth o'n i'n dishgwl amdano'. A 'na beth oedd Datblygu."

Y bardd Ifor ap Glyn wnaeth ei chyflwyno i Datblygu, ac mae'r gweddill yn hanes...

"Oedd dim troi rownd ar ôl clywed nhw oedd rhaid i fi wneud rhywbeth amdano fe, es i weld nhw yn Blaendyffryn ac unwaith o'n nhw wedi cwpla canu, off â nhw.

"Oedd rhaid i fi redeg ar ôl nhw i ddweud 'helo, ble allai gael mwy o caneuon chi?'"

Dywedodd David wrthi am ysgrifennu atyn nhw i'r cyfeiriad oedd ar y casét.

"So dechreuon ni sgrifennu at ein gilydd. Wedes i bo fi'n chware bâs a wnaeth e sgrifennu i gwahodd fi i ddod i chware gyda nhw.

Pan doedd hi ddim yn ysgwyd seiliau'r sîn gyda David, roedd Pat yn gweithio fel fferyllydd

"O'n i eisiau bod yn herbalist ond oedd dim cyfle i fynd i brifysgol i neud e, ond y cwrs yng Nghaerdydd oedd rhywbeth o'r enw pharmacognosy, i wneud gyda phlanhigion a sut oedd planhigion yn gallu bod yn rhan o ymchwil i wneud meddyginiaeth newydd."

Cafodd ei swydd gyntaf yn Ysbyty Bronllys ym Mhowys yn gofalu am drefniadau fferyllol ysbytai bach y sir a helpu cleifion gyda'u meddigyniaeth.

Daeth Pat a David yn gariadon a datblygodd partneriaeth ysgrifennu arbennig rhyngddyn nhw

"Wedyn oedd David a fi yn dechrau mynd mas gyda'n gilydd a unwaith o'n ni'n hala mwy o amser gyda'n gilydd oedd cyd-gyfansoddi yn dod yn rhwydd ... oedd e mor rhwydd i weithio gyda.

Buon nhw'n byw gyda'i gilydd am bedair blynedd gan sôn am briodi wedi i Dave gael swydd.

"Oedd yr yfed yn cymryd drosodd, oedd dim lot o gyfle i fod mewn swydd."

Disgrifiad o’r llun,

Pat a Dave yn y dyddiau cynnar

Daeth pethau i ben oherwydd y straen. "O'n ni'n dal i neud cerddoriaeth, oedd hwnna'n iawn ond oedd straen oherwydd yr alcohol a ddim yn gallu gweithio

"Pan oedd e'n iach oedd e mor neis i 'nabod; cyfaill mor dda i fi.

"Oedd e wedi arfer yfed, fi'n credu ers oedd e'n 14 - a cymryd gliw - Gliw i Fyw [cân Datblygu] yn y tapiau cynnar. Oedd e'n diodde, o iselder a hyder gyda merched a pethe fel'na ond oedd e'n gallu sgrifennu mor dda amdano fe i gyd.

"Rwy'n credu oedd e'n cael mwy o hyder yn mynd mewn i cocktail cabinet ei rieni pan oedden nhw mas."

Disgrifiad,

Pat Datblygu yn siarad yn deimladwy am farwolaeth ei ffrind Dave Edwards.

Roedd yn rhy boenus iddi wrando ar yr albwm Libertino am amser hir

"Gyda Libertino oedd dechrau pethau'n mynd ychydig bach yn wyllt; gormod o yfed... oedd e'n llanast rhan fwyaf o'r amser. O'n i ddim yn gallu gwrando arno fe pan naethon ni fe ond ar ôl 'boiti pum mlynedd nes i wrando arno fe ac o'n i'n meddwl, waw mae hwn yn actually quite good! Ond oedd pethe mor bersonol... brwydr rhyngthon ni. O'n i dal i fod yn rhan o'r band ond oedd e.. ddim yn gyfforddus iawn."

Roedd Datblygu yn dal i weithio ar ganeuon pan fu farw David yn 56 mlwydd oed

Ffynhonnell y llun, Pat morgan
Disgrifiad o’r llun,

Pat a David yn 2020 wedi lawnsiad yr albwm Cwm Gwagle

"O'n i ddim yn disgwyl e o gwbl.

"O'n ni'n siarad ag e pob wythnos, dwywaith yr wythnos, a gadael neges os oedd e'n cysgu... wedyn oedd e'n ffonio fi nôl. Ond ar ôl tri diwrnod o'n i'n dechrau becso.

"Yn y diwedd penderfynon ni, reit does neb wedi clywed dim byd am tri diwrnod rhaid inni gael heddlu, torri mewn, ac oedd e wedi marw. Trawiad calon ddywedodd y coroner."

Trefnodd Pat bod caneuon Datblygu yn atseinio yn yr eglwys yn angladd David

Pat wnaeth drefnu angladd David a chafodd miwsig Dave le canolog.

"Oedd chwech ohonon ni yn gwneud teyrnged ... hefyd gallu chwarae caneuon Dablygu yn yr eglwys, oedd hwnna yn rhywbeth o'n i mor falch ein bod ni'n gallu gwneud.

"I ddechrau, pan daeth yr arch mewn wnaethon ni chwarae Cân i Gymru, oedd pawb yn gwenu wrth gwrs ar hwnna! Wedyn Cyn Symud i Ddim, yn addas iawn; wedyn Nefoedd Putain Prydain, achos oedd e'n dweud am yr angylion yn chwarae tapiau Datbygu yn y fynwent.

"A wedyn i fynd mas, Y Teimlad - dewis addas fi'n credu."

Ffynhonnell y llun, llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Pat yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda murlun o lun enwog o David yn Pesda Roc

Yn 2023 cyhoeddwyd casgliad o bedwar CD o ganeuon Datblygu, gan gynnwys traciau sydd heb eu clywed o'r blaen, dan y teitl Terfysgiaith.

Hefyd o ddiddordeb: