Y recordiau prin (a gwerthfawr!) Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Os oes ambell i albwm yn hel llwch yn yr atig, mae'n syniad estyn am y dystar...
 hithau'n Ddiwrnod y Siop Record ar 22 Ebrill, fe ofynnodd Cymru Fyw i'r casglwr recordiau Rhys Lloyd Jones am rai o'r feinyl prin Cymraeg sydd o gwmpas.
Ac mae'n amlwg o'u prisiau bod ambell un - hen a newydd - werth eu cadw nid yn unig oherwydd y gerddoriaeth...
Tymhorau - Y Ffenestri
Recordiau Fflach, 1985
"Nes i ddod ar draws chwe chopi drwy hap a damwain o'r albwm yma gan Y Ffenestri, sef grŵp Martin Geraint o'r 80au. Gyrrais gopi i Paul Hillery, ffrind a DJ y Polyphonic Spree, sy'n hoffi stwff naws electrig.
"Doedd o ddim at ei ddant felly rhoddodd gopi i fyny ar y we am £140 a meddwl bod ganddo siawns mul o gael hynny - a wnaeth casglwr o Japan ei snapio i fyny mewn pum munud.
"Mae casglwyr ledled y byd eisiau hwn am y synau synth 'stanger things' ac mae'r albwm yn sôn am fywyd yn gaeth i gyfrifiadur felly mae'n reit broffwydol.
"Fyddai copi glân efo'r cerdyn post ddaeth efo fo yn mynd am £140 yn ddi-drafferth."
Hiraeth - Endaf Emlyn
Recordiau Dryw, 1972
"Yr un sy'n dal i ddod â dŵr i ddannedd casglwyr. Mae hwn yn cael ei gysidro'n un o recordiau mwyaf Endaf - ond mae pob record Endaf yn dal ei bris.
"Roedd gan Endaf ffordd unigryw o weithio, wedi rhyddhau tri sengl ar Parlophone ac efo sŵn y swinging 60s. Roedd yn gallu codi caneuon gwerin Cymru fel Ar Lan y Môr (ar Salem) i rywle arall.
"Mae bootlegs o Hiraeth wedi dod allan ond yn 2009 cafodd un gwreiddiol ei werthu am dros £600, ond mae £400 mwy fel y going rate."
Mwng - Band Pres Llareggub
MoPaChi, 2015
"O ran recordiau cyfoes, mae fersiwn Band Pres Llareggub o Mwng yn un i edrych allan amdano.
"Dim ond run o 200 wnaethon nhw a heb wneud ail argraffiad. Mae werth £130 yn hawdd am gopi heb ei chwarae.
"Mae 'na gynulleidfa i hon. Mae 'na gasglwyr Super Furry Animals (wnaeth yr albwm gwreiddiol) ar draws y byd fyddai efo diddordeb ei phrynu hi.
"Mae'n record dda yn ei hun, mae drymio Gethin Efs yn debyg i stwff James Brown ac mae'n oddity. Mae'n sicr yn 'one to watch'."
Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwll-llantysiliogogogoch - Aled a Nia
Recordiau Tryfan, 1978
"Roedd lot o dwristiaid ac ymwelwyr yn prynu hwn felly maen nhw'n tueddu i droi fyny'n llefydd fel Swydd Efrog neu'r Wirrall yn hytrach na Chymru.
"Mae 'na fersiwn o Lisa Lân arni ac mae'n swnio fel y grŵp Portishead. Mae'n swnio'n hollol estron i sesiynau eraill a recordiwyd yn stiwdio Sain ar y pryd (1978) efo lot o vibraphone a synths ac mae awch mawr am y math yna o beth yng nghylchoedd cynhyrchwyr cerddoriaeth dawns.
"Daeth y casglwr Charles Yorke â hwn allan i wrandawyr newydd, anaml mae yn troi fyny ac mae werth £50."
Y Diwedd - Betsan Lloyd
SoSo Sound, 1983
"Synths unwaith eto. Fe gafodd llai na 100 copi o'r record fer yma ei ryddhau, ac mae werth £50."
Y Cymylau - Y Cymylau
Recordiau Dryw, 1972
"Anaml mae hwn yn troi fyny a gan mai prosiect cerddorol cyntaf Pat Morgan o Datblygu ydy hwn; mae o ddiddordeb mawr i gasglwyr ac felly mae'r record fer werth tua £50.
"Ddaeth Y Cymylau yn ail mewn brwydr y bandiau lleol. Band roc swnllyd wnaeth ennill a doedd Recordiau Dryw methu eu recordio nhw - felly wnaethon nhw recordio Pat a'i chwaer oedd m'ond angen dau ficroffon.
"Mae o'n hollol wahanol - girl pop o'r 60au a 70au cynnar, a gitâr Pat yn fwy rockabilly a'r harmonis yn iasol."
EP Meic Stevens
Newyddion Da, 1970
"Mae sawl record Meic Stevens werth edrych allan amdanyn nhw ac maen nhw'n cael ei gweld fel pinacl recordiau gwerin seicadelaidd Cymraeg.
"Dwi'n cofio cael copi o Gwymon mewn siop yn Bala am £1 - prynu job lot ac roedd y record yma yno. Doeddwn i ddim yn fy ngweld i'n gwrando arni gan mod i'n gwybod bod hi'n ddrud felly nes i werthu hi - a hanner yr hwyl ydi gobeithio ffeindio un arall yn rhywle. Maen nhw'n gallu bod werth £500-600.
"Mae Gwymon yn troi fyny - ti'n clywed straeon am bobl yn pigo nhw fyny mwy na Gôg neu Outlander, neu Gitâr yn y Twll Dan Stâr.
"Ond yr EP yma ar Newyddion Da fyddai unrhyw gasglwr eisiau. Ddaeth o allan yn Eisteddfod 1970 ar label Meic ei hun, a wnaeth lot gael eu trashio cyn i bobl gyrraedd eu tent.
"Wnaeth 10 copi landio yn siop Gray Thomas, Caernarfon, a dwi'n meddwl mai un o'r rheiny sydd gen i.
"Yn 2013, dalodd un person £750 am gopi. Mae £350 yn bris teg, er mae rhai (heb glawr) wedi gwerthu am gyn lleied â £25."
Lleisiau - Artistiaid Amrywiol
Recordiau Adfer, 1975
"Dim siawns i hwn gael ei ail ryddhau ar finyl, gyda Meic Stevens yn anhapus hefo'i dracs fel dwi'n deall.
"Mae'r clawr unigryw or-fawr yn ei gwneud yn anodd ffeindio un mewn cyflwr fel y newydd. Werth £120."
Smaragdus - Hen Lefydd Ynys Môn
Do It Theseen Records, 2020
"Record 10 modfedd gan fand a fu, neu artistiaid talentog yn cael hwyl? Pwy a ŵyr...
"Fe gafodd 40 copi ei wneud ar dorrwr feinyl lathe. Werth ei archebu am £17 nawr. Fydd werth £100 mewn llai na blwyddyn."
Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl yma fis Awst 2021.
Hefyd o ddiddordeb: